Ymestyn prydau bwyd am ddim i blant ysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd prydau bwyd am ddim yn cael eu darparu i blant Cymru yn ystod gwyliau ysgol hyd at Pasg 2021, medd Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y byddai'n gwario 拢11m ar y cynllun er mwyn ei ymestyn.
Mae dros 75,000 o blant rhwng pump a 15 oed o aelwydydd incwm isel yn gymwys i dderbyn prydau am ddim yng Nghymru.
Bydd y cynllun hefyd yn agored i blant iau sydd mewn meithrinfa am ddyddiau llawn, a disgyblion chweched dosbarth.
Dywedodd Ms Williams ei bod yn gobeithio y byddai hyn yn "rhoi peth sicrwydd mewn cyfnod o ansicrwydd".
Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan y p锚l-droediwr Marcus Rashford.
Mae seren Manchester United a Lloegr wedi bod yn ymgyrchu ar y mater yn Lloegr, ac fe gafodd yr MBE yn ddiweddar am ei waith yn y maes.
Dywedodd fod mwy o waith i wneud i warchod y genhedlaeth nesaf, ond fe groesawodd yr "ymateb cyflym i'r angen dirfawr yma".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020