Eisteddfod Caerdydd wedi gwneud colled o £290,000
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod Prifwyl Caerdydd eleni wedi gwneud colled ariannol o bron i £300,000.
Dywedodd y sefydliad eu bod wedi gwneud "diffyg ariannol gweithredol o £290,139" ac mai'r Eisteddfod fydd yn ysgwyddo'r golled yma.
Dyma oedd y tro cyntaf i'r Eisteddfod gynnal gŵyl heb faes, ac mae'r trefnwyr yn dweud mai costau diogelwch sydd wedi arwain at y diffyg.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod bod Prifwyl Bae Caerdydd yn "fuddsoddiad sydd wedi, ac sy'n parhau i newid agweddau pobl y brifddinas a thu hwnt tuag at yr iaith".
'Hanner miliwn o ymwelwyr'
Dywedodd yr Eisteddfod mewn datganiad bod "diogelwch ymwelwyr yn hollbwysig" a gan nad oedd maes traddodiadol "bu'n rhaid buddsoddi'n helaeth mewn swyddogion ac elfennau diogelwch eraill".
Ychwanegodd yr Eisteddfod bod Prifwyl Caerdydd wedi denu "mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen".
Mae'r sefydliad yn honni bod amcangyfrifon yn awgrymu bod tua hanner miliwn o ymwelwyr wedi mynychu'r Brifwyl eleni, ble mai tua 150,000 sy'n ymweld fel arfer.
Daeth y cyhoeddiad am y ffigyrau yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
'Buddsoddiad strategol'
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Drwy gynnig mynediad i ran helaeth o'r maes yn rhad ac am ddim, roedd eleni'n fuddsoddiad strategol yn yr iaith gennym ni, ac fe ddaeth yr ymwelwyr cyfarwydd a newydd i gefnogi.
"Am gost o lai na £1 ychwanegol i'r Eisteddfod am bob ymwelydd newydd, llwyddwyd i ddenu cannoedd o filoedd o bobl i brofi gŵyl sy'n ddathliad eclectig a chyfoes o'n hiaith a'n diwylliant."
Ychwanegodd Ms Moses bod "cynnal Eisteddfod arbrofol yn heriol ac yn risg".
"Mae hwn yn fuddsoddiad sydd wedi, ac sy'n parhau i newid agweddau pobl y brifddinas a thu hwnt tuag at yr iaith," meddai.
'Amhosib efelychu'
Mae hi'n amhosib efelychu Eisteddfod Caerdydd mewn ardaloedd eraill ar hyn o bryd yn ôl aelodau o Gyngor yr Eisteddfod.
Ychwanegodd aelodau fod dim amheuaeth iddi fod yn Eisteddfod lwyddiannus, ond bod rhaid edrych eto ar fodel ariannol y brifwyl os am gael maes agored eto.
Yn amddiffyn y golled, dywedodd Eifion Lloyd Jones bod "cannoedd ar filoedd o wahaniaeth rhwng y gwariant a'r incwm. Yn y diwedd mae £290,139 yn swm isel iawn."
"Mae'r posibiliadau o ran Eisteddfodau tebyg i Gaerdydd yn y dyfodol yn gwbl ddibynnol ar gael gwell nawdd gan y Llywodraeth," meddai.
Dywedodd Trystan Lewis, cadeirydd Eisteddfod Sir Conwy, "nad oes pwrpas codi gobeithion Caernarfon ar gyfer maes agored yn 2021."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2018
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd7 Awst 2018