91热爆

Galw am ddiwygio cyflogau isel gweithwyr gofal

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Dyw cyflogau isel gweithwyr gofal cymdeithasol - y mwyafrif llethol ohonyn nhw'n fenywod - ddim yn gynaliadwy, yn 么l ymchwilwyr.

Mae llai na hanner yn ennill y cyflog byw go iawn ac ni chafwyd codiadau cyflog uwch na chwyddiant mewn cartrefi gofal ers 10 mlynedd, yn 么l adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Gan fod tua phedwar o bob pum gweithwyr cartrefi gofal yn fenywod, mae'r effaith o gyflogau isel yn waeth iddyn nhw, meddai'r adroddiad.

Mae'n galw am ddiwygiadau pellgyrhaeddol wedi i'r pandemig coronafeirws ddangos pa mor "fregus" yw'r sector gofal preswyl.

Mae awduron yr adroddiad hefyd yn dweud bod cyfraddau cyflog gofal Prydain yn ymddangos yn is na gwledydd eraill.

Ond maen nhw'n rhybuddio y byddai'r gost o godi cyflogau yn "sylweddol" i lywodraethau a darparwyr gofal preifat.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Sefydliad Cyflog Byw yn dweud y dylai pobl y tu allan i Lundain ennill 拢9.30 awr, yn hytrach na'r 拢8.72 mae'n rhaid i gyflogwyr dalu pawb dros 25 oed o dan y Cyflog Byw Cenedlaethol.

Mae cyflogau ac amodau gwell yn un o bedwar peth y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn dweud y dylai haeddu sylw.

Mae argymhellion eraill yn cynnwys mwy o gyllid; rhagolygon manwl o'r galw cynyddol am ofal; ac ailfeddwl y modd聽"tameidiog" y mae'r gyfundrefn wedi ei rhannu rhwng cynghorau a chwmn茂au preifat.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at r么l gofalwyr di-dal sy'n gofalu am ffrindiau a theulu. Byddai'n costio tua 拢8bn i dalu am y gofal maen nhw'n ei ddarparu - sydd yn gyfatebol 芒 chost flynyddol y gwasanaeth iechyd.

Y rheng flaen

Pan oedd pandemig Covid-19 ar ei waethaf ym mis Ebrill, roedd cartrefi gofal yn cofnodi tua 50 o farwolaethau'r dydd - dair gwaith yn uwch na'r un cyfnod yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ond hyd yn oed cyn yr argyfwng, roedd gweinidogion yn chwilio am ffyrdd newydd o ariannu gofal cymdeithasol, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno trethi newydd yn nhymor nesaf y Senedd.

Dywedodd Cian Sion, un o awduron yr adroddiad: "Mae'n anorfod y bydd yn rhaid i Gymru wario mwy ar ofal cymdeithasol dros y ddegawd nesaf.

"O ystyried hynny, mae'n hen bryd cael trafodaeth genedlaethol am natur y聽ddarpariaeth gofal ar gyfer y dyfodol, a phwy ddylai dalu amdani."聽