Coronafeirws: Gohirio Eisteddfod yr Urdd tan 2021
- Cyhoeddwyd
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gohirio tan 2021 o achos y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws.
Fe all y cyhoeddiad olygu "ergyd ariannol o bron i 拢4m" i'r mudiad.
Dywed y mudiad y bydd tri gwersyll yr Urdd yn cau am y tro, ac fe fydd holl eisteddfodau lleol a rhanbarthol yr Urdd yn cael eu canslo hefyd.
Mae pob cystadleuaeth chwaraeon cenedlaethol a phob gweithgaredd gymunedol hefyd wedi eu canslo nes bydd rhybudd pellach.
Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis: "Mae'n siom enbyd i ni i gyd orfod cau ein gwersylloedd a chanslo ein digwyddiadau, ond mae diogelwch a lles ein staff, ein haelodau a'n cefnogwyr yn flaenoriaeth llwyr.
"Ein bwriad nawr yw mynd ati i ddiogelu'r mudiad trwy gynllunio dyfodol cynaliadwy a defnyddio ein hynni, ein hymrwymiad a'n gwerthoedd i helpu Cymru i ymdopi 芒'r argyfwng hwn.
"Bydd y mudiad, a ffurfiwyd bron i ganrif yn 么l ar egwyddorion o ymrwymiad cadarn i Gymru a chyd-ddyn, yn trafod y sefyllfa bresennol gyda gweinidogion y llywodraeth a hefyd yn edrych ar sut y gellid defnyddio'r Urdd a'i staff i ymateb i'r heriau cynyddol sy'n wynebu'r henoed a'r bregus yng Nghymru yn nghysgod y feirws hwn."
Bydd Eisteddfod yr Urdd nawr yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych ym mis Mai 2021 ac mae'r Urdd "yn trafod yn barhaus gyda'i bartneriaid darlledu, S4C a 91热爆 Radio Cymru, o ran yr opsiynau i ddathlu doniau'r aelodau ar blatfform gwahanol yn 2020" medd y mudiad.
Dywedodd yr Urdd fod "canslo digwyddiadau mawr a chau'r gwersylloedd yn naturiol yn cyflwyno heriau ariannol sylweddol i'r Urdd" ac mae amcangyfrif cychwynnol yn awgrymu y "bydd ergyd ariannol o bron i 拢4m yn dilyn cyhoeddiadau heddiw".
"Bydd symud Eisteddfod Dinbych i 2021 yn golygu y bydd Eisteddfod Sir Gaerfyrddin 2021 r诺an yn symud i 2022," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020