Cyfyngiadau: Uchafswm dirwyon am aildroseddu i godi
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y ddirwy uchaf am aildroseddu yn erbyn cyfyngiadau'r coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu cyn penwythnos gŵyl y banc o £120 i £1,920.
Mae'r newid yn dilyn cais gan bedwar heddlu Cymru a'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i gynyddu'r cosbau mewn ymgais "i gymell pobl i beidio â thorri'r rheoliadau aros gartref, dro ar ôl tro".
Bydd rheoliadau newydd i gynyddu'r dirwyon yn mynd o flaen y Senedd ddydd Iau ac yn dod i rym ddydd Gwener.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Bydd y newidiadau hyn yn anfon neges bendant i'r lleiafrif bach o bobl sy'n mynnu anwybyddu'r rheolau a thanseilio ymdrechion pawb arall sy'n gwneud y peth cywir."
Mae tystiolaeth yr heddluoedd yn dangos mai lleiafrif bach o bobl syn torri'r cyfyngiadau, yn enwedig drwy deithio i ardaloedd o harddwch naturiol fel Eryri a Bannau Brycheiniog, er bod atyniadau ar gau ers diwedd Mawrth.
Mynnodd Mr Drakeford mai'r "dewis olaf" yw dirwyon wrth i'r lluoedd blismona'r "rheoliadau sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel".
Ond dywedodd fod tystiolaeth y prif gwnstabliaid a'r Comisiynwyr Heddlu'n "dangos bod angen strwythur dirwyon cryfach arnon ni i rwystro'r lleiafrif bach hwnnw o bobl sy'n methu dro ar ôl tro â chadw at y rheolau."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae dros 1,300 o hysbysiadau cosb benodedig wedi'u rhoi ers cyflwyno'r cyfyngiadau teithio a chyfathrebu ddiwedd Mawrth.
£60 yw'r ddirwy am y drosedd gyntaf ar hyn o bryd, gan godi i £120 am yr ail drosedd a phob trosedd ddilynol.
Dan y strwythur newydd, bydd y dirwyon yn dyblu am bob trosedd - gan godi o £60 i £120, ac yn y pen draw i £1,920 am y chweched drosedd.
Nid yw'n glir eto a fydd y gostyngiad presennol yn parhau yn achos dirwy sy'n cael ei thalu o fewn 14 diwrnod am drosedd gyntaf. Hyd yn hyn, mae'r gosb benodol wedi gostwng o £60 i £30 o gael eu talu'n brydlon.
Ymateb gwrthbleidiau
Mae'r Comisiynwyr Heddlu Plaid Cymru yn rhanbarthau'r Gogledd a Dyfed-Powys yn dweud nad ydy'r newidiadau'n mynd yn ddigon pell.
Mae Arfon Jones a Dafydd Llywelyn yn dweud bod galwadau am ddirwyon ar yr un lefel ag yn Lloegr - ble mae'r ddirwy gychwynnol yn £100 gan gynyddu i uchafswm o £3,200 - "wedi cael eu hanwybyddu".
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Paul Davies wedi croesawu cynyddu'r uchafswm ond mae'n galw am godi'r gosb gychwynnol o £60 ac i ddod â'r disgownt am dalu'r ddirwy fewn 14 diwrnod i ben.
Mae hefyd wedi mynegi "syndod fod y Prif Weinidog wedi dewis gwneud tro pedol o ran polisi unwaith eto trwy'r cyfryngau yn hytrach nag wrth Senedd Cymru".
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020