Coron driphlyg o wobrau Llyfr y Flwyddyn i Ifan Morgan Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdur Ifan Morgan Jones wedi cipio prif wobr Llyfr y Flwyddyn 2020 am ei nofel Babel.
Fel rhan o'r Å´yl AmGen, cyhoeddwyd mai Babel oedd yn fuddugol hefyd yn y categori Barn y Bobl Golwg360.
Mae'n golygu bod y nofel wedi cipio coron driphlyg eleni, gan iddi ddod i'r brig yn y categori ffuglen yn gynharach yn yr wythnos.
Mae Ifan, sydd hefyd yn ddarlithydd a newyddiadurwr, yn derbyn gwobr ariannol o £4,000 a thlws wedi ei ddylunio a'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.
'Llawn haeddu'r teitl'
Mae Babel, sef trydedd nofel Ifan Morgan Jones i oedolion, yn adrodd stori merch sy'n ffoi oddi wrth ei thad ymosodol er mwyn ceisio bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd Llais y Bobol.
Buan y mae ei menter yn ei harwain ar drywydd diflaniad plant amddifad o slym drwg-enwog Burma, gan ddarganfod cynllun annymunol iawn sy'n ymestyn hyd at arweinwyr crefyddol a pherchnogion y ffatri haearn gyfagos.
Dyma'r nofel yn y genre agerstalwm (steampunk) cyntaf erioed yn y Gymraeg.
Yn wreiddiol o Waunfawr yng Ngwynedd, mae Ifan bellach yn byw ym Mhenrhiwllan ger Llandysul.
Mae'n darlithio ym Mhrifysgol Bangor ac yn olygydd ar wasanaeth newyddion ar-lein, Nation.Cymru.
Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2008.
Dywedodd Ifan ei fod "ddim yn gallu credu'r peth" a'i fod yn "deimlad anhygoel" ennill y brif wobr.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Enillwyr y categorïau eraill oedd , dolen allanol ac Elidir Jones (Plant a phobl ifanc).
Nos Wener cyhoeddwyd mai Niall Griffiths oedd enillydd y brif wobr Saesneg am ei nofel Broken Ghost.
Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Siôn Tomos Owen bod y beirniaid yn gytûn fod Babel "sy'n trafod Cymru gyfoes, hanes ein gwleidyddiaeth a chyflwr ein moesau cymdeithasol trwy ddrych y cyfryngau cenedlaethol - yn llawn haeddu teitl Llyfr y Flwyddyn eleni".
Ychwanegodd: "Braf yw nodi ein bod ni fel beirniaid wedi'n plesio'n fawr gyda phob un o'r cyfrolau ar y rhestr fer eleni. Mae yma ymgeiswyr cryf, sy'n cynnig gwledd i bob darllenydd trwy'i gweithiau amrywiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020