Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhesymau 'cymhleth' dros hunanladdiadau pobl ifanc
Materion fel cam-drin rhywiol, profedigaeth a phroblemau mewn addysg yw rhai o'r rhesymau sy'n gysylltiedig 芒 hunanladdiadau ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn 么l astudiaeth.
Mae gwaith ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe wedi edrych ar farwolaethau 33 o bobl ifanc rhwng 13 a 18 oed dros gyfnod o bedair blynedd.
Daeth i'r casgliad bod dim un rheswm unigol pam eu bod wedi lladd eu hunain, ond bod stigma ynghylch hunan-anafu yn "her anferth" ac o bosib yn atal teuluoedd rhag gofyn am gymorth.
Mae'r mater yn "argyfwng iechyd cyhoeddus" yn 么l Lynne Neagle AC, cadeirydd gr诺p trawsbleidiol atal hunanladdiadau'r Cynulliad.
Mae lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ffordd allweddol o atal hunanladdiad, medd yr astudiaeth, ynghyd ag atal camddefnydd sylweddau ac alcohol a gwell addysg a chyfleon hyfforddiant.
Daw'r adroddiad wedi i dystiolaeth ar draws y DU ddangos bod nifer hunanladdiadau wedi codi ers 2010.
Cefndir yr hunanladdiadau
Roedd yr ieuengaf o'r 33 achos a adolygwyd yn 13 oed ac roedd 70% o'r achosion yn fechgyn.
Roedd 70% wedi profi o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod, yn cynnwys:
- camddefnyddio sylweddau;
- tlodi - roedd dros hanner yn byw mewn ardal sy'n cael ei hadnabod yn ardal o amddifadedd;
- cam-drin rhyw ac ymosodiad;
- profedigaeth;
- siom;
- trafferthion yn ystod addysg, gwaith neu hyfforddiant;
- a diffyg ymwybyddiaeth o hunan-niweidio.
Roedd chwech o'r plant wedi mynegi eu pryderon ar y cyfryngau cymdeithasol ynghynt, ac roedd gan bump hanes o hunanladdiad yn eu teulu.
Roedd wyth wedi profi tor-perthynas, a chwech wedi profi materion yn ymwneud 芒 pheidio mynd i'r ysgol neu driwantiaeth.
Mae'r adolygiad yn nodi nad oes un rheswm unigol pam fod plentyn neu berson ifanc yn lladd ei hun. Mae fel arfer yn gyfuniad o ffactorau sydd, yn 么l cyflwyniad y comisiynydd plant i'r adroddiad, yn "gymhleth".
Ond er hynny nodir bod modd atal hunanladdiad.
Dywed yr adroddiad: "Roedd nifer o'r bobl dan sylw wedi bod yn hunan-anafu ond gan nad oedd rhieni'n si诺r sut i ymateb, doedden nhw ddim yn cael cymorth gan wasanaethau a oedd wedi'u hawgrymu gan ysgolion neu arbenigwyr gofal iechyd.
"Mae stigma sydd ynghlwm 芒 hunan-anafu yn her anferth i ymdrechion atal hunanladdiad."
Chwe ffordd allweddol o atal hunanladdiad:
- Cyfyngu ar allu plant a phobl ifanc i ddod o hyd i alcohol a chyflwyno canllaw ar gyfer atal camddefnyddio sylweddau.
- Cefnogaeth barhaus i blant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
- Rheoli hunan-anafu.
- Darparu mwy o gyfleon addysg, swyddi a hyfforddiant i bobl 16-18 oed.
- Cyflwyno gwell ffyrdd o rannu gwybodaeth.
- Gwell gwybodaeth ac ymwybyddiaeth am hunan-anafu a ffactorau eraill sy'n gsylltiedig 芒 hunanladdiad.
Beth ddylai ddigwydd?
Dywed arweinydd yr adolygiad, yr Athro Ann John o Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod yr adolygiad yn cynnig fframwaith i daclo rhai o'r materion allai fod yn gysylltiedig.
"Ry'n ni angen delio 芒 materion fel camddefnydd alcohol a sylweddau ymhlith pobl ifanc a sicrhau bod pobl ifanc sy'n cael eu cam-drin neu'n dioddef profedigaeth yn cael therapi a all eu cefnogi," meddai.
Yn 么l Lynne Neagle AC, yr adolygiad yw'r "peth agosaf sydd gennym i glywed lleisiau'r bobl ifanc fu farw o hunanladdiad".
"Does dim yn fwy pwysig nag atal pobl ifanc rhag marw trwy hunan-laddiad - mae e bron yn argyfwng iechyd cyhoeddus.
"Rhaid bod yn benderfynol o atal hunanladdiadau ar frys."
Ychwanegodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland: "Rwy'n angerddol am gael cefnogaeth gynnar a mwy unedig i blant sydd ag anghenion iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
"Mae'r adolygiad yn dangos bod angen cefnogaeth a newidiadau yng nghymunedau Cymru."
Os oes gennych chi bryderon allai arwain at hunanladdiad mae modd cysylltu 芒'r Samariaid ar 116 123 neu jo@samaritans.org - neu mae modd ymweld 芒 gwefan 91热爆 Action Line website neu cysylltu 芒 llinell ar0800 132 737.