91热爆

Dyfodol Galeri yn 'ddiogel am y tro' wedi grant 拢1m

  • Cyhoeddwyd
GaleriFfynhonnell y llun, Google

Mae grant gwerth bron i 拢1m wedi "achub" canolfan Galeri, Caernarfon rhag orfod cau am gyfnod ddiwedd y flwyddyn.

Cyhoeddwyd ddydd Mawrth y byddai'r ganolfan greadigol yn derbyn 拢934,424 fel rhan o becyn cymorth gan Lywodraeth Cymru er mwyn delio 芒 sgil-effeithiau'r pandemig.

Yn 么l prif weithredwr y ganolfan, Gwyn Roberts mae'r arian yn golygu bod modd dod 芒'r broses o ddiswyddiadau i ben, a bod dyfodol y ganolfan yn ddiogel am y tro.

Mae 拢27.5m wedi ei ddosbarthu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sawl cwmni a menter gan ddiogelu "o leiaf 1,800 o swyddi".

Fis Medi fe gyhoeddodd Galeri eu bod wedi dechrau'r broses o ymgynghori gyda staff er mwyn cwtogi oriau a diswyddo oherwydd effaith ariannol y pandemig.

'Rhyddhad'

Mae 85% o incwm Galeri yn incwm masnachol, a phan fu rhaid i'r ganolfan gau ym mis Mawrth fe wnaeth yr incwm ostwng o 拢204,000 i 拢46,900.

Yn 么l Gwyn Roberts mae'r grant yn "rhyddhad mawr".

"Mae'r arian yn golygu bydd 'na ddim rhaid inni gau dros y Nadolig efo dyfodol ansicr ar 么l hynny," meddai.

"Mi oeddan ni wedi dechrau ar y broses o ddiswyddiadau staff ond fydd hwnnw ddim yn gorfod mynd yn ei flaen - sy'n fwy o ryddhad.

"'Da ni allan o'r cyfnod ansicr lle doedden ni ddim yn gallu rhagweld na chynllunio dim byd."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai aelodau staff Galeri wedi penderfynu gadael yn ystod y misoedd diwethaf

Mae rhai staff wedi penderfynu gadael dros y misoedd diwethaf, yn 么l Mr Roberts, ond mi fydd pawb arall yn cadw eu swyddi.

Yr her r诺an i'r canolfannau diwylliannol a chelfyddydol fydd denu cwsmeriaid yn 么l.

"Dwi'n hyderus y byddwn ni'n gallu gwneud hi tan gwanwyn nesa' a gobeithio bydd y byd yn edrych yn wahanol," meddai Mr Roberts.

Ymhlith rhai o'r canolfannau eraill a dderbyniodd arian gan y Cyngor Celfyddydau oedd:

  • Canolfan y Mileniwm (拢3,900,180);

  • Theatr Mwldan, Aberteifi (拢228,000); a

  • Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth (拢599,448).