91热爆

Teyrnged i 'arwr a achubodd ei blant' ar draeth Y Bermo

  • Cyhoeddwyd
Jonathan StevensFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Jonathan Stevens wedi teithio i'r Bermo am y diwrnod gyda'i deulu

Mae chwaer dyn o Sir Amwythig a fu farw ar 么l cael ei achub o'r m么r yn ystod diwrnod allan yng Ngwynedd wedi ei ddisgrifio'n "arwr am achub bywydau ei blant".

Roedd Jonathan Stevens, o Telford, yn 36 oed ac yn dad i saith o blant.

Aeth i drafferthion mewn cerrynt cryf oddi ar draeth Y Bermo brynhawn Sul ac fe gafodd yntau a thri pherson arall eu hachub wedi i hofrennydd Gwylwyr y Glannau ac ambiwlans awyr gael eu hanfon i'r ardal.

Cafodd Mr Stevens ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor ond bu farw.

Roedd yn "fab a brawd rhyfeddol i'w pum chwaer" yn 么l un o'i chwiorydd, Kim Stevens

"Mae wedi marw'n arwr am achub bywydau ei blant a pheryglu ei fywyd ei hun," meddai.

"Bydd wastad yn cael ei gofio - dyn rhyfeddol, brawd, mab a thad. Rydan ni gyd wedi ein chwalu'n deilchion."

Does dim manylion pellach ar hyn o bryd am gyflwr dau berson arall a gafodd eu cludo hefyd i Ysbyty Gwynedd.

Mae ymgyrch ariannu torfol i helpu teulu Mr Stevens eisoes wedi codi dros 拢2,200.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gymuned leol yn ceisio dod i delerau 芒'r hyn ddigwyddodd ddydd Sul, medd y Cynghorydd Owain Pritchard

Dywedodd y Cynghorydd Owain Pritchard, o Gyngor Tref Y Bermo: "Roedd yna ddigwyddiad trasig yma ddoe pan, yn anffodus, fu farw tad ar 么l ceisio mynd [i'r m么r] i achub ei blant.

"Mae'n ddigwyddiad trist iawn ac rydym yn dal yn ceisio dod i delerau 芒'r peth fel cymuned."

Ychwanegodd: "O bersbectif lleol, mae mwyafrif ein cymuned yn deall peryglon mynd [i'r m么r].

"Aelodau'r gymuned oedd y cyntaf i ymateb i'r digwyddiad yma ddoe, ond fel y gwelwch chi r诺an mae pobl jest yn cerdded heibio'r arwyddion rhybudd. Gall mwy o addysg ond fod yn beth da o ran peryglon mentro i'r m么r."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pobl ar draeth Y Bermo fore Llun

Mae AS Dwyfor Meirionydd Liz Saville Roberts, wedi cydymdeimlo 芒 theulu Mr Stevens, wedi "trasiedi arall sydd wedi digwydd ar ein traethau".

Ond mae'n dweud fod yr achos, a "trasiedi oedd yn agos iawn at ddigwydd yn Aberdyfi ychydig yn gynt" ddydd Sul yn codi cwestiynau "am sut 'dan ni'n ceisio gwneud ein traethau ni yn llefydd mor ddiogel 芒 phosib".

Ychwanegodd fod angen codi ymwybyddiaeth ynghylch peryglon yr arfordir ymhlith pobl "sy'n teithio'n bell i lan m么r sydd efalla' ddim yn arfer i rai o'r amoda' a'r ffordd ma'r tywydd a'r llanw yn ymddwyn".