91热爆

Pwy yw ASau newydd Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Fay Jones, Virginia Crosbie a Sarah Atherton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fay Jones, Virginia Crosbie a Sarah Atherton yw ASau benywaidd cyntaf y Ceidwadwyr yng Nghymru erioed

Mae 10 o'r ASau gafodd eu hethol yng Nghymru yn rhai nad oedd yn aelodau fis yn 么l, gyda naw ohonyn nhw yn enwau newydd i San Steffan.

Oherwydd cyfuniad o ymddeoliadau a phleidiau'n colli'r etholiad, dyma fydd y 10 enw, gydag ychydig o fanylion amdanyn nhw.

Aberconwy - Robin Millar

Cafodd Mr Millar ei eni ym Mangor a chael ei addysg yno, ond yn fwy diweddar bu'n byw yn Suffolk lle bu'n gynghorydd Ceidwadol.

Ef oedd ymgeisydd Ceidwadol Arfon yn 2010, ond cafodd ei ddewis i olynu Guto Bebb fel ymgeisydd Aberconwy.

Mae'n beiriannydd sifil sydd hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd rheolaeth.

Brycheiniog a Sir Faesyfed - Fay Jones

Mae Fay Jones wedi gweithio i undeb ffermwyr yr NFU ac i DEFRA, ac hefyd yn swyddfa'r Tywysog Charles.

Er iddi bleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, mae'n dweud fod "angen cyflawni Brexit er mwyn canolbwyntio ar faterion sy'n bwysig i bobl leol".

Ei thad yw Gwilym Jones, cyn AS Gogledd Caerdydd a fu hefyd yn weinidog yn Swyddfa Cymru

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rob Roberts - AS newydd Delyn - wedi bod yn gricedwr brwd yn yr ardal ers degawdau

Cwm Cynon - Beth Winter

Ms Winter gafodd ei dewis fel ymgeisydd Llafur Cwm Cynon yn dilyn ymddeoliad Ann Clwyd, sydd wedi cynrychioli'r etholaeth ers 1984.

Cafodd ei geni a'i magu yng Nghwm Cynon, ac mae'n byw yno gyda'i theulu.

Yn ddiweddar fe gafodd ei doethuriaeth o Brifysgol Abertawe.

De Clwyd - Simon Baynes

Mr Baynes yw AS Ceidwadol cyntaf yr etholaeth gan iddi fod yn nwylo Llafur ers ei sefydlu yn 1997.

Mae'n byw ger Y Waun, ac mae'n un o ymddiriedolwyr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Mae hefyd yn rhedeg elusen Concertina - Cerddoriaeth i'r Henoed, sy'n darparu cerddoriaeth fyw mewn cartrefi gofal a chanolfannau dydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr James Davies wedi cael ei ethol fel AS Dyffryn Clwyd am yr eildro

Delyn - Rob Roberts

Cynllunydd ariannol yw'r Cymro Cymraeg Rob Roberts, sydd hefyd yn ddirprwy gadeirydd Ceidwadwyr Delyn.

Mae wedi byw yn yr etholaeth erioed, ac fe gafodd ei fagu ger Llaneurgain lle bu'n gricedwr brwd am 30 mlynedd.

Mae bellach yn byw gyda'i deulu yn Yr Wyddgrug.

Mae'n llywodraethwr ar ddwy ysgol leol.

Dyffryn Clwyd - James Davies

Nid yw James Davies yn enw gwbl newydd gan iddo gynrychioli Dyffryn Clwyd am ddwy flynedd ar 么l ennill etholiad cyffredinol 2015 cyn i Chris Ruane ei hennill yn 么l yn 2017.

Mae Dr Davies yn feddyg teulu gafodd ei eni a'i fagu ym Mhrestatyn.

Pen-y-bont ar Ogwr - Jamie Wallis

Mr Wallis yw AS Ceidwadol cyntaf Pen-y-bont ar Ogwr ers 1987.

Roedd canlyniad nos Iau yn syndod gan fod gan Madeleine Moon mwyafrif o 10% yno yn 2017.

Pleidleisiodd Mr Wallis o blaid gadael yr UE.

Ffynhonnell y llun, Cyngor RCT
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alex Davies-Jones - sy'n gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf - yw AS newydd Pontypridd

Pontypridd - Alex Davies-Jones

Mae Pontypridd wedi ethol AS Llafur ers dros 97 mlynedd, a Ms Davies-Jones sy'n olynu Owen Smith wedi iddo yntau gyhoeddi na fyddai'n sefyll yn 2019.

Mae Ms Davies-Jones yn gynghorydd yn Nhonyrefail ac yn gweithio i gwmni D诺r Cymru.

Pan gafodd ei dewis fel ymgeisydd dywedodd y byddai'n "anrhydedd i gynrychioli fy nghymuned yn San Steffan".

Wrecsam - Sarah Atherton

Ms Atherton yw AS Ceidwadol cyntaf Wrecsam ers i'r etholaeth gael ei sefydlu yn 1918 - bu'n sedd Lafur ddiogel am y rhan fwyaf o'r cyfnod ers hynny.

O fymryn, hi hefyd yw'r AS Ceidwadol benywaidd cyntaf erioed yng Nghymru.

Yn frwd o blaid Brexit, fe safodd fel ymgeisydd yn isetholiad y Cynulliad yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn 2018.

Cafodd ei beirniadu yn ystod yr ymgyrch am y diffyg Cymraeg ar eu deunydd ymgyrchu i'r etholiad, ond mynnodd mai dyna oedd y "peth call ar 么l ymchwilio i faint oedd yn siarad Cymraeg yn yr ardal".

Ynys M么n - Virginia Crosbie

Fe safodd Ms Crosbie yn y Rhondda yn 2017, ond cafodd ei dewis i sefyll ym M么n wedi i Chris Davies dynnu n么l.

Mae'n un o gyfarwyddwyr Women2Win - mudiad a sefydlwyd gan Theresa May yn 2005 er mwyn ymgyrchu dros gael mwy o fenywod i lywodraeth leol a San Steffan.

Bu'n ddirprwy gadeirydd Cymdeithas Geidwadol Kensington, Chelsea & Fulham, ac mae hi wedi byw yng Ngorllewin Sussex ers 10 mlynedd.

Cyn yr etholiad fe wnaeth addo symud y cartref teuluol i Ynys M么n pe byddai'n ennill.

Roedd ei thaid yn l枚wr o Ferthyr Tudful, a'i thad o Drefynwy.