91热爆

Annog pawb i gael brechiad ffliw i 'warchod y GIG'

  • Cyhoeddwyd
Michael SheenFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r actor Michael Sheen wedi ymddangos mewn fideo i annog pobl sy'n gymwys i gael y brechiad am ddim

Mae'r actor Michael Sheen yn arwain yr ymgyrch i annog pawb i gael brechiad ffliw eleni.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn paratoi am dymor anodd dros y gaeaf wrth geisio delio gyda Covid-19 a thymor y ffliw arferol.

Mae pobl sy'n gymwys yng Nghymru yn cael ei hannog i gael y brechiad i "warchod eich hunain, eich cymunedau a'r GIG".

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio'r ymgyrch ffliw fwyaf erioed ddydd Llun.

Mewn fideo gafodd ei baratoi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae Michael Sheen yn rhybuddio bod Covid-19 yn dal o gwmpas yng nghanol pryderon am ail don o'r haint.

Dywedodd: "Ry'n ni gyd yn gwybod pa mor brysur mae'r GIG wedi bod dros y misoedd diwethaf yn delio gydag effeithiau Covid-19, ac mae'r rhan fwya' ohonom wedi sefyll wrth ein drysau i'w cymeradwyo.

"Eleni mae'n bwysicach nag erioed i chwarae eich rhan i leihau effaith y mae'r ffliw yn ei gael ar ein hysbytai.

"Os gwelwch yn dda, ewch i gael eich brechiad cyn gynted ag y gallwch chi."

Daw'r ap锚l ddyddiau yn unig wedi i'r GIG Cymru ddatgelu eu cynlluniau am y gaeaf, sy'n cynnwys 5,000 o welyau ychwanegol yn barod ar gyfer ail don posib o Covid-19.

Pwy sy'n gymwys i gael brechiad am ddim?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechiad ffliw am ddim gan y GIG eleni yn cynnwys:

Y rhai sydd 芒 chyflyrau iechyd tymor hir;

  • Pobl sydd dros 65 oed;

  • Menywod beichiog;

  • Plant rhwng dwy a 10 oed;

  • Gofalwyr a staff cartrefi gofal, a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal;

  • Ymatebwyr iechyd a gwirfoddolwyr sy'n darparu cymorth cyntaf;

  • Gweithwyr rheng flaen iechyd a iechyd cymdeithasol;

  • Pobl sydd mewn cysylltiad gyda'r rhai sydd ar restr cysgodi GIG;

  • Pobl sydd ag anabledd dysgu.

Gallai pobl sy'n 50 oed a h欧n hefyd gael cynnig brechiad ffliw am ddim yn ddiweddarach yn y tymor.

Yn 么l ymchwil gan YouGov ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 68% o bobl sy'n gymwys am y brechiad am ddim yn "debygol iawn" o gael y brechiad eleni.

Roedd hefyd yn awgrymu bod 50% o'r ymatebwyr yn credu bod cael brechiad y ffliw yn "llawer pwysicach" eleni o ganlyniad i Covid-19.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Eleni rydym yn ehangu'r brechiad ffliw i fwy o bobl nag erioed o'r blaen.

"Rwy'n deall y bydd rhai pobl yn bryderus am fynd i'w fferyllfa leol neu feddygfa i gael y brechiad oherwydd Covid-19, ond bydd fferyllfeydd a meddygfeydd yn dilyn yr ymarferion diogelwch diweddaraf."