91热爆

Galw am 'adolygiad brys' i broses safoni arholiadau

  • Cyhoeddwyd
ArholiadFfynhonnell y llun, PA

Mae'r corff sy'n cynrychioli colegau addysg bellach wedi galw am "adolygiad brys" i'r broses safoni arholiadau, yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru fore dydd Iau.

Dywedodd Colegau Cymru fod colegau ledled Cymru "wedi gweld anghydraddoldebau sylweddol yng nghanlyniadau dysgwyr unigol", ac roedd hyn yn "peri cryn bryder a rhwystredigaeth i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr a staff".

Mae nifer o benaethiaid addysg, awdurdodau lleol ac undebau addysg hefyd wedi lleisio eu pryderon am y broses safoni gafodd ei defnyddio.

Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr Safon Uwch sydd wedi derbyn y gradd uchaf posib, A*.

Mae'r canlyniadau terfynol ar gyfartaledd dipyn yn is na'r rhai a gafodd eu hamcangyfrif gan athrawon, cyn cael eu haddasu'n ddiweddarach gan y bwrdd rheoli.

Dywedodd y rheoleiddiwr arholiadau fod y graddau yn rhai "ystyrlon a chadarn", ac mae'r gweinidog addysg wedi amddiffyn y system.

Dywedodd Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu Colegau Cymru, bod y graddau "yn cael effaith enfawr" ar y penderfyniadau mae myfyrwyr yn eu gwneud "nawr ac yn y dyfodol".

"Rhaid i ni sicrhau bod y graddau a ddyfernir yn deg ac yn gywir fel y gall dysgwyr symud ymlaen ar y llwybr o'u dewis."

Mae Colegau Cymru wedi galw ar Gymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru i "egluro'r broses apelio ar gyfer y dysgwyr hynny y mae eu graddau Safon Uwch yn is na'r radd a ragwelir, a aseswyd gan ganolfan, ond sy'n uwch na'u canlyniad UG".

"Rhaid sefydlu proses apelio cyflym a chadarn i sicrhau bod ymholiadau sy'n ymwneud 芒 graddau dysgwyr unigol yn cael eu datrys yn gyflym, er mwyn caniat谩u dilyniant priodol.

"Dylai proses apelio flaenoriaethu'r ymgeiswyr hynny y mae'r amgylchiadau presennol wedi cael effaith negyddol ar eu cam nesaf."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yng Ngholeg Merthyr wrth i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau ddydd Iau

Dywedodd Eithne Hughes, Cyfarwyddwraig Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru (ASCL) bod aelodau'n siomedig iawn gyda'r canlyniadau, gyda llawer yn "mynegi eu rhwystredigaeth, eu dryswch, a'u siom ynghylch y canlyniadau a ddyfarnwyd i'w myfyrwyr".

"Maent yn adrodd bod graddau wedi cael eu gostwng mewn ffordd sydd, yn eu barn nhw, yn gwbl annheg ac annymunol, ac maent yn hynod bryderus am yr effaith niweidiol ar y bobl ifanc dan sylw.

"Gweithiodd arweinwyr ysgol yn galed iawn i ddarparu graddau cywir i fwrdd arholi CBAC, gan ddilyn yr holl ganllawiau yn ofalus, ac maent yn siomedig bod y model ystadegol a ddefnyddiwyd wedyn i safoni'r graddau hyn wedi cael effaith mor ddinistriol.

"Byddwn yn gweithio i ddeall mwy am yr hyn sydd wedi digwydd, ond ein hargraff ar unwaith yw bod y broses ystadegol wedi creu anghyfiawnderau clir."

'Pryderon mawr'

Undeb arall sydd wedi lleisio ei anfodlonrwydd ydy UCAC. Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod gwaith caled a llwyddiant ymgeiswyr ac athrawon heddiw, er gwaetha'r sefyllfa heriol iawn sydd yn ein hwynebu.

"Rydym hefyd yn cydnabod ei fod yn debygol mai dyma'r gweithdrefnau gorau i ymateb i'r heriau oedd yn wynebu CBAC a Chymwysterau Cymru.

"Fodd bynnag, erys pryderon mawr fod anghysondebau lu yn parhau ar lefel unigolion a chanolfannau, hyd yn oed o ystyried 'gwarant' y Gweinidog Addysg neithiwr."

Ffynhonnell y llun, Twitter/Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neges gan Rhun ap Iorwerth, Aelod Senedd Cymru dros F么n, mewn ymateb i'r canlyniadau ddydd Iau

Nos Fercher fe roddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams 'warant' na fyddai canlyniadau graddau Safon Uwch disgyblion yn is na'r rhai yr oeddynt wedi eu cyflawni fel gradd mewn arholiadau AS.

Ychwanegodd Dilwyn Roberts-Young: "Mae'n anorfod bod y newidiadau munud olaf a chanlyniadau unigolion am greu pryder di-angen a mawr obeithiwn na welwn ail adrodd hyn wythnos nesaf."

Dywedodd y byddai'r undeb yn "parhau i geisio eglurder o ran yr anghysondebau a chynnig cefnogaeth lawn" i aelodau.

'Diffyg tryloywder'

Nid undebau'n unig sydd wedi lleisio eu hanfodlonrwydd yn dilyn cyhoeddi'r canlyniadau fore dydd Iau.

Dywedodd deiliaid portffolio addysg chwech o gynghorau'r gogledd, y Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol,聽 GwE a phenaethiaid uwchradd yr ardal eu bod yn gobeithio cael "sicrwydd" gan Lywodraeth Cymru na fydd disgyblion y gogledd "dan anfantais" o ganlyniad i'r broses safoni newydd.

"Yn sgil cael y canlyniadau y bore yma, dywed nifer sylweddol o ysgolion nad oes ganddynt ddealltwriaeth na hyder yn y broses safoni a fabwysiadwyd yng Nghymru, sydd wedi arwain at gryn anghysondebau ar lefel dysgwyr a phynciau mewn ysgolion unigol. Mae'r diffyg tryloywder yn bryderus iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd staff Coleg Merthyr Tudful yn ceisio dathlu llwyddiant eu myfyrwyr er yr amgylchiadau anodd

Dywedodd eu datganiad fod "perygl difrifol bod amddiffyn brand arholiad yn bwysicach na chydnabod anghenion dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf bregus yn yr amgylchiadau hyn nas gwelwyd mo'u tebyg erioed o'r blaen.

"Nid yw'r cyhoeddiad a ddaeth yn hwyr neithiwr, na聽fydd gradd Safon Uwch derfynol dysgwr yn is na'u gradd Uwch Gyfrannol, yn lleihau ein pryderon am y broses safoni. Yn wir, mae'n awgrymu i raddau, nad yw Llywodraeth Cymru ei hun yn gyfforddus 芒 deilliannau'r broses a fabwysiadwyd.

"Rydym hefyd yn bryderus, ac yn cwestiynu os yw'r broses apelio yn addas i'r diben mwyach."

Ychwanegodd y datganiad "ar ran y gymuned addysg yng Ngogledd Cymru" eu bod yn "arbennig o bryderus am les emosiynol dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf bregus" ac fe allai'r broses safoni "gael effaith andwyol ar ysbryd athrawon ac arweinwyr ysgolion drwy danseilio eu barn broffesiynol yn sylweddol".

'System yn deg a chadarn'

Roedd nifer o ysgolion wedi dweud fod "anghyfartaledd sylweddol" rhwng graddau wedi'u hasesu a'r rhai gan CBAC.聽Roedd hefyd amryw o enghreifftiau o "ddysgwyr o'r un gallu mewn pwnc yn cael yr un radd gan y ganolfan ond yn gweld o leiaf dwy radd o wahaniaeth rhyngddynt ar 么l safoni gan CBAC".

Roedd enghreifftiau o fyfyriwr yn derbyn gradd A gan y ganolfan asesu, cyn cael ei israddio i D yn ddiweddarach. Roedd myfyriwr arall wedi derbyn gradd B gan y ganolfan asesu, cyn derbyn gradd U.

Mewn cyfweliad 芒'r 91热爆 brynhawn Iau, dywedodd y Gweinidog Addysg bod y system yn deg ac yn "gadarn".

Dywedodd Kirsty Williams bod y broses yn drylwyr, ac er ei bod yn difaru ei bod wedi gorfod gwneud newidiadau hwyr, y "gallai disgyblion fod yn gwbl hyderus bod yr arholiadau gafodd eu cyhoeddi llawn cystal 芒'r rhai gafodd eu cymryd y flwyddyn ddiwethaf".

Ychwanegodd: "Mae'r ffaith bod y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr wedi eu derbyn i brifysgolion y bore 'ma yn dangos yr hyder sydd gan y system brifysgolion mewn myfyrwyr o Gymru."