91热爆

Drakeford: Cyfyngiadau Covid-19 am 'beth amser eto'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud nad yw'n gwestiwn os fydd y cyfyngiadau presennol yn sgil y coronafeirws yn parhau, ond yn hytrach "sut y byddant yn parhau".

Yn ei gynhadledd ddyddiol i'r wasg awgrymodd Mr Drakeford y gallai'r mesurau gael eu hymestyn ymhellach.

Ond dywedodd fod y mesurau presennol i atal ymlediad Covid-19 yn gwneud gwahaniaeth ac yn achub bywydau, gan gadarnhau unwaith eto y bydd rhyw fath o gyfyngu ar deithio yn parhau "am beth amser eto".

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'n fodlon ystyried rhoi mwy o bwerau i heddluoedd rwystro pobl rhag teithio i ail gartrefi yng Nghymru, petai lluoedd yn gofyn.

Yn ystod y dydd cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 29 yn fwy o bobl gyda coronafeirws wedi marw. Bellach mae cyfanswm y meirw yma yn 315.

Yn ogystal, cofnodwyd 502 o achosion newydd o'r feirws yng Nghymru gan ddod 芒'r cyfanswm i 4,591.

Fe fydd llywodraethau'r DU, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn adolygu'r cyfyngiadau'r wythnos nesaf.

Er y gallai hynny arwain at dynhau'r cyfyngiadau, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn gobeithio nad dyna fyddai'n digwydd.

Pwysleisiodd hefyd y byddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud ar 么l ystyried tystiolaeth feddygol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr heddlu yn atal ceir ar yr A40 fel rhan o'r cyfyngiadau

"Dwi ddim am roi'r syniad na'r gobaith y bydd y cyfyngiadau yn dod i ben yn fuan iawn.

"Wrth sgwrs rwy'n gwybod fod pobl am weld goleuni ymhen y twnnel, ond rwyf hefyd am i bobl ddeall y byddwn yn byw gyda rhyw faint o gyfyngiadau am wythnosau eto."

Cafodd Mr Drakeford ei feirniadu gan rai am gyhoeddi'r estyniad cyn gweinidogion San Steffan, ond dywedodd dydd Gwener mai dyna oedd y "peth iawn i'w wneud".

"Fe fyddaf yn gwneud cyhoeddiadau am bethau sy'n iawn i Gymru pan mae'n briodol i wneud hynny.

"Fyddai ddim yn edrych dros fy ysgwydd ar beth mae pobl eraill yn ei wneud."

Pwerau'r heddlu

Cafodd ei holi yngl欧n 芒 chryfhau pwerau'r heddlu er mwyn rhwystro pobl rhag teithio i dai haf yng Nghymru.

Dywedodd pe bai'r heddlu yn dod ato a gofyn am fwy o bwerau, yna byddai'n ystyried hynny.

Y nod, meddai, oedd cael pobl i gydweithredu, gan ddweud y byddai hynny'n well na gorfod eu cosbi.

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y dylai'r rhai sy'n anwybyddu'r cyfyngiadau wynebu dirwyon o 拢1,000.

Dywedodd Adam Price nad oedd y neges mai "argyfwng cenedlaethol nid gwyliau cenedlaethol yw hyn" yn cael ei gydnabod gan bawb.