Pryder am arafwch canlyniadau profion coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau wedi mynegi pryder wrth i ffigyrau swyddogol ddangos bod y raddfa o brosesu profion coronafeirws wedi arafu bob wythnos ers canol Mai.
Dim ond dros hanner y profion sydd wedi cael eu prosesu o fewn 24 awr - ddiwedd mis Ebrill roedd y ganran yn 68%.
Dywed y rhai sy'n cynghori Llywodraeth Cymru bod y systemau olrhain "mwyaf llwyddiannus" angen canlyniadau "o fewn 24 awr".
Mae llefarydd ar ran y llywodraeth wedi dweud eu bod yn "anelu i ddelio gyda hyn ac yn disgwyl gweld gwelliant".
Ar 7 Mehefin, dywedodd y prif weinidog mai "uchelgais" y llywodraeth oedd prosesu cymaint o brofion 芒 phosib o fewn 24 awr.
Ond mae'r niferoedd wedi parhau i ostwng.
Yn yr wythnos hyd at 21 Mehefin roedd 50.7% o brofion yn cael eu prosesu o fewn diwrnod, 84.4% o fewn deuddydd a 94.1% o fewn tridiau - y canrannau gwaethaf ers i'r cofnodi ddechrau ar 20 Ebrill.
Mae mwyafrif o'r profion - cyfanswm o 74,861 - wedi'u cynnal mewn unedau profi coronafeirws, lle mai dim ond 43.6% sy'n cael eu prosesu o fewn 24 awr a dyw 21% ddim wedi cael prosesu o fewn 48 awr.
Sut fydd pethau ganol gaeaf?
Wrth siarad 芒 rhaglen 91热爆 Politics Wales, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Angela Burns AS: "Mae'r feirws hwn yn teithio'n gyflym ac o fewn 24 awr gallai person fod wedi cwrdd 芒 nifer fawr o bobl.
"Be sy'n fy mhoeni i os nad ydynt yn gallu cael pethau'n iawn nawr pan nad yw'r sefyllfa ar ei gwaethaf - sut ar y ddaear mae cael pethau'n iawn ganol gaeaf pan mae'r sefyllfa'n waeth?"
Dywed Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd iechyd Plaid Cymru bod achosion yr haint yn ffatri brosesu cig 2 Sisters yn ei etholaeth yn "rheswm da pam bod angen y profion n么l yn gyflym".
"Rhaid cael y canlyniad yn 么l yn fuan fel bod y timau olrhain yn gallu olrhain cysylltiadau y bobl sydd wedi cael prawf positif," meddai.
Mae system "profi, olrhain a diogelu" Llywodraeth Cymru yn golygu bod y rhai sydd 芒 chysylltiad agos 芒 phobl sydd wedi cael prawf positif yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod.
Rhwng cychwyn y system newydd ar 1 Mehefin a 21 Mehefin, roedd hi wedi bod yn bosib cysylltu ag 81% o'r cysylltiadau a ganfuwyd - rhwng 1 Mehefin a 14 Mehefin roedd y ganran yn 88.6%.
Mae cyngor gwyddonol yn nodi bod rhaid olrhain 75-90% o'r cysylltiadau er mwyn i'r system fod yn effeithiol.
Mae'r rhestr ddiweddaraf o gysylltiadau wedi'i seilio ar y 1,905 o achos positif a gafodd eu cyfeirio at y timau olrhain lleol a rhanbarthol.
Ond pan ofynnwyd faint o bobl yr oedd Llywodraeth Cymru wedi methu cysylltu 芒 nhw er mwyn olrhain eu cysylltiadau dywedodd llefarydd nad "ydynt yn cyhoeddi y data hwnnw".
Ers i'r system o anfon canlyniadau ar neges destun gael ei chyflwyno ar 21 Ebrill dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod degau o filoedd o negeseuon wedi'u hanfon a dim ond "0.02% sydd wedi cael y neges anghywir".
Canlyniad i'r person anghywir
Un o'r rhai sydd wedi cael canlyniad prawf anghywir yw AS Kensington.
Dywedodd Emma Dent Coad: "Doedd e ddim wedi ei gyfeirio i fi. Roedd enw rhywun arall arno, dyddiad geni rhywun arall ac roedd y neges yn dweud wrthyf bod y prawf, prawf nad oeddwn wedi'i dderbyn, yn negyddol.
"Fy ymateb cyntaf oedd poeni am y person nad oedd yn mynd i gael ei brawf.
"Dywedont wrthyf mai camgymeriad dynol oedd e wrth i rywun roi'r rhif ff么n anghywir.
"Mae'n rhaid cael mecanwaith i atal hyn," ychwanegodd.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bod y camgymeriad yn cael ei drin fel "digwyddiad difrifol" a'u bod yn "gweithredu i sicrhau nad yw'n digwydd eto".
Bydd y stori yn llawn ar 91热爆 Politics Wales ar 91热爆1 Wales am 10:15.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2020