Covid-19 'wedi bygwth dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol'
- Cyhoeddwyd
Byddai wedi bod yn "anodd tu hwnt" i'r Eisteddfod Genedlaethol barhau y tu hwnt i'r pandemig coronafeirws heb gymorth gan Lywodraeth Cymru, yn 么l prif weithredwr yr 诺yl.
Dywedodd Betsan Moses na fyddai "newidiadau ysgubol" yn debygol o fod wedi bod yn ddigon i'w hachub yn sgil yr argyfwng presennol.
Fe wnaeth Ms Moses ei sylwadau ar 么l iddi ddod i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi addo dros 拢800,000 i'w rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar 么l iddyn nhw orfod gohirio eu digwyddiadau eleni.
Dywedodd y llywodraeth fod yr arian ar gael ar gyfer y gwaith o gynllunio a pharatoi ar gyfer eu gwyliau yn 2021.
Yn 么l Betsan Moses fe fu bwrdd yr Eisteddfod yn edrych ar gyflwyno newidiadau ysgubol i beth oedd eisteddfod, ac yn edrych ar werthu asedau.
Er hynny, dywedodd wrth raglen Newyddion S4C ei bod hi'n "amau a fyddai hynny wedi bod yn ddigon".
"Ro'n ni'n edrych ar oblygiadau ariannol anferthol. Chi'n s么n am filiynau o ran cytundebau. Ry'n ni wedi gorfod negydu a thrafod."
Teyrnged i weithwyr
Talodd deyrnged i gontractwyr sy'n gweithio gyda'r Eisteddfod o flwyddyn i flwyddyn gan ddweud fod eu gwaith nhw wedi diflannu dros nos.
Roedd gohirio yn hytrach na chanslo'r digwyddiad yn help o ran y trafodaethau hynny, meddai.
Ychwanegodd fod arian y llywodraeth yn galluogi'r corff i barhau i fasnachu am flwyddyn gan nad oedd modd hawlio yswiriant ar gyfer coronafeirws.
Mae'r Brifwyl wedi cael dwy flynedd anodd ar 么l gwneud colledion mawr yng Nghaerdydd yn 2018 ac yn Llanrwst y llynedd.
Roedd hynny, meddai Betsan Moses, wedi golygu eu bod nhw wedi troi at eu cronfeydd wrth gefn.
Diolchodd hefyd i'r Eisteddfodwyr oedd wedi archebu safle ar faes carafanau'r brifwyl eleni. Dim ond 12 sydd wedi gofyn am eu harian yn 么l.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Yn y cyfamser mae trefnwyr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen hefyd wedi cadarnhau y byddan nhw'n cael arian ychwanegol gan y llywodraeth. Maen nhw eisoes wedi rhoi rhai o'u staff ar gyfnod o seibiant.
"Heb y cymorth fe fyddai wedi bod yn anodd iawn i ni gario 'mlaen hefo'r Eisteddfod," meddai'r cadeirydd Dr Rhys Davies.
"Do'n i ddim eisiau gorffen yr Eisteddfod ar 么l 70 mlynedd."
Mae'n rhagweld cyfnod o gydweithio rhwng prif wyliau Cymru.
"Mae'n rhaid gweithio gyda'n gilydd i rannu arbenigedd ac adnoddau," meddai. "Mae gwyliau fel hyn yn ddrud."
Dywedodd ei bod hi'n bosibl y byddai 'na rannu staff yn digwydd rhwng y gwyliau yn y dyfodol, ac y byddai Llangollen yn edrych i benodi prif weithredwr dros yr haf.
Mae Betsan Moses yn cytuno y bydd yna fwy o gydweithio a rhannu adnoddau yn y dyfodol.
"Mae hyn wedi gorfodi pob busnes, pob g诺yl i edrych ar fel maen nhw'n cynllunio ac i ystyried beth allan nhw ei wneud yn ddigidol," meddai.
Tra'n ddiolchgar am y gefnogaeth ac yn edrych ymlaen at Dregaron y flwyddyn nesaf, mae hi hefyd yn poeni am effaith hir dymor coronafeirws.
"Mae 'na gwestiwn beth fydd yn digwydd i'n noddwyr. Faint ohonyn nhw fydd yn goroesi?
"Mae incwm artistiaid wedi diflannu dros nos. Mae 'na gyfrifoldeb arnom ni i gyd i gynorthwyo ein gilydd."
'Llwyfannau gwych'
Wrth gyhoeddi'r cymorth ariannol dywedodd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, fod y ddwy 诺yl yn "ganolog yng nghalendr Cymru" ac yn "darparu llwyfannau gwych i hysbysebu ein celf a'n diwylliant".
"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r trefnwyr i'w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn ac i'w cynorthwyo i adeiladu dyfodol cynaliadwy," meddai.
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ei ffurf bresennol wedi bod yn cynnal yr 诺yl am dros ganrif.
"Mewn amseroedd anodd fel hyn mae'n bwysig i gydnabod a darparu treftadaeth ddiwylliannol gref i genedlaethau'r dyfodol, ynghyd 芒 magu a darparu llwyfan i artistiaid Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol, ac i gefnogi gwaith celf a llenyddiaeth newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020