91热爆

Galw am gynnal y Brifwyl yng Nghaerdydd 'pob pum mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
Y maes

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi galw am gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ddinas yn fwy rheolaidd ar 么l wythnos "hynod" ym Mae Caerdydd.

Dyma oedd y tro cyntaf i'r Brifwyl gael ei chynnal yn y Bae, a'r eildro o fewn 10 mlynedd iddi gael ei chynnal yn y brifddinas.

Nawr mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas yn dweud ei fod yn "awyddus" i sicrhau bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld 芒 Chaerdydd "yn fwy rheolaidd".

"Bu hon yn Eisteddfod hynod yng Nghaerdydd, hoffwn i ddweud ar gofnod fy mod yn llawn diolch ac edmygedd at d卯m yr Eisteddfod, gyda chymorth swyddogion y Cyngor a helpodd i gynnal y digwyddiad," meddai Mr Thomas.

"Yr hyn sy'n sicr yn wir ydy bod Eisteddfod eleni wedi croesawu cynulleidfa newydd ac atynnu torf amrywiol iawn.

"Rwy'n credu ei bod yn addas nawr i ni gymryd y cyfle i drafod y posibilrwydd o ddod 芒'r Eisteddfod i Gaerdydd yn fwy rheolaidd, bob rhyw bum mlynedd er enghraifft.

"Mae eleni wedi rhoi man cychwyn i ni ddatblygu ohono, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny, gan weithio 芒'n partneriaid yn yr Eisteddfod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Huw Thomas roedd y Brifwyl eleni yn "诺yl agored, gynhwysol a chroesawgar i bawb, yn debyg i Gaerdydd ei hun"

Eleni doedd dim t芒l mynediad i'r maes ac roedd y digwyddiadau a'r cystadlu yn cael eu gynnal mewn amryw o leoliadau amlwg yn y Bae, gan gynnwys Canolfan y Mileniwm, adeilad y Senedd a'r Pierhead, yn ogystal 芒'r Eglwys Norwyeg.

Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis wrth Cymru Fyw: "Mae pethau wedi mynd yn dda, tywydd braf, ac mae pobl yn canmol ar y cyfan."

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Ashok Ahir: "Mae'r gwaith mae Elfed a swyddogion yr Eisteddfod wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf wedi trawsnewid yr Eisteddfod."

Y flwyddyn nesaf bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Llanrwst, a bydd y Brifwyl yn mynd i Dregaron yng Ngheredigion yn 2020.