91热爆

Coronafeirws: 'Yr her fel paratoi at ryfel'

  • Cyhoeddwyd
Ken SkatesFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe bwysleisiodd Ken Skates bod cymorth ar gael i fusnesau Cymru

Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi datgan bod Cymru yn "paratoi ar gyfer rhyfel" yn erbyn effeithiau economaidd coronafeirws.

Dywedodd Mr Skates: "Gan fod graddfa'r her mor fawr ac mor daer, mae angen ymyrraeth ariannol enfawr gan Lywodraeth y DU er mwyn helpu busnesau yng Nghymru i ddelio a'r baich sydd i ddod."

Mae Canghellor llywodraeth y DU, Rishi Sunak, wedi cyhoedd mesurau gwerth 拢330bn er mwyn cynorthwyo busnesau, gan gynnwys grantiau o 拢10,000 i fusnesau bach, a grantiau hyd at 拢25,000 i siopau a busnesau eraill os nad oes yswiriant ganddyn nhw ar gyfer cau eu busnesau.

Fe gyhoeddodd hefyd y byddai pobl yn medru oedi eu taliadau morgais am dri mis.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi ei gynlluniau i gefnogi busnesau

Yn gynharach roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi annog y Canghellor i ymyrryd mewn "ffordd ddigynsail" i achub busnesau sydd yn wynebu'r posibilrwydd o fynd yn fethdalwyr, ac er mwyn helpu unigolion, gan gynnwys yr hunangyflogedig - trwy newidiadau sylfaenol i fudd-daliadau.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu cynlluniau i helpu busnes gan gynnwys:

  • Llinell Gymorth Busnes Cymru (03000 603000) sydd yn rhoi cymorth ymarferol i fusnesau ar bethau fel staffio a chynllunio ariannol;

  • Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig benthyciadau ar unwaith i fusnesau bach;

  • Cymorth treth busnes o 100% i fusnesau bach (sy 芒 gwerth trethadwy llai na 拢51,000).

Dywedodd Mr Skates: "Defnyddiwch yr help a'r cyngor sydd ar gael."