91热爆

Plaid Cymru am weld Senedd cwbl ddigidol yn San Steffan

  • Cyhoeddwyd
T欧'r CyffredinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd i San Steffan ddydd Mawrth wedi toriad estynedig dros y Pasg

Dylai pob dadl yn Nh欧'r Cyffredin gael ei gynnal ar-lein dan yr amgylchiadau presennol, yn 么l Plaid Cymru.

Er bod cyfyngiadau symud yn parhau yn y Deyrnas Unedig, fe fydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd i'w gwaith ddydd Mawrth.

Bydd rhai ASau yn dychwelyd i San Steffan er mwyn cymryd rhan yn nadleuon y t欧, ond bydd hyd at 120 yn cael y cyfle i ymuno ar-lein o'u cartrefi.

Yn 么l awdurdodau T欧'r Cyffredin, hwn yw'r "cam cyraeddadwy cyntaf tuag at greu Senedd rithiol."

Teithio o bell?

Ond mae AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards wedi dweud fod y sefyllfa yn golygu bod rhai ASau yn dal i orfod wynebu'r posibilrwydd o deithio o bell i Lundain.

Bydd y cynnig ar gyfer y Senedd rithiol yn cael ei roi gerbron Aelodau Seneddol yn y t欧 wrth iddyn nhw ddychwelyd o'u hegwyl estynedig dros y Pasg brynhawn Mawrth.

Y Cynulliad ym Mae Caerdydd oedd y Senedd gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymgynnull yn rhithiol, ym mis Mawrth, trwy gyswllt fideo Zoom.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jonathan Edwards yn teimlo y bydd y trefniant yn gorfodi nifer o Aelodau Seneddol i deithio

Mae Comisiwn T欧'r Cyffredin wedi cytuno i ganiat谩u hyd at 120 o ASau i gymryd rhan mewn dadleuon ar-lein, a chaniat谩u hyd at 50 o aelodau i fynychu'r siambr tra'n parchu'r rheolau ymbellhau cymdeithasol - er bod y comisiwn yn dweud eu bod yn annog pawb i geisio gweithio ar-lein.

Yn 么l AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mae ailddechrau'r trafod yn San Steffan yn "gam pwysig er mwyn sicrhau bod pryderon ein hetholwyr yn cael eu clywed a bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael eu galw i gyfrif."

Ond mae'n dweud ei fod yn siomedig y bydd yn rhaid i Aelodau Seneddol fynychu rhai dadleuon yn gorfforol.

"Nid yn unig mae'n ddiangen, ond gallai fod yn cau rhai pobl allan, gan y bydd ASau sydd ddim yn byw o gwmpas Llundain yn gorfod teithio er mwyn cyfrannu at rai dadleuon."

Yn 么l y comisiwn mae'r "model hybrid wedi ei ddatblygu ar frys ac wedi ei ddewis fel cam cyntaf cyraeddadwy tuag at Senedd rithiol - gyda'r fantais o gyfateb 芒'n capasiti technegol presennol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Cynulliad oedd y senedd gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnal sesiynau ar-lein

Yn 么l yr AS dros Drefaldwyn, Craig Williams, mae'n "arbennig o bwysig bod y Senedd yn ailymgynnull" a bod ASau yn gallu dwyn y llywodraeth i gyfrif, beth bynnag eu plaid.

Mae'r cam wedi cael ei groesawu gan AS Llafur Dwyrain Casnewydd hefyd, Jessica Morden.

"Fe fydda i yn aros yn fy etholaeth er mwyn gweithio ac yn parhau i ddysgu fy mhlant o adref," meddai.

"Mae mesurau yn eu lle fel nad oes yn rhaid i chi fod yno, a dyna'n union y peth cywir i'w wneud."

Cwestiynau Cymru, ddydd Mercher, fydd y sesiwn rithiol gyntaf dan y drefn newydd, gydag Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart yn derbyn cwestiynau trwy gyswllt fideo gan ASau, er bod union drefn y sesiwn eto i'w gadarnhau.

Mae disgwyl i Lefarydd y T欧, Lindsay Hoyle, fynychu T欧'r Cyffredin ar gyfer y sesiwn ynghyd 芒 rhai Aelodau Seneddol fydd yn gallu cyfathrebu 芒'u cyd-aelodau trwy nifer o sgriniau fydd wedi eu gosod o gwmpas y siambr.