Clo byr, llym: Cam angenrheidiol neu rhy hwyr i helpu?
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfnod clo llym yn dod i rym drwy Gymru gyfan am ychydig dros bythefnos o ddydd Gwener tan ddydd Llun, 9 Tachwedd.
Daw'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru mewn ymgais i atal y cynnydd mewn achosion coronafeirws yn y wlad.
Daeth y cyhoeddiad ar ddiwrnod pan gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru 626 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru, gydag un farwolaeth yn rhagor.
Ar hyd a lled Cymru mae pobl wedi bod yn ystyried sut bydd y cyfyngiadau newydd yn effeithio ar eu bywydau, addysg, gwaith, ac ar y busnesau hynny fydd nawr yn gorfod cau.
'Talu am stoc Nadolig'
Siom oedd ymateb Janine Brown, perchennog siop Crundles yn Abertawe. O'i siop mae hi'n gwerthu dillad merched a nwyddau i'r t欧."Rwy'n amlwg yn siomedig bod yn rhaid i fusnesau bach fel fy un i gau.
"Rydw i newydd archebu yn fy holl stoc Nadolig ac mae'n rhaid i mi dalu amdano yr wythnos hon ond rydyn ni'n mynd i gael ein cau am bythefnos arall.
"Am y pythefnos nesaf fel tri mis yn flaenorol, nid ydw i'n ennill unrhyw beth, nid oes gen i incwm o gwbl.
"Mae gen i forgais i'w dalu a'r holl filiau hyn a nawr yn amlwg does gen i ddim incwm. Mae cymaint o bobl yn yr un cwch 芒 mi ac rwy'n siomedig iawn."
'Rhy chydig, rhy hwyr'
Ym Mangor mae perchennog siop tat诺s yn y ddinas wedi galw am fwy o eglurder am y cymorth sydd ar gael yn dilyn y cyhoeddiad.
Dywedodd Jules Lee o siop Jules Tattoos: "Dydy'r neges ddim yn eglur - rydym am fod yn sicr sut rydym am gael y cymorth sydd ar gael.
"Rydym yn mynd i dderbyn 拢1,000 dwi'n meddwl, ond mae'n rhy 'chydig yn rhy hwyr.
"Mae gen i siop fawr a dydy hynny prin yn ddigon ar gyfer y rent - beth am y costau eraill sydd gen i?
"Fydda i ddim yn gallu cynnig gwasanaethau, fe fyddwn yn aros adref ac fe allwn i golli rhai cwsmeriaid o achos hyn a pan fyddwn yn dod allan o'r cyfnod clo fe fydd yn anodd adfer y busnes."
Ychwanegodd: "Am fod Bangor wedi mynd i gyfnod clo lleol roedd gen i gwsmeriaid yn dod o bob man nad oedd modd iddynt ddod felly roedd rhaid i mi ail-drefnu eu hapwyntiadau a nawr mae'r cyfnod clo ehangach yn digwydd dydyn nhw ddim yn gwybod pa wasanaeth fydd ar gael iddyn nhw - mae wedi effeithio llawer arnai."
'Angen gwneud rhywbeth sylweddol'
Ymateb cymysg sydd gan Guto Wyn, pennaeth Ysgol Glan y M么r, Pwllheli i'r newyddion.
Dywedodd wrth 91热爆 Cymru: "Fwy na dim dwi'n siomedig dros y disgyblion sy'n wynebu arholiadau, blynyddoedd 10 ac 11.
"'Da ni eisiau eu gweld nhw wyneb yn wyneb gymaint 芒 fedra ni i'w paratoi nhw at beth bynnag ddaw yr haf yma.
"Ond ar y llaw arall, mae angen parchu cyfyngiadau a dwi'n gweld yr angen gwneud rhywbeth sylweddol i edrych ar 么l iechyd pawb.
"O safbwynt addysg, mi fasa wedi bod yn well gweld y rhai h欧n yn yr ysgol oherwydd eu bod nhw'n nes at amser arholiadau.
"O safbwynt iechyd, alla i ddeall o ran cadw rhai h欧n i ffwrdd am bod mwy o risg iechyd ac ella o ran amgylchiadau gwarchod plant i weithwyr allweddol hefyd."
Swyddi mewn perygl
Mae cwmni dosbarthu bwyd wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn rhybuddio y bydd swyddi yn y fantol o achos y cyfnod clo newydd a chyfnodau clo lleol yn Lloegr.
Dywed Harlech Foodservice, sydd 芒 safleoedd yng Nghricieth a Chaer, y bydd y cyfyngiad cenedlaethol newydd yn costio 拢2m i'r cwmni.
Roedd y cwmni wedi gorfod gosod gweithwyr ar gytundebau tymor byr yn barod, gan olygu gostyngiad o 40% i gyflogau.
Mae llawer o fusnes y cwmni ymysg y sector lletygarwch, "sydd wedi disgyn oddi ar ochr dibyn" o ganlyniad i don gyntaf y pandemig.
Bu'n rhaid i Harlech Foodservice ailstrwythuro ond mae'r cwmni'n rhybuddio y bydd y cyfnod clo newydd yn fygythiad gwirioneddol i swyddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020