91热爆

Cannoedd mewn protest 'Black Lives Matter' yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
protestiadau BLM
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y protestwyr wedi eistedd ar wasgar o flaen y castell er mwyn ceisio cadw pellter cymdeithasol

Mae cannoedd o bobl wedi ymgynnull y tu allan i Gastell Caerdydd i ddangos cefnogaeth i ymgyrch Black Lives Matter.

Daw hynny mewn ymateb i ddigwyddiad ym Minnesota, UDA ar 25 Mai pan gafodd dyn du, George Floyd, ei ladd gan swyddog heddlu.

Mae'r farwolaeth wedi arwain at brotestiadau mawr yn yr Unol Daleithiau, gyda gwrthdystiadau hefyd wedi'u cynnal ym Mhrydain ac ar draws y byd.

Fe wnaeth y protestwyr yng Nghaerdydd eistedd yn heddychlon ger waliau'r castell yng nghanol y ddinas gan ddal arwyddion gyda sloganau gan gynnwys 'Black Lives Matter' a Say their names'.

Beth yw'r cefndir?

Yn yr UDA mae cyfyngiadau wedi eu rhoi mewn lle er mwyn ceisio tawelu'r protestiadau sydd wedi codi yn sgil marwolaeth Mr Floyd.

Mae rhai ohonynt wedi troi'n dreisgar, gyda siopau, ceir ac adeiladau'n cael eu difrodi, a'r heddlu yn defnyddio nwy dagrau a bwledi rwber.

Bellach mae cyn-swyddog heddlu wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Mr Floyd, 46, yn Minneapolis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai o'r protestiadau mewn dinasoedd yn yr UDA bellach wedi troi'n dreisgar

Bydd Derek Chauvin, 44, yn ymddangos yn y llys ddydd Llun.

Mae delweddau fideo o'r digwyddiad yn dangos Mr Chauvin yn penlinio ar wddf Mr Floyd am sawl munud, er bod Mr Floyd yn dweud nad yw'n gallu anadlu.

Mae'r heddweision eraill oedd yn yno ar y pryd bellach wedi cael eu diswyddo hefyd, ond mae'r achos wedi codi cwestiynau unwaith eto ynghylch y modd mae pobl groenddu'n cael eu trin gan yr heddlu yn yr UDA.

'Dangos cefnogaeth'

Dywedodd Garyn Young, un o'r protestwyr yng Nghaerdydd, ei bod hi'n bwysig dangos cefnogaeth i'r ymgyrchwyr yn yr UDA.

"Mae'n gwneud fi'n emosiynol, mae'n gr锚t gweld bod cymaint o angerdd a chymaint o ddicter am beth sydd wedi digwydd," meddai.

Ychwanegodd Donna Ali: "Dwi'n credu os ydych chi'n aros yn ddistaw, 'dych chi ddim am newid unrhyw beth.

"Mae'n rhywbeth 'dyn ni wedi profi ers sawl blwyddyn, nid dim ond yn America ond ym Mhrydain hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw broblemau wedi codi yn ystod y brotest

Dywedodd Molly Palmer ei bod hi'n mynychu'r brotest er mwyn "dangos cefnogaeth i fy mrodyr a chwiorydd a ffrindiau".

"Gallwch chi weld bod llawer o bobl yn glynu at y rheolau ymbellhau cymdeithasol, sydd yn dda," meddai.

"'Dyn ni i gyd yma am yr un rheswm, rydyn ni i gyd eisiau i bawb fod yn saff."

Mewn datganiad dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymwybodol o'r protest a'u bod wedi atgoffa ymgyrchwyr o bwysigrwydd cadw at y canllawiau coronafeirws presennol ar ymbellhau cymdeithasol.

"Fe wnaeth y digwyddiad basio heb broblemau a chyn lleied 芒 phosib o darfu ar y cyhoedd yn gyffredinol," meddai'r llu.