Prif leisydd Datblygu, David R Edwards wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor a phrif leisydd y band eiconig Datblygu, David R Edwards, wedi marw yn 56 oed.
Roedd 'Dave Datblygu' yn un o gerddorion mwyaf blaenllaw y sin gerddoriaeth amgen yng Nghymru ers dechrau'r 1980au.
Cafodd y grŵp ei ffurfio yn 1982 gan David R Edwards a T Wyn Davies, bechgyn ysgol o Aberteifi, gyda Pat Morgan yn ymuno dwy flynedd yn ddiweddarach.
Mae sawl un o recordiau'r band yn cael eu hystyried ymysg y pwysicaf yn hanes cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.
Dywedodd datganiad gan labeli recordiau Ankst a Pyst bod Edwards wedi marw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos.
'Personoliaeth enfawr'
Ar Twitter, dywedodd Ms Morgan: "Mae'n boen enfawr i fi i feddwl nad yw David gyda ni mwyach.
"Roedd yn un o'r ffrindiau gorau y gallech chi erioed eu cael. Personoliaeth enfawr ac hael; arth o ddyn.
"Cyffyrddodd ei ysgrifennu â phobl, i rhoi swcwr, cariad, dicter a hiwmor."
Dywedodd Ankst a Pyst bod tri o recordiau'r grŵp, Wyau, Pyst a Libertino, yn "cael eu cydnabod fel pinacl artistig pwysicaf ein diwylliant roc cyfoes".
"Cyfanwaith a oedd yn gyfrifol am ail ddiffinio perthynas yr iaith Gymraeg gyda diwylliant roc.
"Llais artistig a lwyddodd i groesi ffiniau a denu cefnogaeth frwd unigolion fel John Peel."
Roedd y diweddar John Peel, un o DJs enwoca'r byd, yn gefnogwr brwd o'u cerddoriaeth, ac fe wnaeth y Super Furry Animals fersiwn eu hunain o gân Datblygu, 'Y Teimlad' yn ddiweddarach.
Yn 2012 bu'r band yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu gydag arddangosfa arbennig yng nghaffi Waffle y brifddinas.
Cyhoeddwyd hunangofiant David R Edwards gan Y Lolfa yn 2009, ac fe wnaeth ryddhau cyfres o gerddi Saesneg yn 2017.
Rhyddhawyd albym olaf Datblygu - Cwm Gwagle - yng nghanol y pandemig llynedd.
'Un o gewri ein diwylliant'
Mewn cyfweliad gyda 91Èȱ¬ Cymru Fyw yn 2014, fe soniodd am ei angerdd dros yr iaith Gymraeg, ei deimladau am y sin gerddoriaeth gyfoes a'i broblemau iechyd.
"Ar un adeg ro'n i'n sâl ac yn methu functiono," meddai, "oedd y doctoriaid yn rhoi ffisig i fi ond doedd e ddim yn gweithio'n iawn, ond mae'r cyffurie dwi'n cal nawr a'r doctoriaid nawr yn berffaith, ac yn cadw fi'n wastad.
"Yn y gorffennol o'dd gyda fi broblem gyda alcohol, ond nawr dwi'n gallu rheoli fe. Dwi'n cal ambell i ddrinc ond ddim byd dros ben llestri."
Ar Dros Frecwast, dywedodd y DJ, a chyfaill i Edwards, Gareth Potter, bod "Cymru wedi colli un o'r mawrion cerddorol, ond mae lot ohonon ni wedi colli ffrind annwyl".
"Dwi yn ffan massive o'i fiwsig e, a ffan massive o'r effaith gafodd e ond hefyd roedd e'n ffrind. Fi wedi 'nabod e ers dechrau yr wythdegau."
Ychwanegodd: "O'dd gyda fe lais unigryw, y bariton - really gwerth gwrando arno - ond hefyd yn sgwennu geiriau clyfar, bachog a weithiau jyst yn torri trwy yr holl nonsens, o'dd da fe ryw dalent anhygoel i 'weud beth o' chi yn meddwl. Fe oedd prifardd y sin tanddaearol felly.
"Roedd fe a Pat yn gallu creu sŵn… oedd e'n cyffroi pobl oedd ffili siarad Cymraeg.
"O'dd John Peel yn dweud 'Makes me want to learn Welsh' a dwi'n meddwl bod e wedi helpu a wedi cyffroi pobl i ddysgu Cymraeg."
'Y llais a'r geiriau yn parhau i ysbrydoli'
Ychwanegodd Ankst a Pyst bod Edwards yn "un o gewri mawr ein diwylliant cyfoes gyda'i dalent unigol fel bardd a cherddor yn gyfrifol am gynnau'r tân sy wedi siapio'r diwylliant cyfoethog rydym yn fwynhau heddiw".
"Mi oedd David yn unigolyn cariadus, ffyddlon, creadigol, caredig, doniol a doeth ac mi fydd colled enfawr ar ei ôl," medden nhw.
"Heb David ni fuasai Recordiau Ankst wedi bodoli a heb gyfeillgarwch, talent a chariad David dros y degawdau mi fasa bywyd yma yng Nghymru wedi bod yn llawer tlotach a di-wefr.
"Mi fydd y llais a'r geiriau yn parhau i ysbrydoli a rhyfeddu. Heb os mae ein dyled heddiw i David yn enfawr am rannu ei fywyd a'i ddawn gyda ni.
"Mae ein cydymdeimlad yn mynd allan i deulu a ffrindiau David yn y cyfnod anodd, torcalonnus yma."