Tri pheth i godi gwên yn Eisteddfod T
- Cyhoeddwyd
Mae'n wythnos Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun, ond nid fel rydyn ni'n ei adnabod...
Mae 'na gerdd dant, llefaru, unawdau a deuawdau ond hefyd mae 'na anifeiliaid anwes, rhieni yn cymryd rhan, dynwared sêr S4C a Gareth yr Orangutan yn feirniad ar sioe bypedau.
Oherwydd y coronafeirws does dim pafiliwn a maes, a'r eisteddfod rithiol - Eisteddfod T - yn cael ei chynnal ar deledu a radio, gyda phlant a rhieni wedi bod yn brysur yn recordio eu hunain adref ar gyfer y digwyddiad.
Mae'r cystadlaethau traddodiadol yn dal i gael eu cynnal ond mae cystadlaethau newydd wedi eu creu hefyd, gyda lot o bwyslais ar hwyl.
Dyma dri pheth i godi'ch calon wrth ichi wylio a gwrando o'ch cartref:
Anifeiliaid talentog
Anifail Anwes Talentog, rhwng 4-6pm, dydd Llun
Mae'r Urdd yn torri'r rheol "Peidiwch byth â gweithio gyda phlant ac anifeiliaid" yn rhacs yn 2020.
Mae cyfle i weld talentau ein ffrindiau bach blewog yn gwneud deuawd, perfformio triciau neu gwrs rhwystrau neu pwy a ŵyr beth arall, yn y gystadleuaeth Anifail Anwes Talentog.
Pawen lawen iddyn nhw i gyd!
Mam a Dad (a Nain a Taid)
Dawns Ystafell Fyw, dydd Llun rhwng 4-6pm
Sgets deuluol, dydd Mawrth rhwng 4-6pm
Trêl ffilm, dydd Llun, rhwng 4-6pm
Teulu Talent, bob nos rhwng 8-9pm
I'r rhieni sydd wedi bod wrth ochr y llwyfan am yr holl flynyddoedd yn gwylio eu plant yn cystadlu ond yn ysu i ddangos eu talentau cudd eu hunain - dyma eu cyfle!
Bydd cyfle i weld rhieni yn dawnsio gyda'u plant yn y gystadleuaeth Dawns Ystafell Fyw ac yn dangos eu doniau actio yn y Sgets Deuluol neu'r Trêl Ffilm.
Mae 'na gategori ar gyfer Nain a Taid, brodyr a chwiorydd a hyd yn oed cymdogion - a chystadleuaeth Mamma Mia a Da Di Dad De yn gyfle i Mam a Dad serennu ar eu pennau eu hunain - yn y gystadleuaeth Teulu Talent fydd i'w gweld ar y rhaglenni gyda'r nos.
Enwogion
Dynwarediad, dydd Mawrth 4-6pm
Lip-Sync, dydd Mercher, 4-6pm
Deuawd Enwogion Lleol, dydd Iau, 4-6pm
Gobeithio bod sêr teledu a cherddoriaeth Cymru yn barod i weld sut mae plant Cymru yn eu portreadu!
Mae ambell un wedi llwyddo i gael rhywun enwog i ganu deuawd efo nhw hefyd - un yn well na chael llofnod ar y maes!
Mae'r amserlen lawn a'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ac
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Teledu a Radio
Yn ôl yr Urdd mae 4,000 wedi cystadlu yn yr eisteddfod fydd yn cael ei darlledu ar S4C, ar-lein ac ar Radio Cymru.
"Y cynllun gwreiddiol oedd darlledu Eisteddfod T yn fyw ar ein llwyfannau digidol yn ystod y dydd. Ond mae safon, swmp ac amrywiaeth y clipiau wedi ein syfrdanu cymaint, rydym bellach wedi penderfynu ei ddarlledu ar y brif sianel," meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.
Bydd rhaglen fyw o ddydd Llun i ddydd Gwener, 25 - 29 Mai, yng nghwmni Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris gyda'r cystadlu rhwng 13:00 - 15:00 ac 16:00 - 18:00 bob prynhawn.
Bydd y tri ymgeisydd neu berfformiad sydd wedi dod i'r brig yn cael eu dalledu ar y sgrîn a'r enillydd yn ymuno'n fyw ar y rhaglen i glywed y canlyniad.
Mae prif seremoni ddyddiol rhwng 16:00-16:14
Bydd rhaglen uchafbwyntiau dyddiol am 20.00, gan ddod â'r ŵyl i ben gyda rhaglen uchafbwyntiau'r wythnos nos Sadwrn, 30 Mai am 20.00.
Ar Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones ac Ifan Jones Evans yn darlledu'r cystadlaethau hefyd rhwng 14:00 a a 15:00 ac yn sgwrsio efo'r enillwyr, ambell i feirniad, a lleisiau cyfarwydd.
Bydd cystadlaethau corau ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru, bob bore.
Mae'r cyfan yn dechrau gyda rhaglen rhagflas ar S4C nos Sadwrn 23 Mai am 21:00
Hefyd o ddiddordeb: