Troseddau casineb wedi dyblu'n y gogledd mewn pum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod troseddau casineb yng ngogledd Cymru wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Dangosodd Cais Rhyddid Gwybodaeth - gan raglen materion cyfoes Radio Cymru, Manylu - eu bod wedi codi o 416 yn 2014 i 858 y llynedd.
Aeth troseddau hiliol yn nalgylch Heddlu'r De i fyny o 879 i 1,244 o fewn pum mlynedd.
Mewn pedair blynedd, aeth nifer y troseddau hiliol a gofnodwyd gan Heddlu Gwent i fyny o 374 i 651.
Chafodd y rhaglen ddim ffigyrau gan Heddlu Dyfed Powys.
Mae Eryl Jones o elusen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, sy'n ceisio addysgu plant ac oedolion yngl欧n 芒 hiliaeth, yn credu mai'r hyn sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn ystod y cyfnod yma ydi'r refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n cael ei ategu gan y Swyddfa Gartref.
"Ers y cyfnod pan wnaeth yr ymgyrchu dros adael yr UE ddechrau mae achosion o hiliaeth wedi codi ym Mhrydain ac yng Nghymru," meddai.
"Felly mae'n weddol amlwg sut mae Brexit wedi bod yn ddylanwad mawr ar sut mae'r broblem wedi gwaethygu.
"Y teimlad ydy bod lot o bobl yn credu bod ganddyn nhw'r hawl a'r rhyddid i fynegi eu sylwadau hiliol neu i fod yn sarhaus ac i ddangos casineb oherwydd bod Brexit wedi digwydd."
'Disgybl wedi fy ngalw'n 'ffiaidd'
Mae'r gantores a'r tiwtor cerddoriaeth o Ferthyr Tudful, Eadyth Crawford, wedi dioddef hiliaeth ers ei dyddiau ysgol, oherwydd lliw ei chroen.
Mae'n dweud bod rhagfarn wedi bodoli erioed, ond bod y bleidlais ar Brexit wedi golygu fod pobl yn fwy parod i'w fynegi.
"Oherwydd bod Brexit yn apelio at y math yma o bobl, mae wedi dod 芒 nhw allan o'r cysgodion," meddai.
Mae Eadyth Crawford hefyd yn dweud bod 'na ddiffyg cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n diodde' hiliaeth.
Mae'n dweud hanes un plentyn pedair neu bump oed ddywedodd wrthi pan oedd hi'n dysgu mewn ysgol ei bod hi'n edrych yn ffiaidd am ei bod hi'n ddu.
Pan ddywedodd wrth aelodau eraill o'r staff nad oedd hi am weithio yno mwyach, roedden nhw'n ddig tuag ati.
"Oeddwn i jest mor surpised," meddai. "Chefais i ddim cymorth. Chefais i ddim sori."
Mae ymgyrchydd blaenllaw dros Brexit yn dweud ei bod hi wedi ei siomi fod yr ymgyrch i adael yr UE wedi arwain pobol hiliol i gredu bod ganddyn nhw'r hawl i ddatgan eu barn yn rhydd.
Fe wnaeth Melanie Owen, sydd o gefndir Cymreig a Charib茂aidd, adael y Blaid Geidwadol y llynedd oherwydd honiadau o hiliaeth.
Dywedodd ei bod yn anffodus fod pobl hiliol nawr yn credu y gallan nhw ddweud pethau yr oedden nhw'n eu celu yn flaenorol.
"Ma' fe'n horrible i'r bobl sy'n gorfod derbyn yr hiliaeth yma, ac yn horrible i bobl fel fi sydd wedi pleidleisio dros adael yr UE am resymau sydd ddim byd i'w wneud gyda hiliaeth," meddai.
'Plesio'r rhai mwyaf eithafol'
Mae'n dweud bod sylwadau ymfflamychol gan wleidyddion a ffigyrau cyhoeddus wedi cyfrannu at awyrgylch o densiwn.
"Mae gwleidyddion yn dweud y pethau hyn i blesio'r rhai mwyaf eithafol ar ddwy ochr y ddadl," meddai.
"Ond maen nhw'n anghofio mai lleiafrif uchel eu cloch ydy'r rhain, a fyswn i'n dweud bod cyfrifoldeb arnyn nhw i beidio dweud pethau fel'na."
Mewn datganiad dywedodd lefarydd ar ran y Blaid Geidwadol nad ydy sylwadau hiliol yn dderbyniol.
Mae Manylu yn cael ei ddarlledu ar 91热爆 Radio Cymru ddydd Iau, 20 Mehefin am 12:30 a dydd Sul, 23 Mehefin am 16:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017