Achub menyw oedd yn cydio mewn cangen o afon yn Aberhonddu
- Cyhoeddwyd
Mae menyw yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar 么l cael ei hachub o afon yn Aberhonddu yn yr oriau m芒n.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal promen芒d y dref am 03:00 fore Iau.
Roedd y fenyw ei hun wedi llwyddo i gydio mewn cangen coeden.
Mae Aberhonddu yn ardal rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am law trwm, sydd mewn grym tan 14:00 ddydd Iau.
Roedd tua 20 o swyddogion Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn rhan o'r ymateb, gan gynnwys criwiau o'r Gelli Gandryll, Aberhonddu a Thalgarth.
Cafodd griw o Lyn Ebwy hefyd eu danfon i'r safle ond roedd y fenyw wedi ei thynnu o'r afon cyn iddyn nhw gyrraedd.
Cadarnhaodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod y fenyw wedi cael ei chludo i'r ysbyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2020