Andrew 'Tommo' Thomas yn gadael 91热爆 Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyflwynydd Andrew 'Tommo' Thomas yn gadael yr orsaf ar 么l pedair mlynedd.
Cafodd staff yr orsaf wybod y bydd Ifan Jones Evans yn cyflwyno rhaglen o ddydd Llun i ddydd Iau o 14:00 i 17:00.
Ar ei dudalen Facebook, fe gadarhaodd Tommo .
Dywedodd Golygydd 91热爆 Radio Cymru Betsan Powys ei bod "dymuno'n dda iddo gyda'i sioe newydd ac ar bennod newydd sbon 'swnllyd' arall yn ei yrfa".
Symud ymlaen
Mewn datganiad, dywedodd Tommo: "Ers pedair blynedd, dwi wedi bod yn lwcus iawn o gael darlledu ar 91热爆 Radio Cymru o ddydd Llun tan ddydd Iau rhwng 2 a 5."
"Nid pawb sy'n cael cyfle a'r anrhydedd honno, a galla i byth ag egluro gymaint dwi wedi joio'r cyfnod.
"Ond pan ddaeth cyfle unigryw yn ddiweddar i fynd yn 么l i 'ngwreiddie, roedd y gwahoddiad yn un na allwn wrthod."
Fe ddechreuodd Tommo ddarlledu ar Radio Cymru ym mis Mawrth 2014, gyda'i raglen yn cael ei darlledu o stiwdio y 91热爆 yng Nghaerfyrddin - rhaglen sydd o dan ofal cwmni allanol, Telesgop.
Ym mis Gorffennaf 2017 cafodd Tommo gyfnod oddi ar yr awyr wrth i'r 91热爆 gynnal ymchwiliad yn ei erbyn yn dilyn cwyn a oedd yn deillio o sylwadau a wnaeth e yn ystod G诺yl N么l a Mla'n yn Llangrannog.
Dywedodd llefarydd ar ran 91热爆 Cymru ar y pryd bod ymchwiliad mewnol wedi ei gynnal a bod Tommo "wedi ysgrifennu at drefnwyr G诺yl N么l a Mlan i ymddiheuro yn ddiamod am yr hyn a ddywedodd tra'n cyflwyno".
Rhaglen y prynhawn
Ar hyn o bryd mae Ifan Jones Evans yn cyflwyno rhaglen fore Sadwrn o stiwdio'r 91热爆 yn Aberystwyth.
O fis Mawrth ymlaen fe fydd e'n gyfrifol am raglenni prynhawniau Llun i Iau, gyda Tudur Owen yn parhau i gyflwyno ei raglen brynhawn Gwener.
Dywedodd Ifan Jones Evans: "Fe fydd gyda fi esgidiau mawr i'w llenwi ond dwi wrth 'y modd bod y cyfle wedi dod i gadw cwmni i wrandawyr yn y p'nawnie. "
"Y nod yw cynnig digonedd o gerddoriaeth, bach o sbort a chystadlu a chlywed lleisiau'r gwrandawyr yn ymuno'n yr hwyl.
"Fi'n gobeithio bydd y criw sydd wedi bod yn gwrando ar ddydd Sadwrn yn dod 'da fi, a chadw cwmni i fi yn ystod yr wythnos o hyn ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014