'Allech chi ddim cael cymeriad mwy hoffus na llawn bywyd'
- Cyhoeddwyd
"Os oes na ddisgrifiad o rywun llawn bywyd, Andrew fydde fe..."
Un o'r caneuon fydd yn cael ei chwarae yn angladd y darlledwr Andrew 'Tommo' Thomas yn Aberteifi fydd Geiriau gan Ail Symudiad.
Roedd yn un o hoff ganeuon y darlledwr a fu farw yn 53 mlwydd oed ac yntau'n ffrindiau mawr gyda'r brodyr Wyn a Richard Jones o'r band oedd o'i dref enedigol.
Mae Richard Jones yn cofio cwrdd 芒 Tommo - neu Andrew fel roedd wastad yn ei alw - gyntaf pan ddechreuodd ddod i'w gigs yn Aberteifi yn ei arddegau cynnar.
"Mae'r dref mewn sioc a Chymru gyfan - oedd e'n shwt gymeriad mawr," meddai Richard..
"Fel un o Aberteifi oedd e'n ffan mawr o Ail Symudiad, ei hoff g芒n Gymraeg oedd Geiriau, so rydyn ni'n ei chwarae hi yn yr angladd.
"Fydd e'n emosiynol iawn.
"Daeth e'n ifanc, ifanc i un o'n gigs ni yn neuadd y pwll nofio. A wnaeth e drumsticks inni yn yr ysgol! Oedd e'n ffan enfawr. Rhoddodd ein CD Yr Oes Ail i Suggs o Madness mewn gig yng Nghaerdydd unwaith, a hala llun i fi o Suggs yn dal yr albym!
"Oedd e'n gymeriad; allech chi ddim cael cymeriad mwy hoffus na llawn bywyd. Os oes na ddisgrifiad o rywun llawn bywyd, Andrew fydde fe, oedd e jyst yn llawn bywyd.
"Redd e'n ticlo fe bod fi'n galw fe'n Andrew, achos Tommo oedd bob un yn galw fe, ond Andrew Thomas oedd e i fi, ers pan oedd e'n teenager.
"Mae'n anodd credu. Oedd e gyda ni yn Fflach [label recordio Richard a'i frawd Wyn] y dydd Gwener cyn iddo farw yn ecseited iawn am ei raglen newydd ar Radio Sir G芒r, oedd e'n galw i 么l CDs i'w chwarae ar y rhaglen."
Y Gymraeg
"Dwi'n meddwl fod pobl wedi ei feirniadu am ei Gymraeg, Yn debyg i fi a Wyn, tafodiaith Aberteifi a Sir Benfro sydd gyda ni, gydag ambell i air fel 'iwso' yn lle 'defnyddio' ac fe gafodd ei feirniau lot am hynna.
"Er bod e'n llawn bywyd ac yn boisterous, oedd e'n eitha' sensitif hefyd, roedd yn ei ypsetio pan oedd e'n cael ei feiriniadu gan rai Cymry Cymraeg.
"Doedd e ddim yn deg achos nath e godi miloedd ar filoedd i elusen, a pwy sydd 芒 Chymraeg perffaith? Oedd e'n siarad fel un o bois y dre: mor syml 芒 hynny, roedd yn sticio at be oedd yn naturiol iddo fe.
"Roedd wedi tynnu lot i mewn i wrando ar ei raglen e oedd ddim yn arfer gwrando ar Radio Cymru - lot fawr o bobl Aberteifi fydde byth yn gwrando ar Radio Cymru oni bai fod Tommo arno fe.
"Ond gath e ei feirniadu ... ac achos bod e'n sensitif sai'n gwybod wnaeth hwnna effeithio arno fe i ddweud y gwir.
"Y peth mwyaf amdano oedd ei fod e'n naturiol, oedd e yn gwmws fel oedd e ar y radio neu ar y sgrin.
"Yr un Andrew Thomas oedd e ar y radio ac yn cerdded strydoedd Aberteifi.
"Boi hoffus, annwyl a naturiol oedd yn adnabod pawb - amser fyddet ti'n ei weld yn Tesco, fyddet ti'n clywed ei lais e cyn ei weld e!
"Mae'n golled fawr i'w deulu, i Aberteifi a Chymru."
'Corwynt'
"Y ffordd gorau alla' i ddisgrifio Tommo yw, oedd e fel corwynt. Os oedd drws y swyddfa'n agor oedd e'n chwythu mewn yn llythrennol a bydde s诺n yn llenwi bob man," meddai Richard Rees, cyflwynydd Radio Cymru fu'n gweithio gyda Tommo yng nghwmni Telesgop, wrth dalu teyrnged iddo ar Radio Cymru fore Mercher.
"Bydde fe'n neud i bobl chwerthin. Sdim ots beth oedd yn digwydd ar y pryd, pan oeddech chi'n gweithio gyda fe, alle fe'ch hala chi'n wallgo - fyddech chi'n wallgo un funud wedyn yn chwerthin yn ddi-stop y funud nesa.
"Pobl oedd ei bethe - roedd yn deall pobl ac roedd e'n trin pawb yr un peth."
Byddai'n galw'r darlledwr 91热爆 Dewi Llwyd yn "Brenin y Gogledd".
"Betsan fach fi" fyddai Betsan Powys, Pennaeth Radio Cymru a byddai'n ateb y ff么n i Rhodri Talfan Davies, Pennaeth 91热爆 Cymru gyda "Helo, Rodders".
"Oedd e'n trin pawb union yr un ffordd, sdim ots pwy o'ch chi, beth oedd eich swydd chi, i Tommo, o'ch chi jyst yn rhywun arall oedd e'n ei adnabod.
Aberteifi "oedd canol y byd" iddo meddai Richard Rees, a'i deulu yn golygu popeth.
"Beth anghofia i fyth wrth gwrs, er ei fod yn foi 'uchel' ac yn foi optimistig ofnadwy, y teulu oedd y peth oedd yn bwysig iddo a dyna oedd e'n siarad [amdano] ac yn cyfeirio ato bob tro.
"Fydde fe'n dod mewn i'r stiwdio, yn gwneud ei raglen, a phump o'r gloch, fydde fe off yn syth i 么l Cian [ei fab] ac i weld Donna [ei wraig], gewn nhw golled mawr ar ei 么l, achos o'n nhw'n dibynnu ar Tommo. O'n nhw'n deulu agos iawn, iawn.
"Gafodd e sawl her dros y blynydde diwethaf, gafodd e'r trawsblaniad ac roedd yn hapus iawn i siarad gydag eraill am y trawsblaniad.
"Gafodd e gancr y croen a buodd e'n hunan-ynysu yn ddiweddar achos ei sefyllfa fe a sefyllfa'r teulu.
"Ond roedd yn un o'r bobl mwyaf optimistig dwi'n nabod a pan gafodd e'r swydd gyda Radio Cymru roedd e mwy nag wrth ei fodd, roedd wedi cyrraedd ryw uchelgais bersonol ryfeddol.
"Wy'n cofio fe'n dweud bod e wedi ennill ei gap dros Gymru pan gafodd ddarlledu ar Radio Cymru.
"Roedd darlledu yn Gymraeg yn andros o bwysig iddo. Sai'n credu bod pawb wedi deall hynny.
"Beth bynnag fyddai rhywun yn ei ddweud am Tommo roedd pawb yn cytuno, roedd e'n Gymro i'r carn ac fe wnaeth ymdrech fawr i wneud argraff wrth ddarlledu yn y Gymraeg, roedd hwnna i gyd yn bwysig iawn, iawn iddo
"Oedd e'n gymeriad llawn direidi, oedd e'n llawn chwerthin, llawn 's诺n mawr y prynhawn', ond roedd na ochr gofalus a difrifol iddo fe hefyd."
Hefyd o ddiddordeb: