91热爆

Toriadau i gyllideb CNC 'ddim yn gwneud synnwyr'

  • Cyhoeddwyd
Bywyd gwyllt

Mae disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyflawni eu dyletswyddau gyda thoriad o 拢7.5m yn gwbl afresymol.

Dyna'r rhybudd wrth i elusennau sy'n cyd-weithio 芒'r corff amgylcheddol hefyd fynegi pryder am doriadau Llywodraeth Cymru, yn sgil pandemig Covid-19.

Yn 么l Ll欧r Gruffydd AS, llefarydd dros yr Amgylchedd i Blaid Cymru, mae angen i Lywodraeth Cymru ailystyried.

"Mae rhywun yn cydnabod wrth gwrs fod yna argyfwng iechyd ac wrth gwrs fod yn rhaid i'r Llywodraeth ymateb ym mhob ffordd posib i fynd i'r afael 芒 Covid-19," meddai.

"Ond mae'r Llywodraeth hefyd yn dweud wrthon ni fod yna argyfwng hinsawdd ac ecolegol, a'r corff sy'n arwain yn hynny o beth yw Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Ry'n ni'n gweld canlyniadau'r newid hinsawdd yna trwy'r llifogydd ry'n ni di gweld yn y blynyddoedd diwetha', felly dyw e ddim yn gwneud synnwyr yn fy marn i ei bod yn torri'r gyllideb i'r graddau yma, oherwydd mae'n mynd i olygu yn anochel nad yw CNC yn mynd i fedru cyflawni llawer o'u dyletswydde."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae torri cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru'n destun pryder, medd Llyr Gruffydd

Mae elusennau sy'n cyd-weithio'n agos 芒 CNC yn poeni y gallai'r toriadau effeithio ar eu prosiectau nhw hefyd.

Mae Gareth Waters yn wirfoddolwr gydag Afonydd Cymru sy'n cynnal a chadw a gwarchod afonydd rhag llygredd.

Dywedodd: "Ni'n gweithio 'da pobl sy'n rheoli y tir, gweithio'n agos 'da ffermwyr. Heb yr arian a chefnogaeth gan CNC, falle na fydde'r prosiecte yn mynd yn eu blaen, a wedyn fydde dim diogelwch ar ein hafonydd am y genhedlaeth nesaf.

"Yn y dyfodol, ni angen cefnogaeth CNC ar gyfer y gwaith ni'n 'neud."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cefnogaeth CNC yn allweddol, medd Gareth Waters - gwirfoddolwr Afonydd Cymru

Mae CNC yn rhybuddio y bydd y toriadau hyn yn cael effaith ddifrifol ar eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau.

Fe ddywedon nhw mewn datganiad: "Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried hyn ac effeithiau eraill Covid-19 ar ein cyllidebau, yn enwedig ar ein hincwm rheoleiddiol, masnachol a phren a byddwn yn adolygu ein cyllideb a'n cynllun busnes yng ngoleuni hyn yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd."

Mae CNC yn rheoli coedwigoedd ar dir cyhoeddus a rheoleiddio'r diwydiant pren.

Oherwydd y cyfnod clo, mae'r incwm iddyn nhw yn y maes hwn wedi disgyn yn sylweddol.

Mae hynny yn bryder ychwanegol, yn 么l Llyr Gruffydd AS: "Mae disgwyl i CNC wneud colledion sylweddol - hyd at 拢15m yn 么l un ffigwr dwi di weld - trwy eu gweithgaredd yn y sector coed.

"Mae colli 拢7.5m yn annisgwyl yn un peth, ond os rowch chi hynny mewn cyd-destun ehangach, ry'n ni'n s么n am ffigwr sydd yn nes at 拢20m o bosib, ac mae hynny wrth gwrs yn doriad cwbl frawychus i unrhyw fudiad."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod ail-flaenoriaethu cyllidebau yn angenrheidiol oherwydd sefyllfa ddigynsail Covid-19.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn cydweithio'n agos 芒 CNC i sicrhau bod ganddynt yr hyblygrwydd yn eu cyllideb.... Mae'n rhaid inni gofio bod y gostyngiad hwn mewn cyllid craidd yn berthnasol i 2020-21 yn unig, ac rydym wedi cynyddu cyllideb llifogydd CNC eleni.

"Tra bod pob corff cyhoeddus o dan yr un pwysau ariannol, byddwn yn parhau i edrych ar y pwysau ariannol yn ogystal 芒'r cyfleoedd cyllido ar gyfer CNC dros y flwyddyn a ddaw."