91Èȱ¬

Cerddor Ail Symudiad, Wyn Jones wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Wyn Lewis Jones ar y chwith, gyda'i frawd Richard, mewn sesiwn recordio i 91Èȱ¬ Radio Cymru yn 2012

Bu farw'r cerddor, cynhyrchydd, a chyfarwyddwr cerdd, Wyn Jones.

Sefydlodd y grŵp Ail Symudiad yn Aberteifi gyda'i frawd Richard yn 1978 ar ddiwedd y cyfnod pync, ac roedd synau amrwd y cyfnod hwnnw'n ddylanwad ar yr aelodau o'r cychwyn.

Fe wnaethon nhw ryddhau nifer o recordiau poblogaidd dros 40 mlynedd, a sefydlu label recordiau annibynnol Fflach a stiwdio recordio yn Aberteifi.

Wyn Jones oedd yn chwarae'r gitâr fas ac roedd hefyd yn llais cefndir i'r band.

Disgrifiad o’r llun,

Y band yn eu gig cyntaf ym Mart Aberteifi ym Mai 1979

Cafodd sain Ail Symudiad ei ddylanwadu gan grwpiau fel y Trwynau Coch, Buzzcocks, The Clash a'r Sex Pistols.

Ymysg eu caneuon mwyaf poblogaidd roedd 'Garej Paradwys', 'Twristiaid yn y Dre', 'Llwyngwair' a 'Geiriau'.

Roedd y grŵp ymysg y rhai cyntaf i hanu o'r ardal oedd yn canu caneuon roc, ac yn wahanol i nifer o fandiau poblogaidd Cymraeg y cyfnod, ni chafodd ei ffurfio mewn coleg na phrifysgol.

Cam cyntaf yr aelodau gwreiddiol oedd anfon casét o ganeuon at Eurof Williams, cynhyrchydd rhaglen Sosban yn Abertawe ar y pryd, a hynny yn dilyn cyngor gan rai o aelodau'r Trwynau Coch.

Buan iawn y tyfodd y gwerthfawrogiad a'r gynulleidfa, ac yn ystod y 1980au roedd y band yn perfformio mewn cyngherddau ar draws Cymru.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ail Symudiad yn perfformio ar raglen 'Y Stiwdio Gefn' S4C yn 2014

Enillodd y band y wobr prif grŵp roc yng Ngwobrau Sgrech yng Nghorwen yn 1982, flwyddyn ar ôl sefydlu eu label recordiau eu hunain dan enw Label Fflach.

Eu bwriad oedd recordio caneuon gan grwpiau newydd oedd yn datblygu yn y cyfnod hwnnw - grwpiau fel Y Ficar ac Eryr Wen.

Sefydlwyd is-label Fflach:tradd yn 1997 gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth corau, bandiau pres ac artistiaid gwerin.

'Cymeriad tyner a direidus'

Dywedodd y cyflwynydd a chyfaill i Wyn Jones, Richard Rees, bod ei gyfraniad i'r byd cerddorol yn "enfawr".

"Roedd Wyn wastad yn dawel, yn rhan o'r peth ond yn dawel, ond wrth gwrs o' chi'n dod i ddeall yn gloi iawn bod gan Wyn syniade pendant iawn ambyti pethe, a pan oedd e yn mynegi ei farn, o'dd e'n mynegi ei farn yn gadarn iawn, iawn.

"Fwy nag Ail Symudiad, pan chi'n meddwl am eu cyfraniad nhw gyda Fflach, a'r cyfleoedd ma' nhw 'di rhoi i gymaint o bobl, a Wyn wrth gwrs yn gynhyrchydd arbennig, yn gerddor arbennig, ac wedi 'neud cyfraniad enfawr ei hunan heb sôn am Fflach ac Ail Symudiad.

"O'dd Wyn ei hunan yn berson arbennig iawn, iawn, ac mi fydd 'na golled mawr ar ei ôl e."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Elin Jones

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Elin Jones

Yn fwy diweddar mae artistiaid yn cynnwys Y Ffug, Bromas, MC Mabon a Swci Boscawen wedi recordio a rhyddhau cerddoriaeth ar yr is-label Rasp, sef llwyfan a sefydlwyd yn 2000 ar gyfer artistiaid newydd ac arbrofol.

Cafodd y cerddor Peredur ap Gwynedd ei gyfle cyntaf i recordio mewn stiwdio gydag Wyn Jones pan yn 13 oed.

"Dyna le oedd Wyn wrth y ddesg, yn barod i ddechre, a dysgodd e siwt gymaint i fi, hyd yn oed ar y diwrnod 'ny," meddai ar Dros Frecwast.

"Wrth gwrs o'n i'n clywed nhw ar y radio trwy'r amser… pan o'n i'n ddigon hen i fynd i gigs, pan o' ti'n clywed nhw fyw, dyna pryd o' ti'n sylweddoli pa mor dda o' nhw, pa mor dda o' Wyn.

"O'dd e'n 'neud pethe mor dechnegol o'n i'n edrych arno fe a meddwl 'Waw, mae hyn yn rhywbeth arall'."

Dywedodd bod y ddau frawd, Richard a Wyn, fel "double act", "jyst yn 'neud ti chwerthin".

"O'n i byth wedi gweld Wyn yn grac o gwbl, pob tro o' ti'n cerdded mewn i 'stafell o'dd e'n 'neud i ti wenu. Dyna'r peth pwysig amdano."

Disgrifiad o’r llun,

Wyn Lewis Jones (yn sefyll) gyda'i frawd Richard yn 2018

Dywedodd y cerddor Ywain Gwynedd bod Wyn Jones yn "foi da, annwyl a hwyl".

Ychwanegodd: "Fflach oedd y label cynta' i rhoi cyfle i fi fel artist fel rhan o Yr Anhygoel; Wyn wrth y ddesg yn cracio jôcs a'n annog i arbrofi 'efo'n cerddoriaeth.

"Meddwl am ei deulu heddiw â coffa da am y 'symudwr' yn Ail Symudiad."

Dywedodd Elin Jones, AS Ceredigion, ei fod yn "gymeriad tyner a direidus" a bod ei farwolaeth yn "ergyd eto i'r byd pop Cymraeg ac i dref Aberteifi".

Yr wythnos hon, bu farw un o fawrion eraill y byd cerddoriaeth yng Nghymru - a brodor o Aberteifi - David R Edwards yn 56 mlwydd oed.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Hanes Aberteifi

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Hanes Aberteifi

Yn 2010 Ail Symudiad oedd enillwyr categori Cyfraniad Oes Gwobrau RAP 91Èȱ¬ Radio Cymru.

Cafodd Wyn a Richard Jones eu hurddo â'r wisg werdd wrth gael eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.

Bu newidiadau yn aelodau'r band dros y blynyddoedd ac fe fu cyfnod pan nad oedden nhw'n perfformio.

Serch hynny fe ddaeth Ail Symudiad yn enw cyfarwydd a phoblogaidd i genedlaethau o Gymry oedd yn ymddiddori ym myd cerddoriaeth a'r sin roc Gymraeg dros bedair degawd.

Yn ganolog i lwyddiant y band, ac i'w sain unigryw, oedd Wyn Lewis Jones.