91热爆

Drakeford: Terfyn cytundeb masnach yn 'beryglus'

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd araith y Frenhines yn adlewyrchu cynlluniau'r llywodraeth ar gyfer Brexit a'r GIG yn Lloegr

Mae Prif Weinidog Cymru wedi beirniadu cynllun Boris Johnson i osod dyddiad terfynol ar gyfer dod i gytundeb masnach gyda'r UE fel un "peryglus a chamarweiniol".

Mae'r cynllun wrth wraidd rhaglen lywodraethu'r Ceidwadwyr, gafodd ei amlinellu yn araith y Frenhines ddydd Mawrth.

Dywedodd Mark Drakeford na fyddai'r cynlluniau'n dod a'r "saga Brexit" i ben.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, bwysleisio nad oedd unrhyw s么n yn yr araith am yr arian fyddai'n dod i Gymru ar 么l Brexit.

Fe wnaeth Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, groesawu'r "cynllun uchelgeisiol ar gyfer y DU".

'Peryglus'

Wrth gyflwyno'r cynlluniau yn San Steffan ddydd Iau, fe wnaeth y llywodraeth Geidwadol nodi mai'r flaenoriaeth oedd sicrhau bod y DU yn gadael yr UE ar 31 Ionawr, gyda deddfau mewn lle i atal unrhyw gynlluniau i ymestyn y cyfnod trosglwyddo wedi Rhagfyr 2020.

Bydd mesurau eraill yn gosod y trefniadau ar gyfer ffermio, pysgota, gwasanaethau ariannol a sectorau eraill ar 么l i Brexit ddigwydd.

Mae bwriad i gyflwyno "system bwyntiau ar fewnfudo" fydd yn caniat谩u i'r DU groesawu gweithwyr sydd 芒 sgiliau, gyda fisa arbennig yn cael ei ddarparu i gyflymu'r broses i bobl broffesiynol sy'n gweithio ym maes iechyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynlluniau Brexit Boris Johnson yn "beryglus", a byddai'n "ddinistriol i Gymru", yn 么l Mark Drakeford

Roedd ymrwymiad i fuddsoddi 拢34bn yn ychwanegol yn y GIG yn Lloegr, a hefyd addewid i dorri trethi busnes ar gyfer miloedd o fasnachwyr, bwytai a thafarndai ar draws Cymru a Lloegr.

Wrth ymateb, dywedodd Mr Drakeford: "Mae cloc Brexit y prif weinidog sy'n tician yn un peryglus.

"Mae'n codi'r posibilrwydd o Brexit digytundeb erbyn diwedd 2020, fyddai'n drychinebus i Gymru. Ni fyddai chwaith yn dod a'r saga Brexit yma i ben."

'Cadw at ei air'

Wrth gyfeirio at iechyd, dywedodd Mr Drakeford: "Rydym wedi galw ers amser am gynnydd i wariant ar y GIG, felly dwi'n croesawu'r ymrwymiad yma.

"Ond mae'n bryd i'r prif weinidog weithredu er mwyn i ni gael dechrau'r broses o ail-adeiladu wedi degawd o lymder."

Fe wnaeth Ms Saville Roberts ddweud fod araith y Frenhines wedi dangos "difaterwch llwyr" tuag at Gymru.

"Does gan yr araith yma ddim syniadau newydd ac mae'n methu 芒 chyflawni'r arian sydd wedi'i addo i Gymru yn ystod y refferendwm.

"Dydyn ni ddim hyd yn oed yn gwybod beth fyddai'n dod yn lle'r arian yr ydyn wedi ei dderbyn o Ewrop ers degawdau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Paul Davies (dde) fod y Prif Weinidog, Boris johnson (chwith) wedi "cadw at ei air" ac y byddai'n "cyflawni Brexit"

Fe wnaeth Mr Davies ddatgan fod y prif weinidog wedi "cadw at ei air" ac y byddai'n "cyflawni Brexit fyddai'n gwella ffyniant a chyfleoedd i bawb yn y DU".

Wrth gyfeirio at y dirywiad yn y ffigyrau iechyd ar amseroedd aros yng Nghymru, dywedodd Mr Davies fod Llywodraeth Cymru wedi "gadael y Cymry i lawr", gyda phedwar o'r saith bwrdd iechyd wedi derbyn ymyrraeth o ryw fath gan y llywodraeth.

Ychwanegodd y byddai'r gr诺p Ceidwadol yn erfyn ar weinidogion Llafur i wario 拢1.9bn yn ychwanegol fydd yn cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth y DU ar "wella canlyniadau i gleifion Cymru".