91热爆

Olrhain cysylltiadau Covid-19 o 1 Mehefin

  • Cyhoeddwyd
ProfiFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd pobl sy'n dod i gysylltiad gyda rhywun a gafodd brawf positif am Covid-19 yn cael eu holrhain o 1 Mehefin, medd y Gweinidog Iechyd.

Mae'n bosib y bydd gofyn i'r cysylltiadau yna hunan ynysu, hyd yn oed os nad oes symptomau ganddyn nhw eu hunain.

Dywedodd Vaughan Gething bod llacio mwy ar y cyfyngiadau yn ddibynnol ar bawb yn dilyn y canllawiau yn strategaeth Profi, Olrhain a Gwarchod Llywodraeth Cymru, gan gynnwys hunan ynysu pan fydd galw.

Ond ychwanegodd Mr Gething y dylai unrhyw un gyda symptomau, a'r bobl sy'n byw yn yr un cartref a nhw, hunan ynysu.

Pwysleisiodd y gweinidog: "Mae mwyafrif llethol y bobl sy'n credu fod ganddyn nhw symptomau ac yn cael prawf yn cael canlyniad negatif.

"Ar hyn o bryd dim ond 12% o brofion coronafeirws sy'n rhoi canlyniad positif."

Dywedodd Mr Gething felly na fyddai pobl sy'n dod i gysylltiad gyda rhywun symptomatig yn cael eu holrhain oni bai fod canlyniad prawf yn bositif gan y gallai hynny "arwain at lawer o bobl yn cael cais i hunan ynysu heb angen".

Bydd olrhain cysylltiadau yn cael ei weithredu cam wrth gam, gan "ddatblygu a dysgu wrth fynd ymlaen".

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal cynllun peilot mewn pedair ardal ers 18 Mai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y Gweinidog Iechyd hefyd fod capasiti profi yng Nghymru wedi cynyddu wrth baratoi am y strategaeth Profi, Olrhain a Gwarchod i "dros 9,000 o brofion y dydd" a bod disgwyl y bydd 10,000 prawf y dydd ar gael yn y dyfodol agos.

Mae gweithwyr allweddol a'r cyhoedd yn gallu cael offer profi yn y cartref drwy wefan llywodraeth y DU, ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn agor safleoedd profi cyhoeddus i weithwyr allweddol yn fuan.

Galwodd Mr Gething ar y cyhoedd i "chwarae eu rhan" yn y cynllun, gan ddweud: "Rwy'n ymwybodol iawn o'r aberth y mae llawer wedi ei wneud yn ystod y cyfnod cloi.

"Byddwn yn parhau i ofyn i bobl chwarae eu rhan wrth reoli ymlediad yr haint drwy hunan ynysu yn eu cartrefi pan mae symptomau ganddyn nhw a hefyd i gael prawf.

"Fydd y system yma ond yn gweithio os fydd pobl yn fodlon chwarae eu rhan a pharhau i warchod eraill."