91热爆

Y Cymoedd a threfi arfordirol y gogledd 'i ddioddef fwyaf'

  • Cyhoeddwyd
Y RHylFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Rhyl yn cael ei rhestru ymysg yr 20 tref waethaf am les economaidd

Trefi'r Cymoedd a threfi arfordirol y gogledd fydd yn dioddef fwyaf yn economaidd oherwydd y pandemig coronafeirws, yn 么l gr诺p ymchwil.

Dywed y Centre for Towns fod yr ardaloedd hynny yn barod yn dioddef, a'u bod yn fwy bregus i effeithiau economaidd Covid-19.

Mae ei gwaith ymchwil yn rhoi 10 tref yng Nghymru yn yr 20 mwyaf bregus yn economaidd yng Nghymru a Lloegr gyda Thredegar a Bae Cinmel yn y tri uchaf.

Edrychodd yr ymchwil ar ystod eang o ffactorau gan gynnwys cyfran y bobl sy'n gweithio mewn busnesau sydd wedi'u cau; cyfran y preswylwyr h欧n; lles cymdeithasol ac economaidd cyn y pandemig.

Mae hefyd wedi edrych a yw'r ardal wedi dioddef o newid diwydiannol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Ian Warren, a sefydlodd y ganolfan sy'n rhan o Brifysgol Manceinion, fod y 10 tref o Gymru sy'n cael eu henwi eisoes yn dioddef yn economaidd.

Cafodd Tredegar ei henwi fel yr ail dref fwyaf bregus yng Nghymru a Lloegr.

Mike Garland ydy cyfarwyddwr cwmni M&J Europe ar gyrion Tredegar, sy'n cyflogi 28 o beirianwyr.

Dechreuodd ei gwmni wrth wasanaethu cwsmeriaid yn y diwydiant dur ond mae wedi addasu i'r diwydiant bwyd a fferyllol.

Cyn y coronafeirws, roedd Mr Garland yn bwriadu cyflogi mwy o staff. Mae'n dal i obeithio y gall wneud hyn yn ddiweddarach yn yr haf.

Dywedodd ei fod mewn sefyllfa i "ddod 芒 phobl yn 么l i gyflogaeth".

"Mae yna waith," meddai. "Fe allwn ni gael gwaith, ond mae angen cefnogaeth arnom ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mike Garland, cyfarwyddwr M&J yn Nhredegar

Un sy'n rhedeg caffi yn y dref yw Chris Morgan. Mae'n credu fod Tredegar yn dref "ffantastig" i fyw ynddi.

Ar hyn o bryd mae'n cynnig prydau bwyd ar glud dridiau'r wythnos ond fel arfer gall 45 o bobl eistedd yn y caffi ar y tro.

Mae'n dweud hyd yn oed ar 么l codi rheolau teithio coronafeirws na fydd bwytai, caffis a thafarndai yn gallu gwasanaethu nifer y cwsmeriaid sydd eu hangen arnyn nhw i dalu eu costau.

"Mae'n rhaid i chi fod yn bositif bob amser, mae'n rhaid i chi weld y cwpan yn hanner llawn yn hytrach na hanner gwag fel arall byddech chi'n pacio ac yn gadael," meddai.

"Rwy'n credu ein bod wedi cael ein taro pan adawodd diwydiant y dref, fe olygodd hynny golli swyddi ac mae pobl wedi symud i ffwrdd.

"Hefyd y syniad o roi'r siopau ar rannau allanol y trefi, fe aeth 芒 phobl allan o'r ardal leol i siopa, sydd yn llawer rhatach ac yn llawer haws. Mae'n anodd iawn cystadlu 芒 phethau felly."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cerflun o Aneurin Bevan yn Nhredegar, tref oedd yn ffynnu pan oedd y diwydiannau glo a dur yn gryf

Mae Mandy Moore, cynghorydd lleol, yn parhau i fod yn optimistaidd, gan fod y dref wedi bod yn denu buddsoddiad gan y sector preifat mewn siopau a thafarndai newydd.

Ond mae hi hefyd yn cydnabod pa mor fregus yw economi'r dref.

"Mae hi'n dref anghofiedig i ryw raddau. Mae'r dref hon yn wydn iawn, rydyn ni wedi bod trwy lawer yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

"Mae'n teimlo fel ein bod ni bob amser yn taro yn 么l, ond mae'n mynd yn anoddach ac yn anoddach bob tro. Mae angen mwy o fuddsoddiad arnom ni."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo tua 拢2bn i amddiffyn swyddi ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau trwy'r cyfnod hynod anodd hwn.

"Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyflwyno ystod o gynlluniau i gefnogi busnesau ond rydym yn galw arnyn nhw i fynd ymhellach a darparu'r cymorth ariannol ychwanegol sydd ei angen ar gwmn茂au a chymunedau."