Seneddau'r byd am ddysgu o gyfarfodydd y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae seneddau Canada, Awstralia, Seland Newydd, Iwerddon, San Steffan a Senedd yr Alban wedi bod mewn cysylltiad 芒 Chynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn deall mwy am y broses o gynnal cyfarfodydd rhithwir.
Dyma esboniodd Llywydd y Cynulliad Elin Jones wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru heddiw.
"Mae 'na ddiddordeb i weld sut i ni wedi mynd ati i gynnal senedd o'r math yma ac felly mae'n bosib y gwelwn ni rhai o'r seneddau yn dilyn y parwn neu'n dysgu oddi wrthym ni yma yng Nghymru," esboniodd wrth Vaughan Roderick.
"Yr hyn i ni wedi llwyddo i 'neud hefyd, ac mi oedd hyn yn fwy dyrys yn dechnolegol, yw cynnal a darlledu ein cyfarfodydd mewn dwy iaith."
Dilyn yr esiampl
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar San Steffan i ddilyn esiampl y Cynulliad - ac atal unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol agos.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds: "Mae'n glir bod angen i bawb addasu mewn ymateb i Covid-19.
"Eisoes mae miliynau o bobl ar draws y DU yn gweithio o'u cartrefi ac mae dulliau gweithio yn newid o ganlyniad i hyn.
"Mae angen i'r egwyddor yma gael ei weithredu gan ein gwleidyddion i gyd.
"Dylai Aelodau Seneddol gytuno ar gynllun sydd yn addas ar gyfer Senedd San Steffan pan fydd ASau yn dychwelyd ar 21 Ebrill."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Mae ail sesiwn rhithwir y Cynulliad yn cael ei ddarlledu brynhawn dydd Mercher.
Mae pob un gr诺p gwleidyddol wedi enwebu aelod i'w cynrychioli yn y drafodaeth ac wrth bleidleisio.
Dwyieithog
Y tro yma mae mwy o Aelodau Cynulliad yn cymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn yn dilyn yr arbrawf wythnos ddiwethaf.
28 aelod sydd yn gallu cymryd rhan - 12 o'r Llywodraeth/Y Blaid Lafur, chwe aelod Ceidwadol, pedwar o Blaid Cymru, a phedwar o Blaid Brexit.
Mae gan aelodau nad ydynt yn perthyn i gr诺p hawl i fod yn bresennol hefyd a bydd y cyfarfod yn gwbl ddwyieithog.
Wrth esbonio penderfyniad y Cynulliad i barhau i gynnal cyfarfodydd yn ystod argyfwng y coronafeirws dywedodd Elin Jones: "Mae'n bwysig bod democratiaeth ac atebolrwydd llywodraeth yn parhau drwy'r cyfnod yma."
Fel un sydd wedi cael prawf positif am y feirws, ymbiliodd Ms Jones ar i bobl hunan ynysu os fyddan nhw'n cael unrhyw symptomau.
"Mae'n dangos pa mor bwysig yw e os y'ch chi'n cael unrhyw fath o beswch, hyd yn oed ysgafn, eich bod chi'n hunan ynysu'n syth.
"Er ein bod ni'n gweld pobl s芒l iawn, iawn gyda'r clefyd yma, gyda rhai pobl eraill, fel profais i, mae'n gallu bod yn ysgafn iawn."
Caiff y cyfarfod rhithwir nesaf ei gynnal ddydd Mercher 22 Ebrill pan fydd yr aelodau yn ail ymgynnull wedi gwyliau'r Pasg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020