'Defnyddio llai o geir a stofiau pren' i wella llygredd aer
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun awyr gl芒n i Gymru wedi'i gyhoeddi gydag ymrwymiad i wneud mwy i daclo llygredd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif fod llygredd aer yn cyfrannu at hyd at 1,400 o farwolaethau'r flwyddyn.
Yn ogystal 芒 mynd i'r afael 芒 materion ceir a diwydiant, mae'r cynllun yn archwilio'r duedd ar gyfer stofiau llosgi coed mewn cartrefi ac effeithiau t芒n gwyllt a choelcerthi.
"Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da ond mae'n rhaid i ni barhau i wella," meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths.
Mae Llywodraeth Cymru am basio Deddf Aer Gl芒n yn nhymor y Cynulliad hwn - hyd at 2021.
Ond mae'n fater cymhleth oherwydd newidiadau yn y tywydd a'r amodau atmosfferig, tra gall crynodiadau llygredd fod yn uwch i bobl sy'n byw ger ffyrdd prysur a safleoedd diwydiannol.
Buddion ariannol
Dywed yr adroddiad fod llygredd aer yn "parhau i fod yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf" yng Nghymru.
Ond mae'n amcangyfrif, os bydd Cymru'n llwyddo i leihau effaith llygredd aer o ddeunydd gronynnol m芒n erbyn 2030, gallai fod 芒 buddion iechyd gwerth rhwng 拢50m a 拢96m y flwyddyn.
Mae gweinidogion nawr eisiau i banel o arbenigwyr gynghori ar y dull cywir ac i dargedau fod yn rhan o'r ddeddf aer gl芒n newydd.
Mae ymgynghoriad 12 wythnos wedi'i lansio ar y cynllun.
"Dylai pawb yng Nghymru allu anadlu awyr iach, cyrchu adnoddau naturiol iach a gwarchodedig a mwynhau twf economaidd cynaliadwy a gl芒n," meddai Ms Griffiths.
Dywedodd Joseph Carter, cadeirydd Awyr Iach Cymru, gr诺p o elusennau, ei fod yn gyfle i lywodraeth a chynghorau Cymru "weithio'n agosach gyda'i gilydd i gyflawni'r aer glanaf posib".
Sut mae'r adroddiad am i ni leihau llygredd aer?
Stofiau llosgi coed
Mae'r adroddiad yn awgrymu peidio llosgi coed gwlyb a sicrhau bod stofiau a pheiriannau yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol.
Mae'r adroddiad yn cydnabod fod llawer o bobl yn dibynnu ar stofiau pren a glo i gynhesu eu cartrefi, ond mae'n dymuno adolygu'r cyfrifoldebau sydd gan gynghorau i daclo allyriadau o danau domestig.
Tanau gwyllt a choelcerthi
Mae'r adroddiad eisiau asesu cyfraniad coelcerthi domestig a th芒n gwyllt i lygredd - gan gydnabod y gallan nhw niweidio pobl iach yn ogystal 芒'r rhai sydd eisoes yn dioddef o glefydau anadlol.
Gallai rheoliadau ac ardaloedd rheoli mwg fod yn rhan o orfodi, yn dibynnu ar lefelau llygredd.
Defnydd o geir
Mae'n addo edrych ar ffyrdd o gwtogi ar ddefnydd ceir - fel prisio ffyrdd, parthau aer gl芒n a chymhellion i sgrapio cerbydau sy'n creu mwy o lygredd.
Plannu coed
Fe all y "goeden iawn yn y lle iawn" helpu i wella ansawdd aer, yn ogystal 芒 dod 芒 buddion ehangach, fel adfer cynefinoedd sensitif sydd wedi'u difrodi gan lygredd aer, yn 么l y cynllun.
Dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar eu bod yn croesawu'r cynllun ond bod "angen gweithredu ar frys".
"Mae'n galonogol gweld bod cynigion cynhwysfawr mewn amrywiaeth聽o feysydd o deithio i'r economi, er enghraifft monitro'r aer tu allan i'n hysgolion ac ysbytai, cynyddu teithio llesol, a phlannu coed i amsugno aer brwnt," meddai.
"Ond mae angen gweithredu ar frys. Gallwn ni ddim aros blynyddoedd i gael deddfwriaeth yn ei le.
"Mae llygredd aer yn lladdwr tawel, felly mae angen Deddf Aer Glan arnom o fewn tymor y Cynulliad yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018