Pryder am swyddi Galeri Caernarfon oherwydd diffyg incwm
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon wedi gorfod dechrau proses ymgynghori gyda'r staff gan ei bod yn bosib y bydd rhaid cwtogi oriau a dileu swyddi.
Mi fydd cynllun saib swyddi'r llywodraeth, ffyrlo, yn dod i ben ddiwedd mis Hydref a fydd gan Galeri ddim incwm, oherwydd cyfyngiadau Covid, i dalu cyflogau.
Mae'r ganolfan wrthi'n paratoi cais i Gyngor y Celfyddydau am gyfraniad o'r gronfa gwerth 拢53m sydd ar gael i gynorthwyo sefydliadau celfyddydol yng Nghymru, ond fyddan nhw ddim yn gwybod faint o arian y byddan nhw'n ei dderbyn tan ganol Hydref.
Mae 85% o incwm Galeri yn incwm masnachol, a phan fu rhaid i'r ganolfan gau ym mis Mawrth fe wnaeth yr incwm ostwng o 拢204,000 i 拢46,900.
Mae'r cynllun ffyrlo wedi galluogi'r ganolfan i barhau i gyflogi'r 48 aelod o staff, ond y mis hwn mae cyfraniad y llywodraeth yn gostwng a bydd y cynllun yn dod i ben yn llwyr ddiwedd mis Hydref.
Golygai hynny y byddai rhaid i Galeri ddod o hyd i 拢48,000 y mis i dalu cyflogau.
Yn amlwg gan nad oes unrhyw weithgaredd celfyddydol yn digwydd i ddenu incwm mae Galeri yn wynebu argyfwng.
"Be' mae'n olygu ydy y bydd Galeri yn wynebu sefyll ar ymyl y dibyn yn ariannol diwedd Hydref pan fydd y cynllun yn dirwyn i ben yn gyfan gwbl," medd cadeirydd bwrdd Galeri, Iestyn Harris.
"Felly bydd rhaid ceisio sicrhau ffynhonnell arall o arian os ydyn ni am osgoi gorfod diswyddo staff ar sail gormodedd."
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i Gyngor y Celfyddydau i gynorthwyo sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.
Mae 拢53m ar gael ond fydd Galeri, na'r un sefydliad arall, yn cael clywed faint o arian y byddan nhw'n ei dderbyn o'r gronfa tan ganol Hydref.
Gan na fydd ganddyn nhw arian i dalu cyflogau ym mis Tachwedd mae prif weithredwr Galeri, Gwyn Roberts wedi gorfod dechrau trafod posibilrwydd diswyddo hefo'r staff yn barod.
"Mae o'n sefyllfa anodd iawn, mae rhywun yn dod i adnabod pobol fel unigolion a dydy hi byth yn hawdd i drosglwyddo newyddion drwg i bobl a'r posibilrwydd y buasen nhw yn gallu colli eu swyddi," meddai.
"Ond dwi'n gobeithio mai paratoi ar gyfer y senario gwaethaf posib ydan ni, ac na fyddan ni'n gorfod gweithredu fo yn y pen draw.
"Mae hynny wrth gwrs yn ddibynnol arnon ni yn cael penderfyniad ffafriol gan Gyngor y Celfyddydau ganol mis Hydref."
Mi fydd Galeri yn cyflwyno cais am gymorth ariannol erbyn dydd Mercher nesa'.
Maen nhw'n gobeithio clywed faint o arian y byddan nhw'n ei dderbyn gan Gyngor y Celfyddydau ar 16 Hydref.
Dyna hefyd pryd y bydd staff y ganolfan yn cael gwybod a fydd ganddyn nhw swydd dros y gaeaf ai peidio.
Mae'r Aelod Senedd Cymru lleol, Si芒n Gwenllian wedi dweud ei bod yn "mawr obeithio na fydd angen dileu swyddi yn Galeri Caernarfon".
"Mae'r Galeri yn gyflogwr pwysig, sy'n cyfrannu cymaint at fywyd diwylliannol ein hardal," meddai.
"Mewn cyfnod sydd eisoes yn heriol i'r diwydiant hwn, gall mwy o ddiswyddiadau fod yn drychinebus."
Y llywodraeth yn 'araf iawn yn sefydlu'r gronfa'
Mae Ms Gwenllian, sydd hefyd yn llefarydd Plaid Cymru dros ddiwylliant, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am "lusgo traed" gyda'r gronfa i helpu'r diwydiant.
"Rwyf wedi rhybuddio ers tro byd y bydd llusgo traed gyda'r gronfa 拢53m y soniwyd amdano rai misoedd yn 么l yn arwain at ansicrwydd i'r sector hwn," meddai.
"Yn anffodus mae Llywodraeth Cymru yn araf iawn yn sefydlu'r gronfa.
"Petai'r llywodraeth wedi gweithredu ynghynt, gellid fod wedi osgoi'r cyfnod hwn o ymgynghori yngl欧n 芒 diswyddo a'r holl ansicrwydd mae hyn yn ei greu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020
- Cyhoeddwyd17 Mai 2016