Coronafeirws: Galw ar berchnogion tai haf i gadw draw
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau ar berchnogion tai haf i gadw draw o'r gogledd yn dilyn pwysau cynyddol ar wasanaethau iechyd yr ardal gan bobl sydd yn hunan ynysu.
Yn 么l un meddyg teulu, mae gwasanaethau iechyd cefn gwlad dan bwysau o achos perchnogion ail gartrefi sydd yn dewis hunan ynysu yn yr ardal.
Mae Dr Eilir Hughes yn feddyg teulu ac yn arwain Clwstwr Gofal Sylfaenol Dwyfor. Mae'n dweud fod 'na alwadau cyson i feddygfeydd yn Ll欧n ac Eifionydd gan bobl yn eu hail gartrefi yn chwilio am ofal meddygol.
Dywedodd: "Mae gwasanaethau'n disgwyl cynnydd tymhorol yn ystod gwyliau ysgol ac rydym yn ceisio ein gorau glas i baratoi ein gwasanaethau ar gyfer y cynnydd mewn galw, ond rydym ar hyn o bryd yn gweld twf aruthrol mewn galw am gyngor meddygol ac asesiadau.
"Rydym wedi gweld nifer o gleifion yn dod i ddefnyddio eu hail gartrefi er mwyn hunan ynysu a defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol pan nad ydyn nhw wedi eu cofrestru."
Mae Dr Hughes yn pryderu nad oes gan y Gwasanaeth Iechyd yn yr ardal yr adnoddau i ymdopi gyda chynnydd yn y boblogaeth.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau cyngor i'r cyhoedd a chynghori pobl i beidio 芒 theithio gan ddychwelyd i'w cartrefi gwreiddiol.
Dywedodd: "Nid oes ganddom ni'r adnoddau pwrpasol i ymdopi gyda'r galw ychwanegol mewn cyfnod o amgylchiadau digyffelyb.
"Yn ystod cyfnodau gwyliau prysur fel gwyliau'r Pasg mae poblogaeth Dwyfor bron 芒 threblu, gan osod straen enfawr ar ein hadnoddau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned.
'Llwyth feiral'
"Mae hefyd yn bryder fod pobl yn teithio o du allan i'r ardal, gan gynyddu'r llwyth feiral yn y gymuned."
Ychwanegodd: "Mae gennym dystiolaeth fod nifer sylweddol o bobl sydd yn berchen ar gartrefi gwyliau a charafanau statig wedi penderfynu teithio i lawr dan yr argraff y byddan nhw'n fwy diogel yma.
"Rhaid i ni hefyd gofio am oedran y rhai sydd yn teithio i'r ardal. Maen nhw'n aml wedi ymddeol, sy'n golygu eu bod yn debygol o fod mewn mwy o risg o achos COVID-19."
"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau'r cyngor yma i'r cyhoedd. Dylid trin ardaloedd gwyliau yng Nghymru gyda'r un parch a'r rhai dramor, ac fe ddylid cynghori pobl i ddychwelyd adref ar frys gan ganslo teithiau i'n hardaloedd."
Yn y cyfamser mae cynghorydd o Wynedd wedi galw am gau meysydd carafanau a safleoedd gwersylla'r sir yn wirfoddol yn wyneb y bygythiad oddi wrth coronafeirws.
Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd o Dremadog na fydda'r gwasanaeth iechyd lleol yn gallu ymdopi gyda mewnlifiad o ddioddefwyr posib o'r ffliw.
"Mae meysydd carafanau a safleoedd gwersylla'r sir, sydd yn agored o fis Mawrth tan fis Hydref yn treblu'r boblogaeth mwy neu lai," meddai.
"Byddai cau'r meysydd carafanau a'r safleoedd gwersylla'n torri ar gannoedd o deithiau dianghenraid i'r ardal yn syth ac o ganlyniad yn atal y Feirws Corona rhag rhag ledaenu'n ddi-angen."
Ychwanegodd: "Mae iechyd cyhoeddus flaenaf yn ein meddyliau ar adeg mor anodd," ychwanegodd.
"Mae'n rhaid i bob un ohonom aberthu rhywbeth, ariannol neu beidio, er lles pawb."
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020