91热爆

Cofio am Ena Thomas, 'Brenhines y gegin' rhaglen Heno

  • Cyhoeddwyd
Ena Thomas ar Heno, S4CFfynhonnell y llun, Tinopolis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Ena yn adnabyddus am ei hoffter o hufen a joch bach o frandi yn ei rysaits

Mae teyrngedau'n cael eu rhoi i'r gogyddes Ena Thomas o Felindre ger Abertawe, fu farw yn 85 mlwydd oed.

Roedd Ena yn coginio'n gyson ar raglenni Heno a Prynhawn Da ar S4C am flynyddoedd, ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau yn cynnwys ei ryseitiau poblogaidd.

Dechreuodd Ena gyflwyno eitemau coginio ar Heno yn 1993.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd cadeirydd Tinopolis, Angharad Mair ei bod yn "ffefryn gan bawb".

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Angharad Mair

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Angharad Mair

"O'r holl bobl sydd wedi cyfrannu i Heno o'r dechrau, rwy'n gwybod base enw Ena ar frig rhestrau hoff gymeriadau'r gwylwyr dros y blynydde," medd Angharad Mair. "Roedd hi'n wych am goginio, ond roedd hi hefyd yn llenwi'r sgr卯n a'i phersonoliaeth, yn lot o sbort, yn hoff o chwerthin.

"Roedd hi'n seren, ac roedd hi'n unigryw hefyd. Doedd dim angen ail-enw ar Ena. Ena oedd Ena i bawb."

Doedd Ena ddim wedi dechrau ar Heno tan ei bod ar drothwy ei 60au, a chyn hynny, bu'n gogyddes broffesiynol.

Fe ddechreuodd ei gyrfa fel morwyn yng nghegin Ysbyty Treforys. Ond dringodd i safle cyd-bennaeth cegin mewn ysbyty yn Llundain, cyn iddi ddychwelyd i Gymru fel cogyddes mewn cartref gofal.

Blas ar Fywyd

Yn ei hunangofiant, Blas ar Fywyd, mae'n cofio coginio ar gyfer un o'r cleifion yn adain breifat yr ysbyty yn Llundain, y Fonesig Churchill, gwraig y Prif Weinidog, Winston Churchill. Cymerodd ofal arbennig i baratoi brest cyw i芒r a lemwn iddi.

Yn ferch i l枚wr, a'r cyntaf o bedwar o blant, roedd ei chariad at ei milltir sgw芒r yn bwysig iddi ers ei phlentyndod.

Bu'n weithgar yn ei chymuned leol yn Felindre, gan gasglu arian at achosion fel Eisteddfodau a Merched y Wawr drwy gynnal nosweithiau coginio a rafflo'i phrydau i godi arian.

Yna, cafodd alwad annisgwyl gan d卯m Heno ym 1993 yn gofyn iddi ddod ar y rhaglen i goginio i'r gwylwyr.

"No way," oedd ei hateb cyntaf, ond wedi iddi gael ei pherswadio, bu'n cyflwyno slot rheolaidd bob nos Wener am flynyddoedd.

Daeth yn adnabyddus am ychwanegu "joch fach o frandi" i nifer o'i phwdinau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ena Thomas a Catrin Beard yn cael eu holi gan Iola Wyn adeg cyhoeddi'r hunangofiant, Blas ar Fywyd

Bu Catrin Beard yn cyd-ysgrifennu hunangofiant Ena, ac mae'n dweud bod y profiad yn un pleserus iawn.

"Roedd wastad croeso rhyfeddol gyda Ena, fel basech chi'n ei ddisgwyl. O'dd wastad cacen.

"O'dd hi wrth ei bodd yn cofio 'n么l dros bopeth oedd hi wedi neud, nid jyst Heno. Roedd hi wedi byw bywyd llawn iawn. Roedd hi wedi gwneud llawer yn y gymuned."

Ychwanegodd: "Dim jyst coginio oedd hi. O'dd hi'n licio siarad 'efo pobl.

"O'dd hi'n neud roadshows efo Heno ac odd hi'n coginio yn unrhywle. O'dd y coginio yn fodd iddi hi fynd o gwmpas a siarad 芒 phobl."

Fe ddywedodd Ena wrth Catrin Beard ei bod yn dwlu gwn茂o hefyd, a'i bod ar un adeg yn y 70au neu'r 80au wedi llwyddo gwn茂o gwisgoedd i gast cyfan Oliver cwmni opera Caerfyrddin am 拢40.

Twincl yn ei llygaid

Ond coginio oedd ei bara menyn a'i dileit, ac roedd Heno wedi rhoi ei bywyd ar drywydd newydd.

"O'dd hi'n cael cyfle yn hwyr yn ei hoes i wneud rhywbeth roedd hi wirioneddol yn ei fwynhau ei wneud," medd Catrin Beard.

"O'dd 'na rhywbeth agos atoch iawn amdani. Roedd 'na dwincl yn ei llyged hi wastad."

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Heno 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Heno 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Cafodd ei dychan ar raglen Cnex ar S4C yn y 90au, ond mae Catrin Beard yn meddwl y byddai wedi gweld yr ochr ddoniol a mwynhau'r sylw.

"O'dd hi'n mwynhau hwyl. Pethau fel mynd mewn sidecar efo Brychan Llyr. O'dd hi ddim yn meindio edrych yn ddoniol, ac os rhywbeth, roedd hynny yn fwy o hwyl nag unrhywbeth arall."

Ffynhonnell y llun, S4C

Anrhydeddu Ena

Cafodd Ena ei hanrhydeddu gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn 2007, fel cyn-fyfyriwr yn y Coleg Technegol gynt.

Daeth yn Gymrawd i gydnabod y gwaith roedd hi wedi ei wneud ar y teledu a'i chyfraniad at ddarlledu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Doedd hi ddim yn ddigon iach i fod yno, ond yn falch ofnadwy bod y darlledwr Huw Edwards wedi siarad amdani gan ddweud taw hi oedd y cogydd cyntaf i wneud arddangosiadau coginio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig.

Anrhydedd fawr arall i Ena oedd cael ei derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002. Cafodd ei derbyn dan yr enw barddol, Y Gogyddes Ena.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Gillian Thomas

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Gillian Thomas

Fel un sydd wedi dilyn 么l troed Ena o ran cyhoeddi llyfrau pobi, mae Elliw Gwawr yn dweud y bydd hi'n cael ei chofio'n annwyl am ei gwaith: "Roedd hi'n gogydd heb ei hail, ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fyd coginio Cymru trwy ei holl lyfrau ac fel prif gogyddes Heno.

"Fe fydd hi'n cael ei chofio trwy'r holl ryseitiau fydd yn cael eu defnyddio ar hyd a lled Cymru am flynyddoedd i ddod."

Dri mis yn 么l fe gyhoeddodd gasgliad o'i ryseitiau ar y w锚 er mwyn codi arian i'r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y cyfnod clo.

"Hyd y diwedd, roedd hi'n meddwl am bobl eraill," medd Angharad Mair.

Bu farw Ena Thomas yn 85 oed ar 么l salwch hir gan adael g诺r, Geoff a dau fab, Paul Islwyn a Huw.