Dyn wedi marw ar 么l cael ei achub o'r m么r yn Y Bermo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ar 么l mynd i drafferthion mewn cerrynt cryf oddi ar draeth Y Bermo.
Cafodd y dyn, y credir oedd yn ei 30au, ei gludo i Ysbyty Gwynedd ond bu farw.
Roedd y dyn ar ei wyliau yn yr ardal ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
Cafodd tri o bobl eraill hefyd eu hachub o'r m么r ac anfonwyd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ac ambiwlans awyr i'r digwyddiad tua 13:30 ddydd Sul.
Does dim manylion am gyflwr y ddau arall a gafodd hefyd eu cludo i Ysbyty Gwynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2020