Cyfnod clo byr yn dod i rym yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyfnod clo byr wedi dod i rym yng Nghymru am 18:00 nos Wener, ac fe fydd yn para am 17 diwrnod.
Cafodd y cyfnod clo byr - fydd yn parhau tan 9 Tachwedd - ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Llun.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cymryd y cam er mwyn ceisio sicrhau na fydd y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei lethu.
Mae dros 40,000 o bobl bellach wedi'u heintio yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, gyda 1,756 o farwolaethau.
Beth mae'r cyfnod clo byr yn ei olygu?
Fel yn achos y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth, mae'n rhaid i bobl aros adref er mwyn mynd i'r afael 芒'r cynnydd diweddar mewn achosion coronafeirws.
Bydd yn rhaid cael rheswm dilys i adael eich cartref, sef:
prynu bwyd;
casglu meddyginiaethau;
darparu gofal;
ymarfer corff;
mynd i weithio, os nad yw'n bosib gweithio o adref. Mae gweithwyr allweddol yn eithriad i hyn.
Bydd yn rhaid parhau i wisgo mygydau mewn mannau dan do cyhoeddus, sy'n parhau ar agor.
Bydd archfarchnadoedd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post yn parhau ar agor, ond bydd pob siop nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn cau o 18:00 ddydd Gwener.
Fel yn achos y cyfnod clo gwreiddiol, mae busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden hefyd yn gorfod cau, ond bydd modd i fwytai gynnig gwasanaeth prydau parod.
Mewn cynhadledd i'r wasg yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford mai bwriad y cyfnod clo newydd oedd i "achub bywydau, nid achub y Nadolig".
"Mae yna bethau y gallwn eu gwneud, ac y gallwn eu gwneud gyda'n gilydd, i wneud yn si诺r bod y Nadolig o fath yn dal i gael ei ddathlu yma yng Nghymru," meddai.
"Gadewch inni obeithio bod y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith mewn mannau eraill yn llwyddo hefyd, ac yna byddwn ni i gyd yn gallu cwrdd 芒 theulu, gyda ffrindiau - cael rhyw fath o Nadolig, lle mae rhywbeth i ni i gyd ei ddathlu o hyd."
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cyfarfod i drafod y camau nesaf ar 么l y clo yn digwydd ddydd Mawrth.
Dywedodd Eluned Morgan AS ar raglen Newyddion y byddai penderfyniad yn debygol ddydd Iau.
'Bydd y stats yn dangos'
Yn Nhrecelyn, Caerffili, dywedodd Jeremy Lovesey ei bod hi'n nos Wener arferol iddo a Sharon Hale, oedd yn cael pryd tecawe.
"Cyn belled dwi yn y cwestiwn - anghofiwch e, bydd neb yn cymryd sylw ohono fe," meddai.
"Costiodd y clo diwethaf, achos bod rhaid i fi hunan-ynysu, 拢3,000 mewn cyflog - achos oll o'n i'n gallu cael o'dd 拢95 yr wthnos."
Dywedodd Sharon: "Pam pythefnos? Beth fydd hynny'n sicrhau? Dwi ddim yn meddwl bydd pythefnos yn sicrhau dim byd."
Yn Llanbedr Pont Steffan, dywedodd y Cynghorydd Hag Harries y byddai'n rhaid aros i weld beth fydd effaith y clo byr.
"Ar 么l y clo, bydd y stats yn dangos os ydy o'n llwyddo neu beth," meddai.
"I ddweud y gwir dwi bach yn sceptical am hynny, ond os mae'r cynllun yn helpu'r NHS i ymdopi gyda'r demand, dwi o blaid e."
Nwyddau hanfodol ar werth yn unig
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "fater syml o chwarae teg" na fyddai archfarchnadoedd yn cael gwerthu eitemau a werthwyd gan siopau y mae'n ofynnol eu cau yn ystod y cyfnod clo.
"Rydyn ni'n mynnu bod cannoedd o fusnesau bach yn cau ar y stryd fawr ledled Cymru," meddai.
"Ni allwn wneud hynny ac yna caniat谩u i archfarchnadoedd werthu nwyddau nad yw'r bobl hynny'n gallu eu gwerthu."
Nod y clo, meddai Mr Drakeford, oedd "lleihau faint o amser y mae pobl yn ei dreulio allan o'u cartrefi yn ystod y cyfnod o bythefnos".
"Nid yw hwn yn gyfnod i fod yn pori o amgylch archfarchnadoedd yn chwilio am nwyddau nad ydyn nhw'n hanfodol."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y cyfnod clo yn "anghymesur", ac mae Plaid Cymru wedi beirniadu diffyg cyfathrebu y llywodraeth.
Mae pryder hefyd am yr effaith gaiff y cyfnod clo byr ar fusnesau Cymru.
CYFNOD CLO BYR: Beth mae'n ei olygu i mi?
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020