91Èȱ¬

'Mae hon yn wlad ranedig': Gohebu o ganol terfysgoedd America

  • Cyhoeddwyd
Maxine HughesFfynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Maxine Hughes yn gohebu i Newyddion S4C yn Washington

Mae protestiadau treisgar yn parhau yn dilyn marwolaeth dyn Affro-Americanaidd oedd yng ngofal yr heddlu yn yr Unol Daleithiau.

Yn sgil marwolaeth George Floyd yn Minneapolis, mae protestiadau wedi digwydd mewn dros 75 o ddinasoedd ar draws y wlad.

Yma mae'r Gymraes Maxine Hughes yn rhannu ei phrofiad o weithio fel newyddiadurwr yn ystod cyfnod mwyaf cythryblus yr UDA ers degawdau.

Mae byw a gweithio fel newyddiadurwr yn yr Unol Daleithiau wedi teimlo'n rhyfedd iawn yr wythnos hon.

Mae byw o dan y cyfyngiadau coronafeirws eisoes wedi bod yn anodd ac ry'n ni newyddiadurwyr wedi gorfod addasu i weithio o dan gyfyngiadau Covid-19.

Ers i'r pandemig daro, mae'r gyfradd diweithdra wedi cynyddu, ac mae gobeithion pobl am eu dyfodol wedi chwalu.

Ond pan fu farw person du arall tra yng ngofal yr heddlu, fe newidiodd pethau'n gyflym.

Yn lle siarad am y coronafeirws, yn sydyn roedden ni gyd yn siarad am anghydraddoldeb hiliol - unwaith eto.

Ffynhonnell y llun, Twitter/Ruth Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Mae heddwas wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn achos marwolaeth George Floyd

Roedd George Floyd yn 46 oed ac wedi cael ei arestio am ddefnyddio bil $20 ffug.

Yn wreiddiol o Texas, roedd yn byw yn Minneapolis, ac fel miloedd o bobl eraill wedi colli ei swydd oherwydd y pandemig.

Yn ôl yr heddlu, roedd yn gwrthwynebu cael ei arestio, ac fe dynnon nhw wn arno.

Dywedodd Floyd ei fod yn teimlo'n glawstroffobig. Yna fe gyrhaeddodd heddwas arall.

Mae lluniau fideo yn dangos y swyddog Derek Chauvin yn penlinio ar wddf Floyd am sawl munud, a George Floyd yn dweud nad oedd o'n gallu anadlu. Bu farw'n ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau wedi eu cynnal mewn dros 75 o ddinasoedd

Mae marwolaeth George Floyd wedi tanio tensiwn hiliol yn America ac fel newyddiadurwyr yma, mae'r stori yn un cyfarwydd.

Rydw i wedi bod yn rhan o ddarllediadau newyddion nifer o ddigwyddiadau Black Lives Matter ac mae 'na gymaint o ddicter ynghylch hil a chydraddoldeb yma.

Mae hiliaeth sefydliadol wedi'i wreiddio yn y gymdeithas. Mae wedi bod yn broblem ers 400 mlynedd, ac mae'n ymddangos bod y staen mae caethwasiaeth wedi'i adael ar yr UDA yn amhosib i'w waredu.

Mae hon yn wlad ranedig.

Ffynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Sgrifen ar y mur yn Washington wedi marwolaeth George Floyd

Mae mwy o bolareiddio gwleidyddol rŵan nag ydw i wedi ei deimlo erioed dros y pedair mlynedd dwi wedi byw yma.

Des i yma i'r Unol Daleithiau cyn yr etholiad diwethaf. Ces i fy synnu cymaint ag unrhyw un pan enillodd Donald Trump. Ac roedden ni gyd yn teimlo fel newyddiadurwyr bod pedair blynedd prysur o'n blaenau.

Ond mewn gwirionedd does dim wedi ein paratoi ar gyfer yr wythnos ddiwethaf hon.

Fel llawer o ddinasoedd ledled America, mae strydoedd Washington DC yn edrych fel rhyfel. Rydw i wedi gweld llawer o brotestiadau yma o'r blaen, ond dim byd tebyg i hyn.

Mae hon yn wlad sydd eisoes yn dioddef

Mae'r Arlywydd wedi galw'r protestwyr yn "thugs" ac fe alwodd y gwasanaeth cyfrinachol a'r National Guard.

Mae'n ymddangos bod ei negeseuon ar Twitter yr wythnos hon wedi rhwygo'r chwith ymhellach o'r dde nag erioed.

Mae'r Arlywydd Trump hefyd yn agored iawn am ei gasineb yn erbyn y cyfryngau - neu "fake news" fel y mae'n ei alw.

Allwn ni ddim helpu ond meddwl bod y teimlad hwn yn gyrru rhai o weithredoedd yr heddlu.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan CNN

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan CNN

Ym Minneapolis arestiwyd tîm CNN yn fyw ar yr awyr. Dros y penwythnos cafodd tîm o Awstralia hefyd eu harestio yn y ddinas.

Mae fy mhartner Sally hefyd yn newyddiadurwr sy'n gweithio i sianel newyddion rhyngwladol. Fe adroddodd hi'n fyw o ganol y brotest nos Sadwrn.

Pan ddechreuodd y gwasanaethau cudd saethu bwledi rwber i wthio protestwyr yn ôl, dywedodd Sally bod un wedi anelu yn syth at ei brest - yn fyw ar yr awyr.

Cafodd ei saethu gan fwledi rwber sawl gwaith, ac mae wedi goddef llawer iawn o nwy dagrau hefyd, sy'n brofiad annymunol iawn.

Ffynhonnell y llun, TRT World
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sally Ayhan, partner Maxine, ei saethu gyda bwledi rwber tra'n gohebu yn Washington

Gofynnodd fy mab hynaf i mi pam bod yr heddlu yn saethu at ohebwyr newyddion, a pham bod yr heddlu yn saethu ei fam?

Doeddwn i ddim yn gallu ateb. Dydw i ddim yn gwybod yr ateb.

Rydw i wedi cerdded ar hyd strydoedd Washington DC y bore 'ma ar ôl y nosweithiau o aflonyddwch.

Mae holl ffenestri'r siopau wedi'u malu, y bwytai wedi'u fandaleiddio. Mae ceir wedi eu rhoi ar dân. Rwy'n teimlo'n drist.

Mae hon yn wlad sydd eisoes yn dioddef. Mae'n anodd deall sut y gall y trais a'r dinistr hwn wneud unrhyw beth mwy na brifo'r busnesau hyn sydd eisoes yn colli'r frwydr.

Ond dwi hefyd yn gweld y rhwystredigaeth ymhlith pobl America, sydd eisiau newid. Pam bod pobl ddu yn dal i farw yn nwylo swyddogion heddlu gwyn?

Sosban ferw

Fel newyddiadurwr yn Washington DC, dwi'n teimlo'n agos iawn at beth sy'n digwydd yng nghalon gwleidyddiaeth America. Rwy'n gweld y ddadl bob dydd. Ond dyma fy nghartref hefyd, a'r lle dwi'n magu fy mhlant.

Pa fath o wlad yw hon lle mae fy mhlant yn gweld un o'u rhieni'n dod adref o'r gwaith gyda chleisiau ar ôl cael ei saethu gan y heddlu?

Sut mae egluro'r 'sgrifen ar y wal wrth ymyl eu hoff siop hufen iâ yn gofyn i bobl ddeall bod bywydau pobl ddu yn bwysig hefyd?

Bob tro mae rhywbeth yn digwydd a pherson du yn marw, dwi'n gweld bod pobl yn fwy penderfynol i sicrhau newid.

Ond mae'r protestiadau hyn yn wahanol. Maen nhw'n fwy dwys. Ac mae America yn teimlo fel sosban ferw - sydd ar fin ffrwydro ar unrhyw foment.