Cyhoeddi enillwyr dau gategori Llyfr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Hwn ydy'r llais, tybad? gan Caryl Bryn sydd wedi cipio'r catergori barddoniaeth eleni yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones gan Alan Llwyd oedd yn fuddugol yn y categori ffeithiol greadigol.
Mae'r ddau enillydd yn derbyn gwobr o 拢1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Gwnaed y cyhoeddiad am 19:30 nos Iau ar 91热爆 Radio Cymru fel rhan o 糯yl AmGen 91热爆 Radio Cymru, Radio Cymru 2 a 91热爆 Cymru Fyw.
Mae'r ddau hefyd yn gymwys am wobr Barn y Bobl Golwg360 a phrif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, a gaiff eu cyhoeddi ar Radio Cymru ar ddydd Sadwrn, 1 Awst rhwng 12:30 a 13:00.
Dyma gyfrol gyntaf Caryl Bryn. Mae'n gyfrol sydd yn ymdrin yn grefftus 芒 galar, serch ac ieuenctid.
Daw Caryl Bryn yn wreiddiol o Borth Amlwch ym M么n, ac mae'n byw yng Nghaernarfon.
Mae hi'n gyfrannydd cyson i gylchgronau Y Stamp, Barddas a Barn.
Cyhoeddwyd 'Hwn ydy'r llais, tybad?' dan faner Cyhoeddiadau'r Stamp.
Roedd 2019 yn nodi 70 o flynyddoedd ers marwolaeth y bardd, y llenor a'r ysgolhaig T. Gwynn Jones.
Mae'r gyfrol Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones (Cyhoeddiadau Barddas) yn gofiant cynhwysfawr i'r Prifardd hwnnw.
Trafodir ei fagwraeth a'i deulu, ei weithiau creadigol o bob math, ei addysg a'r holl ddylanwadau arno.
Rhoddir cryn sylw i'w nofelau rhyddiaith sy'n esgor ar nifer o syniadau newydd oedd gan T. Gwynn Jones am gymdeithas a gwleidyddiaeth y cyfnod.
Ceir hefyd drafodaeth estynedig ar ei farddoniaeth wrth i'r awdur olrhain datblygiad manwl iawn o T. Gwynn Jones fel bardd.
Mae Alan Llwyd yn gofiannydd profiadol ac ymysg ei lyfrau diweddar mae wedi ysgrifennu cofiannau dadlennol i rai o'n beirdd a'n llenorion pwysicaf: Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 (Y Lolfa, 2011), Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956 (Gwasg Gomer, 2013), Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones 1899-1968 (Y Lolfa, 2016).
Caiff y gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol.
Yn beirniadu'r llyfrau Cymraeg eleni mae'r newyddiadurwraig a chyn-olygydd 91热爆 Radio Cymru a Cymru Fyw Betsan Powys; y cartwnydd, awdur a chyflwynydd Si么n Tomos Owen; y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emyr Lewis; a'r gantores-gyfansoddwraig, Casi Wyn.
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad hanfodol bwysig yng nghalendr diwylliannol Cymru. R Braf yw gweld bardd sy'n cyhoeddi am y tro cyntaf, ac awdur sydd eisoes wedi cyrraedd rhestrau byrion ac wedi ennill gwobrau'r gorffennol, yn ennill y categoriau hyn eleni. "
Caiff enillwyr y categori Plant a Phobl Ifanc a'r categori Ffuglen eu cyhoeddi ar 91热爆 Radio Cymru ddydd Gwener 31 Gorffennaf rhwng 12.30 - 1.00 pm, gydag enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a'r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn 1 Awst rhwng 12:30-13:00.
Cyhoeddir yr holl enillwyr Saesneg ar 91热爆 Radio Wales nos Wener, 31 Gorffennaf rhwng 18:00-19:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd11 Awst 2016