Cymru i ailgylchu '100% o wastraff erbyn 2050'
- Cyhoeddwyd
Mae strategaeth newydd i sicrhau nad yw Cymru'n anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi neu losgyddion erbyn 2050 wedi'i hamlinellu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r wlad eisoes yn drydydd mewn tablau cynghrair byd-eang ar gyfer ailgylchu gwastraff cartref.
Mae mesur Mwy nag Ailgylchu yn annog defnyddio cynhyrchion wedi'u hailgylchu ac atal cludo gwastraff dramor.
Dywedodd y prif weinidog, Mark Drakeford fod ailgylchu bellach wedi ei "wreiddio yn niwylliant Cymru'r 21ain ganrif".
"Dros yr 20 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi dod at ein gilydd i sicrhau mai ailgylchu yw'r drefn arferol," meddai.
"Dros y ddegawd nesaf mae angen i ni fynd ymhellach i wireddu economi gylchol."
Mae cronfa 拢6.5m wedi ei gyhoeddi hefyd er mwyn helpu awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i gymryd camau i symud Cymru at economi gylchol tra bo'r ymgynghoriad ar raglen Mwy nag Ailgylchu yn mynd rhagddi.
Beth mae'r llywodraeth eisiau ei wneud?
Ailgylchu
O 5.2% ym 1998-99 i 60.7% yn 2018-19, cartrefi Cymru sydd bellach 芒'r drydedd gyfradd ailgylchu uchaf yn y byd, sydd hefyd ymhell ar y blaen i weddill y DU.
Yr uchelgais yw cyrraedd 100% erbyn 2050 - sy'n golygu na fydd unrhyw wastraff o gwbl yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi neu losgyddion.
Er mwyn cyflawni hyn mae'r llywodraeth yn dweud y bydd yn agor mwy o safleoedd fydd yn gallu trin deunyddiau sy'n anodd eu hailgylchu, gan gynnwys cewynnau a matresi.
Bydd y cynlluniau yma'n cael eu hariannu drwy gyflwyno rheolau sy'n cael eu galw'n Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, sy'n rhoi'r cyfrifoldeb ar gynhyrchwyr i gael gwared ar eu cynhyrchion a'u deunyddiau lapio.
Bydd hefyd yn cyhoeddi rheoliadau i sicrhau bod busnesau a siopau yn gwahanu deunyddiau ailgylchu i'w casglu, fel mae cartrefi eisoes yn ei wneud.
Mae gosod targedau ar gyfer cynghorau lleol bob ychydig flynyddoedd hyd at 2025 - a bygwth eu dirwyo os nad ydyn nhw'n eu cwrdd - yn rhan allweddol o lwyddiant Cymru wrth gynyddu ailgylchu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Y bwriad ydy parhau 芒'r dull yma.
Lleihau gwastraff
Mae symud i economi gylchol ehangach - lle mae adnoddau'n cael eu defnyddio yn lle cael eu gwaredu - yn golygu torri 'n么l yn radical ar faint sy'n cael ei daflu.
Mae'r llywodraeth am annog y defnydd o apiau i gasglu bwyd sydd dros ben neu gyfnewid a gwerthu dillad ac agor siopau atgyweirio nwyddau.
Mae targed i haneru gwastraff bwyd erbyn 2025, ynghyd 芒 gwaharddiad ar gwpanau tafladwy mewn stadia chwaraeon.
Bydd y sector cyhoeddus yn cael ei orfodi i flaenoriaethu deunyddiau wedi'u hailddefnyddio a'u hail-weithgynhyrchu, a bydd gofyn iddyn nhw gyfiawnhau unrhyw wariant ar ddeunyddiau sydd ddim wedi eu hailgylchu.
Bydd gofyn iddyn nhw hefyd i roi offer defnyddiol neu werthfawr sydd dros ben i eraill, gan gynnwys gwledydd llai datblygedig.
Yn ogystal bydd pwysau ar gwmn茂au sy'n cael cefnogaeth y llywodraeth i adeiladu tai - gan gynnwys adnewyddu tai cymdeithasol - i ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy a charbon isel yn unig.
Plastig
Uchelgais y llywodraeth yw gweld Cymru'n sicrhau ei lle fel y wlad gyntaf i beidio ag anfon plastig i safleoedd tirlenwi.
Mae'n cynnig cael gwared ar blastig un defnydd yn raddol, gyda gwaharddiadau a chyfyngiadau ar sawl peth.
Bydd plastig o ffynonellau adnewyddadwy sy'n gallu pydru yn cael ei ddefnyddio yn eu lle - er enghraifft mewn sefyllfaoedd meddygol.
Bydd cynnydd yn nifer y deunyddiau plastig sy'n cael eu hailgylchu a mwy o safleoedd yn cael eu hagor yng Nghymru er mwyn聽eu hailbrosesu.
Mae addewid i gyflwyno strategaeth arall i atal sbwriel plastig rhag llygru'r amgylchedd.
Llosgi gwastraff
Mae cynnig i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd deunyddiau mae modd eu hailgylchu rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi neu losgyddion.
Yn 么l gweinidogion ym Mae Caerdydd fe fyddan nhw'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried cyflwyno treth ar losgyddion.
Mae dadlau brwd am y broses o losgi gwastraff ar hyn o bryd, gyda sawl ymgyrch yn erbyn safleoedd posib ledled Cymru.
Yn gynharach eleni dywedodd cadeiryddion pwyllgorau amgylchedd ac iechyd y Cynulliad wrth 91热爆 Cymru eu bod yn credu y dylai'r llywodraeth eu gwahardd yn sgil pryderon am lygredd aer ac allyriadau carbon.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar agor tan fis Ebrill, gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Cymru i glywed barn y cyhoedd.
Bydd y strategaeth derfynol yn cael ei chyhoeddi yn 2020.
Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol - sy'n gyfrifol am ailgylchu - fod y llywodraeth eisiau clywed am "unrhyw syniadau neu agweddau newydd" gan y cyhoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd24 Awst 2017