£20m o gostau ychwanegol i Gyngor Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd argyfwng coronafeirws wedi costio £20m mewn costau ychwanegol i Gyngor Caerdydd rhwng misoedd Mawrth a Mehefin yn unig, medd arweinydd y cyngor.
Dywedodd Huw Thomas fod costau'r awdurdod wedi cynyddu wrth i rai gwasanaethau gael eu blaenoriaethu ac eraill gael eu hychwanegu.
Mae'r cyngor hefyd wedi colli incwm o daliadau am barcio gan y cyhoedd a chau atynfeydd fel Castell Caerdydd yn ystod y pandemig.
Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda banciau bwyd i ddosbarthu 3,000 o becynnau bwyd ers dechrau'r argyfwng.
Mae arian wedi ei wario hefyd ar ddarparu cyfarpar diogelwch PPE i staff a darparu prydau bwyd am ddim mewn ysgolion.
Costau ychwanegol ymbellhau
Fe fydd sicrhau mesurau ymbellhau cymdeithasol hefyd yn achosi costau ychwanegol i'r awdurdod medd yr arweinydd.
Fe all llyfrgelloedd a chanolfannau gwasanaeth y cyngor gael eu defnyddio fel swyddfeydd i staff, ond dywedodd Mr Thomas na fyddai'r fath isadeiledd "yn dod yn rhad".
Fe wnaeth gydnabod hefyd y bydd ymbellhau cymdeithasol am fod yn "gur pen i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus".
Bydd y cyngor yn datblygu mwy o lwybrau beicio mewn ymdrech i osgoi gweld pobl yn defnyddio eu ceir yn hytrach na theithio ar fysiau. Gallai palmentydd y brifddinas gael eu hehangu hefyd, meddai.
Pryder arall i'r cyngor yw colli digwyddiadau mawr o bwys, gan gynnwys cyngherddau a gemau chwaraeon.
Dywedodd Huw Thomas fod "ansicrwydd anferth" nawr yn bodoli o achos y pandemig.
"Nid yw'n rhywbeth y gall y cyngor ei ddatrys ar ei ben ei hun ond rydym yn sicr yn dadlau ein hachos gyda Llywodraeth Cymru a'r llywodraeth ganolog fod angen parhau gyda'r cynlluniau seibiant o'r gwaith a darparu mathau eraill o gefnogaeth... yn enwedig i'r diwydiannau fydd ddim yn gallu gadael y cyfnod clo ar yr un cyflymder ag eraill, fel y bo modd iddyn nhw weld adferiad yn y tymor hir," meddai.
Fe wnaeth y Cynghorydd Thomas gydnabod hefyd na fyddai rhai pobl am fynd i ddigwyddiadau mawr hyd yn oed os byddai'r digwyddiadau hyn yn derbyn caniatâd i ailgychwyn eto.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020