Cyffuriau, arfau ac arian wedi eu canfod yn y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae arian a gwerth miloedd o bunnoedd o gyffuriau wedi cael eu cipio gan yr heddlu o ganlyniad anuniongyrchol i atal cerbydau yn ystod y pandemig coronafeirws.
Fe ddywed uwch swyddogion yr heddlu ei bod wedi bod yn haws dal troseddwyr gan bod llai o gerbydau ar y ffyrdd.
Mae Heddlu Gwent wedi cipio dros 300 o gerbydau a swm sylweddol o gyffuriau Dosbarth A yn ystod ymgyrchoedd.
Mae'r lluoedd yng Nghymru wedi bod yn gweithredu "patrolau Covid" ar feiciau modur, ac wedi sefydlu mannau gwirio.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Gwent, Amanda Blakeman, eu bod nhw wedi canfod popeth o ganabis i goc锚n, a bod troseddwyr trefnedig nawr yn "llawer mwy amlwg".
Daeth swyddogion o hyd i 2kg o goc锚n a 拢30,000 mewn un cerbyd gafodd ei atal.
Ychwanegodd Ms Blakeman: "Rydym wedi cipio miloedd o bunnoedd mewn arian parod, symiau mawr o gyffuriau Dosbarth A a mathau eraill o gyffuriau hefyd.
"Ry'n ni hefyd wedi cipio 347 o gerbydau ers i hyn ddechrau."
Mae Sarjant Stuart Poulton yn gweithio ar feic modur i'r heddlu a dywedodd: "Gan ein bod ni'n gwirio cymaint mwy nawr, ry'n ni'n gweld mwy a mwy o droseddau.
"Mae'n siwr eu bod nhw wastad wedi bod allan yna, ond nawr ry'n ni'n eu dal nhw yn llawer haws. Mae'n ganlyniad anuniongyrchol o'r lockdown."
Draw yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, mae swyddogion wedi canfod arfau troseddol a chyffuriau ac wedi atal un gyrrwr oedd heb drwydded nac yswiriant oedd yn tynnu jac-codi-baw oedd wedi'i ddwyn y tu 么l i'w gerbyd.
Yn Sir Benfro fe gafodd dyn oedd wedi gyrru o Gaerdydd i Ddinbych-y-pysgod i fynd am dro ei arestio pan ddaeth hi'n amlwg ei fod wedi cael ei alw n么l i'r carchar.
Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys fod "swm sylweddol o goc锚n" wedi ei ganfod mewn car a gafodd ei atal yn Sancl锚r ym mis Ebrill.
Dywedodd y Prif-Arolygydd Martin Smith ei bod wedi bod yn haws dal troseddwyr oedd yn symud i mewn ac allan o Gymru.
"Nid pob gyrrwr sy'n droseddwr, ond mae pob troseddwr yn gyrru," meddai.
"Maen nhw'n mynd i fod yn fwy amlwg gan fod llai o gerbydau ar y ffyrdd."
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020