91热爆

Pen-blwydd Hapus 'Heno'

  • Cyhoeddwyd
Iestyn Garlick, Angharad Mair a Si芒n ThomasFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Iestyn Garlick, Angharad Mair a Si芒n Thomas oedd cyflwynwyr cyntaf y rhaglen Heno gafodd ei darlledu am y tro cyntaf ar 17 Medi 1990

Mae'n chwarter canrif ers i'r rhaglen gylchgrawn 'Heno' ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf. Roedd Si芒n Thomas yno ar y noson gyntaf, ac mae hi'n dal i gyflwyno 'Heno' a'i chwaer rhaglen, 'Prynhawn Da' o Lanelli. Yma mae'n rhannu rhai o'i hatgofion gyda Cymru Fyw am rai o'r cymeriadau y mae hi wedi eu holi, a chael darlledu o'r Oscars yn Hollywood:

"Y swydd berffaith"

Fel croten a fagwyd yn Ystalyfera, yng Nghwm Tawe, 'roedd cael cyflwyno rhaglen ddyddiol o Abertawe yn swydd berffaith.

Yn 1990, cyhoeddodd Geraint Stanley Jones, Prif Weithredwr S4C ar y pryd, ei fod yn awyddus i greu math newydd o raglen, un oedd yn apelio at y Cymry hynny oedd yn llai hyderus yngl欧n 芒 defnyddio'r Gymraeg.

Y bwriad oedd lleoli'r gyfres newydd yn Abertawe - ardal oedd yn naturiol Gymraeg ei hiaith ond lle roedd nifer fawr o'r siaradwyr yn teimlo "smo Nghymraeg i'n ddigon da."

Roeddwn i wedi bod yn gweithio gydag S4C ers noson agoriadol y Sianel yn 1982, ac roeddwn wedi astudio tafodiaith Cwmtawe ar gyfer Gradd M.A. Roeddwn wrth fy modd felly, pan ges i'r gwahoddiad i gyflwyno rhaglen newydd sbon oedd wedi'i lleoli yn yr union ardal honno.

Penderfynwyd ar 'Heno' fel enw i'r gyfres newydd. Angharad Mair, Iestyn Garlick a finnau oedd yn angori'r rhaglen yn y stiwdio, gyda Glynog Davies yn crwydro Cymru yn casglu straeon.

Er taw'r de orllewin oedd cynulleidfa darged y rhaglen, roedd gofyn iddi apelio at Gymru gyfan, ac felly roedd ganddi swyddfa barhaol yn y gogledd hefyd, gyda chriw yn casglu straeon o fan 'na.

Pe byddai rhywun wedi darogan bryd hynny y byddai'r rhaglen yn dal i fynd (er iddi newid delwedd ag enw fwy nag unwaith dros y blynyddoedd), ac yn dal yn boblogaidd mewn 25 mlynedd, dwi'm yn credu byddai'r un ohonom ni wedi ei gredu. Ond dyma ni, 'Yma o hyd' chwedl Dafydd Iwan.

Creu cymeriadau

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Angharad Mair a Ieuan y garddwr yn nyddiau cynnar 'Heno'

Dros y chwarter canrif ddiwetha', ma' 'Heno' wedi rhoi'r cyfle i ddegau o gyfranwyr na fyddai, o bosib, wedi cael y cyfle na'r hyder i gyfrannu i raglen fyw yn y Gymraeg. Daeth cymeriadau fel Ena ac Alvis, Ieuan y garddwr, Huw Ffash ac eraill, yn enwau adnabyddus trwy Gymru.

Mae'r rhaglen wedi bod yn fan cychwyn i nifer fawr o berfformwyr, cyflwynwyr a gohebwyr sydd bellach yn wynebau cyfarwydd ar y Sianel, heb s么n am roi'r cyfle cyntaf i ddwsinau o dechnegwyr a chriwiau camera.

Si芒n yn yr Oscars

Ma' 'Heno' wedi bod yn rhan allweddol o 'mywyd i. Diolch iddi dwi wedi cael y cyfle i grwydro bob cwr o Gymru, a theithio i nifer o wledydd y byd. Ces fynd i'r Oscars yn Hollywood, ac i premier ffilmiau yn Los Angeles. Dwi wedi ffilmio ar strydoedd Efrog Newydd a Dulyn, Ghent a Dieppe.

Dwi wedi sg茂o ar fynyddoedd Ewrop, a hyd yn oed oddi ar ambell un, mewn parachute! Dwi wedi dringo i ben tyrau pont Hafren a phlymio dan ddaear yn ogofau Ystradfellte. Dwi wedi crwydro rhai o ddinasoedd prydfertha' Ewrop a chysgu dan y s锚r yn y Sahara.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Si芒n Thomas yn stiwdio 'Heno' a 'Prynhawn Da' yn Llanelli

Do, ma' 'Heno' wedi rhoi'r cyfle i fi gael profiadau di ri', a dwi wedi mwynhau bob eiliad ohonyn nhw. Ond y fraint fwya' oedd cael rhannu'r profiadau hynny gyda'r gynulleidfa, a chael y croeso mwya' twymgalon mewn cartrefi o F么n i Fynwy.

Mae wedi bod yn hyfryd cwrdd 芒 chynifer o gymeriadau trwy Gymru, a chael y fraint o alw nifer ohonyn nhw, erbyn hyn, yn ffrindiau. Mae'n wych cael pobol yn dod atoch ar y stryd am sgwrs, a chlywed beth sy' 'da nhw ddweud am y rhaglen, neu am yr hyn ro'n i'n gwisgo'r noson o'r blaen!

Yn anad dim, y gynulleidfa piau 'Heno' - eu straeon nhw sydd bob amser wedi llenwi'r rhaglen, ac sy'n dal i wneud.

Bellach ma' 'na griw o bobl ifanc yn rhan o d卯m 'Heno' nad oedd wedi'u geni pan aeth y rhaglen ar yr awyr yn sgw芒r Dewi Sant, Abertawe chwarter canrif yn 么l.

Ers rhai blynyddoedd bellach, Llanelli, tre'r sosban bu'n gartref i'r rhaglen, a chroeso Sir G芒r yn ei chadw'n gynnes. Mewn chwarter canrif, mae'r rhaglen wedi llwyddo i newid gyda'r amserau. Mae wedi adlewyrchu bywyd Cymru. Mae wedi bod yn gefndir i fywyd cenhedlaeth gyfan.

Felly, ar ran y cannoedd ohonom ni sydd wedi bod yn rhan o fywyd y rhaglen 'sbesial' hon dros y blynyddoedd, ga' i ddweud "diolch 'Heno', am bob clonc a chlec, am bob gw锚n a deigryn, am bob profiad a phob cyfle, a hir oes i ti fel rhaglen".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol