Cannoedd yn protestio yn erbyn canlyniadau Safon Uwch
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi bygwth achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 chanlyniadau Safon Uwch eleni.
Mewn protest tu allan i'r Senedd ddydd Sul, roedd arweinydd y blaid, Adam Price, hefyd yn feirniadol o'r Prif Weinidog, Mark Drakeford am beidio ymddiheuro.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi'u cyhuddo o "gefnu" ar rai disgyblion ar 么l i 42% o'r graddau gael eu hisraddio gan archwilwyr arholiadau.
Mae disgyblion bellach yn cael apelio os ydy eu graddau'n is na'r hyn yr oedd eu hathrawon wedi'i amcangyfrif.
Daeth y cyhoeddiad gan weinidog addysg Cymru ddydd Sadwrn yn dilyn ymateb chwyrn i'r canlyniadau ddydd Iau.
Roedd Kirsty Williams wedi mynnu ei bod yn hyderus fod y system yn deg ac yn "gadarn iawn".
Ond dywedodd ddydd Sadwrn y byddai modd i ddisgyblion apelio gyn belled 芒 bod "tystiolaeth" y dylen nhw fod wedi derbyn graddau uwch.
Yn y cyfamser, mae dros 22,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar ddisgyblion i dderbyn graddau a oedd wedi'u hamcangyfrif gan athrawon.
Mae pedwar Comisiynydd Plant y DU hefyd wedi danfon neges ar y cyd i brifysgolion y DU yn gofyn iddyn nhw anrhydeddu'r cynigion y maen nhw wedi gwneud i fyfyrwyr arfaethedig.
Cafodd yr arholiadau eleni eu canslo oherwydd y pandemig coronafeirws, gyda graddau terfynol disgyblion Blwyddyn 13 yn ddibynnol ar amcangyfrifon athrawon.
Ond fe wnaeth Cymwysterau Cymru israddio rhai graddau ar 么l canfod bod rhai athrawon wedi bod yn "rhy hael".
Ddydd Mercher, oriau'n unig cyn i ddisgyblion dderbyn eu canlyniadau, fe wnaeth Kirsty Williams warantu na fyddai unrhyw un derbyn gradd is na'r hyn wnaethon nhw dderbyn y llynedd yn eu canlyniadau UG.
Dywed Cymwysterau Cymru eu bod wedi "gweithio'n agos gyda CBAC ac wedi ystyried y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr er mwyn canfod y ffordd orau ymlaen i ddysgwyr Cymru".
O ganlyniad, meddai, mae'r corff wedi ymestyn y sail dros apelio ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch a chymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru eleni.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Diolch i benderfyniad Cymru yn unig i warantu na fyddai'r radd derfynol yn is na gradd UG, bydd dros 4,000 o ddysgwyr yn elwa.
"Mae hyn oddeutu 15% o'r holl fyfyrwyr Safon Uwch ac mae'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i effaith gyffredinol amrywiadau rhwng graddau terfynol a'r graddau a asesir gan ganolfan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2020
- Cyhoeddwyd14 Awst 2020
- Cyhoeddwyd13 Awst 2020