Miloedd yn cofnodi symptomau dyddiol Covid-19 ar ap
- Cyhoeddwyd
Mae ap sydd yn cadw cofnod o symptomau Covid-19 wedi cael ei lawrlwytho 38,000 o weithiau yng Nghymru hyd yn hyn, yn 么l Llywodraeth Cymru.
Bwriad gwneuthurwyr yr ap, , yw ceisio rhagweld sut mae'r haint yn datblygu mewn gwahanol ardaloedd, sut mae'n effeithio ar wahanol bobl a ble fydd y pwysau mwyaf ar y gwasanaeth iechyd.
Mae'r ap ar gyfer pawb, nid dim ond pobl sydd 芒 symptomau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ar 91热爆 Radio Wales Breakfast y byddai'r wybodaeth yn helpu'r llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd i weld patrymau a phrofi pobl mewn ardaloedd sydd wedi'u taro'n waeth.
Arwydd cynnar o'r galw tebygol
Cafodd yr ap ei ddatblygu gan ymchwilwyr yng Ngholeg King's yn Llundain a chwmni gwyddoniaeth gofal iechyd, ZOE fel bod pobl yn gallu cadw cofnod o'u hiechyd dyddiol.
Bydd y wybodaeth sy'n cael ei rhannu'n ddyddiol gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, yn rhoi arwydd cynnar o'r galw tebygol ar ysbytai yn y dyfodol.
Bydd Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) Prifysgol Abertawe yn cydweithio gyda gwyddonwyr Coleg King's a Llywodraeth Cymru i ddadansoddi'r data.
YN FYW: YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint ddydd Sadwrn 11 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn annog pawb i lawrlwytho'r ap "os oes gennych chi unrhyw symptomau neu os ydych chi'n teimlo'n iach".
Byddai hynny, meddai, yn helpu casglu gwybodaeth hanfodol fel bod gwasanaethau'r GIG yn barod ar gyfer nifer uwch o gleifion mewn mannau penodol a "helpu i warchod ein gweithwyr ac achub bywydau".
Dywedodd yr Athro Ymchwil Arweiniol o Goleg King's, Tim Spector: "Mae data amser real manwl gywir yn hanfodol os ydyn ni am drechu'r afiechyd yma.
"Heb brofi manwl gywir ac eang mae'n hanfodol bod gennym ni gymaint o ddata 芒 phosib i'n helpu ni i ragweld ble rydyn ni'n mynd, i weld y cynnydd nesaf o ran galw, fel bod modd defnyddio adnoddau'n effeithiol yn barod i ddiwallu anghenion y cleifion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2020