91热爆

Busnesau yn galw am 'well canllawiau' coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Tree House
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae perchnogion siopau bach am gael mwy o fanylion am reolau ymbellhau mewn adeiladau cyfyng

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu gwell canllawiau wrth i siopau ar wah芒n i'r rhai sy'n gwerthu nwyddau angenrheidiol baratoi i ailagor - dyna rai o'r galwadau o fewn y sector.

Yn 么l perchnogion siopau annibynnol bach mae'r sefyllfa yn aneglur yngl欧n 芒 sut i weithredu rheolau ymbellhau'n gymdeithasol o fewn siopau cyfyng.

Ddydd Llun fe wnaeth siopau y stryd fawr ailagor yn Lloegr, cyn belled 芒'u bod yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.

Yng Nghymru, dim ond siopau sy'n gwerthu bwyd a nwyddau sydd wedi eu categoreiddio fel rhai angenrheidiol sydd wedi parhau ar agor yn ystod y pandemig.

Yn y cyfamser, mae yna rybudd hefyd oddi wrth dafarndai y gallai miloedd o swyddi fod yn y fantol o ganlyniad i'r pandemig a'r mesurau i'w reoli.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi busnesau ac y byddai canllawiau penodol i'r sector yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

'Ysu i ailagor'

Galw am "well canllawiau" mae perchnogion rhai o siopau bach Cymru.

Dair wythnos yn 么l dywedodd Mark Drakeford y dylai busnesau ddefnyddio'r cyfnod o'u blaenau i baratoi ar gyfer ailagor.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Angharad Morgan, perchennog Siop Inc, wedi gorfod mynd n么l i'w hen swydd am y tro

Does dim gwefan gan Siop Inc yn Aberystwyth ac er bod rhai archebion wedi cael eu postio yn ystod y cyfnod does prin dim incwm wedi ei gynhyrchu ers mis Mawrth.

Oherwydd hynny, mae'r perchennog Angharad Morgan wedi mynd n么l i weithio i'r gwasanaeth iechyd lleol.

"Fi'n ysu i fynd n么l ac agor drws y siop ond eto i gyd yn reit bryderus am wneud hynny hefyd.

"Does dim byd pendant wedi dod o'r Llywodraeth felly dydyn ni ddim yn si诺r," meddai Ms Morgan.

"Mae'n rhaid cadw at fesuriadau pellter a hyn a'r llall a neud yn si诺r bod y lle yn saff ond does dim canllawiau pendant wedi dod chwaith.

"Os fyddwn ni'n cael agor, fy mhryder i yw, a yw bobl yn mynd i ddod allan?"

Mae siop wl芒n Clare's yn adeilad cul gyda'r perchennog Cynthia Binks hefyd yn ansicr yngl欧n 芒'r ffordd orau o weithredu'r rheolau newydd.

"Ni angen mwy o gyngor, a dweud pryd ni'n gallu agor achos wedyn bydd modd i ni roi'r busnes mwy ar y blaen.

"Mae'n anodd i ni baratoi ar gyfer ailagor."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed perchnogion cwmni Treehouse bod yn rhai arloesi er mwyn goroesi

Mae cynllun busnes y Treehouse wedi newid yn yr wythnosau diwethaf, gyda'r siop yn symud i leoliad mwy cyn gynted 芒 phosib.

Yn 么l un o'r cyfarwyddwyr, Gwern Gwynfil, mae'n "rhaid arloesi" er mwyn goroesi.

"Mae'r safle newydd chwe gwaith maint ein gofod presennol ni.," meddai.

"Mae gofod yn mynd i fod yn broblem i fusnesau wrth i'r Gaeaf agos谩u.

"Hefyd, mae'r holl argyfwng wedi cyflymu newidiadau oedd yn digwydd yn y byd masnach ta beth.

"Mae'r profiad siopa yn gorfod newid ac mae cael mwy o ofod yn neud e'n haws i ni roi profiad gwell."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai penderfyniad yngl欧n 芒'r siopau yn cael ei gymryd ddydd Gwener fel rhan o'r cyfnod arolygu sy'n digwydd bod 21 diwrnod - ac yn ofynnol yn 么l y gyfraith.

"Fe fydd y penderfyniad wedi ei wneud ar si芒l y dystiolaeth wyddonol a meddygol diweddaraf."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l bragdai mae tafarndai yn cyflogi dros 40,000 o bobl yng Nghymru

Yn y cyfamser, dywed cwmni S.A Brains, cwmni tafarndai mwyaf Cymru, fod peryg i dros 40,000 o swyddi oherwydd effaith y cyfyngiadau presennol.

Yn 么l Alistair Darby o gwmi S.A .Brain, sy'n berchen ar tua 100 o dafarndai, mae'r cloc yn tician.

Dywedodd fod y coffrau wrth gefn bron yn wag.

Ychwanegodd hyd yn oed pe bai Mark Drakeford yn cyhoeddi bod modd ailagor yn yr haf byddai dros hanner eu tafarndai yn parhau ar gau oherwydd bydd nifer y cwsmeriaid tua thaeran yr hyn yr oedd cyn y pandemig.

Yn 么l arolwg gan y BBPA (British Beer and Pubs) ym mis Ebrill ni fyddai 40% o dafarndai'r DU yn goroesi tan fis Medi.

Dywed y BBPA fod y sector yn cyflogi 42,000 o bobl yng Nghymru ac yn cyfrannu 拢950 i'r economi yma.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r cyfyngiadau presennol ond yn cael eu llacio pan ei fod yn ddiogel i wneud hynny.