'Mae'n amser anodd, ond 'da ni'n cwffio drwyddo fo'
- Cyhoeddwyd
Ddyddiau'n unig cyn i gyfnod clo cenedlaethol newydd ddod i rym yng Nghymru, mae busnesau ar hyd a lled y wlad wedi bod yn paratoi ar gyfer y newid byd sydd i ddod.
Bydd y cyfnod clo yn weithredol am ychydig dros bythefnos, o ddydd Gwener tan ddydd Llun, 9 Tachwedd.
Daeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Llun mewn ymgais i atal y cynnydd mewn achosion coronafeirws yn y wlad.
Mae'n amser ansicr i'r rhan fwya' o fusnesau - ac yn bendant i fusnesau newydd sydd efallai ddim yn gymwys i gael help ariannol.
Ychydig ddyddiau ar ôl agor eu siop farbwr newydd ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd, mae Deio Glyn Roberts a Morgan Griffiths yn gorfod cau eu drysau nos Wener ar gyfer y cyfnod clo diweddara'.
Maen nhw'n galw am fwy o gymorth i fusnesau newydd fel eu busnes nhw.
Mae'n brysur i sawl siop barbwr gyda phobl eisiau tacluso eu gwalltiau cyn y clo. Ond i Farbwr Penrhyn mae pob eiliad yn cyfri - a'u hwythnos gynta' wedi'i thorri'n fyrrach na'r gwalltiau efallai.
"Yr amser gwaetha' i agor 'swn i'n d'eud, efo bob dim sy'n mynd ymlaen," meddai Deio.
"Ond ta waeth, dwi'n trio cael gymaint o bobl mewn wythnos yma a fedra' i.
"Mae'r ymateb 'di bod yn rili da i dd'eud y gwir, 'da ni'n llawn bron iawn. 'Da ni 'di penderfynu agor tan naw bob nos wythnos yma hefyd just i gael pawb i mewn, cael gymaint o bres a 'da ni'n gallu cyn gorfod cau."
Cymorth ariannol
Fel busnes newydd, does dim cymaint o opsiynau i Deio a Morgan gael cymorth ariannol.
"Dwi'm yn meddwl gawn ni lawer o gymorth," esbonia Deio. "Dwi'n sbio ar rai pethau ond ti'n gorfod cael llyfrau am chwe mis i gael y cymorth gan y llywodraeth.
"Fasa'n help mawr i fi a Morgan rŵan a ninna' ddim yn cael pres mewn rŵan am bythefnos, a 'da ni 'di cael ein gwneud yn redundant ryw fis yn ôl hefyd. Mae yn amser anodd ond 'da ni'n cwffio drwyddo fo.
Mae Deio yn cydnabod bod mentro i fyd busnes yn ddewr ar unrhyw adeg, ac yn sicr yng nghanol pandemig, ond mae'n ffyddiog bydd pethau'n gwella.
"O'dd gynno' ni lwyth o bobl lleol, llwyth o clients da, felly 'da ni'n gw'bod unwaith bydd y lockdown 'ma drosodd y bydda' ni nol i normal," meddai.
"Faswn i'n licio rhyw fath o gymorth i helpu ni achos 'da ni'n dal i dalu am bob dim er bod 'na ddim incwm yn dod mewn.
"Yn enwedig fel busnes newydd, 'da ni 'di gwario lot i gael y siop yn barod. Rwan 'da ni fod i wneud y pres yn ol i dalu amdano fo, ond dydy o ddim yn edrych yn dda ar y funud!"
Er yn sylweddoli bydd y cyfnod cynta' yn anodd, mae Deio yn edrych ymlaen i'r dyfodol:
"'Taswn i'n gw'bod, f'aswn i 'di agor yn lot cynt i drio cael pres mewn cyn yr ail lockdown 'ma," meddai.
"Ond ta waeth, 'da ni yma rŵan a 'da ni am drio'n gorau i gadw ar agor."
Diwydiant arall sydd wedi dioddef yn ystod y cyfnod clo diwethaf ydy'r diwydiant bragu cwrw, gan mai dim ond am gyfnod penodol mae'r cynnyrch yn aros yn ffres.
Dywedodd Emma Lochett o Fragdy Mws Piws ym Mhorthmadog eu bod wedi penderfynu defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn ceisio cael gwared ar y cynnyrch oedd ganddynt mewn stoc yn barod i'w werthu i'r diwydiant lletygarwch cyn y cyfnod clo.
"Tro diwethaf i ni fynd i lockdown fe oedd na lot o gynnyrch wedi mynd i wastraff, does gennym ni ddim ond wyth wythnos ar y casgenni er mwyn eu gwerthu nhw, felly mae cyfnod clo bach yn ei gwneud hi'n anoddach i ni.
"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel, a'r gefnogaeth wedi bod yn wych, ers i ni gyhoeddi'r hysbyseb 'da ni wedi gwerthu dros 600 o gasgenni bach.
"Heb gefnogaeth y cyhoedd fysa busnesau fel ni methu cario 'mlaen, rhwng y tri safle, mae 'na 35 o bobl yn gweithio i ni, a 'da ni isho bod mewn sefyllfa lle fydd 'na waith yn dal i fod yna i bawb."
'Mae'n drist iawn'
Un sydd wedi ei effeithio gan y cyfyngiadau newydd ydy Eifion Williams, sy'n gweithio i gwmni Gower Fresh Christmas Trees. Mae'r fferm yn arbenigo mewn tyfu pwmpenni a choed Nadolig, ac yn cynnig cyfle i gwsmeriaid ddewis eu pwmpenni eu hunain ar dir y fferm.
Y pythefnos nesaf, sydd yn arwain at Nos Galan yw'r prysuraf i'r cwmni fel arfer, ac mae Mr Williams yn dweud fod y cyfnod clo newydd yn mynd i fod yn ergyd fawr i'r busnes:
"Mae'n newyddion trist i weud y gwir… achos mae gwaith ofnadwy 'di mynd ymlaen ers Nadolig i baratoi i'r amser hyn.
"Mae lot o arian yn mynd i gael ei golli. Mae wedi bod yn lot o waith, ac wedyn ryn ni'n cael ein cloi lawr eto," meddai.
Mae'n amcangyfrif y bydd y cwmni wedi colli £10,000 o achos y cyfyngiadau newydd.
"Mae pump yn gweithio 'ma'n llawn amser trwy'r flwyddyn, ac wedyn amser Nadolig ma biti 50 yn gweithio 'ma.
"Mae yn anodd. Mae'n drueni. Mae costau o hyd. Mae'r costau yn para ymlaen, wrth gwrs gyda'r pobl sy fod gweithio yma. Mae Nadolig yn dod yn syth ar ôl hyn, a bydd pawb yn mynd fflat out i baratoi am hwnna, ac mae rhaid cadw pobl ymlaen, er bo ni di cau, ond ma rhaid cadw pobl ymlaen er hynny."
Maen nhw'n gobeithio gwerthu miloedd o bwmpenni, ond "mae'n mynd i fod yn anodd… so ni'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl dydd Gwener."
Ychwanegodd y bydd yn ras ar y cwmni i werthu cymaint o bwmpenni ag sydd modd rhwng dydd Mercher a dydd Gwener yr wythnos hon.
"Os yw pobl moyn y pwmpenni bydd angen iddyn nhw ddod i nôl nhw cyn diwedd yr wythnos."
"Mae'n drist iawn," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020