91热爆

Cymorth hunanladdiad: Y boen o golli merch yn taro 'fel gordd'

  • Cyhoeddwyd
Nina Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Nina Roberts bod hunanladdiad yn "farwolaeth dreisgar" ac felly bod angen cefnogaeth briodol

Mae mam i ddynes a laddodd ei hun wedi galw am wella'r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan hunanladdiad.

Dywedodd Nina Roberts o Ynys M么n bod marwolaeth ei merch, Alice Minnigin, ar 7 Awst 2018 wedi ei tharo "fel damwain car" a bod ei bywyd heb fod yr un fath ers hynny.

Mae hi'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno gwasanaethau fyddai'n cynnig cefnogaeth i deuluoedd sy'n galaru yn sgil hunanladdiad.

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod eisiau "cydweithio" gyda theuluoedd er mwyn creu ffynhonnell gymorth arbennig.

Ar 26 Mai, fyddai wedi bod yn ben-blwydd Alice yn 33, fe aeth ei theulu a'i ffrindiau i wasgaru ei llwch ar fynyddoedd y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.

A hithau wedi sefydlu ei hun fel nyrs mewn ysbyty ym Mryste, daeth marwolaeth Alice fel sioc fawr i'w theulu.

Ond dywedodd ei mam bod arwyddion wedi bod yno erioed oherwydd plentyndod anodd Alice.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Disgrifiodd Nina ei merch fel person "doniol iawn, gofalgar, disglair ac unigryw"

Mae Nina'n dweud bod Alice wedi cael ei cham-drin gan ei thad pan yn blentyn, a bod yntau wedi lladd ei hun yn ddiweddarach.

"Roedd ei phlentyndod yn un anodd ac roedd o'n anodd iddi ddelio 'efo beth ddigwyddodd iddi. Roedd 'na lot o hunan-niweidio, roedd 'na lot o gyffuriau ac alcohol.

"Ond fe weithiodd hi'n galed iawn i ddod dros hyn."

'Troi bywyd ben i waered'

Gwelodd Nina ei merch dair wythnos cyn iddi farw, ac esboniodd mai dyma'r "gorau i mi erioed weld Alice".

Ond yn Awst 2018, daeth Nina adref i glywed y newyddion gan ei g诺r bod Alice wedi marw.

"Rydych yn cael cnoc ar y drws ac mae'ch bywyd yn cael ei droi ben i waered ac rydych wedi cael eich gadael ar 么l i godi'r darnau.

"Ond unwaith mae'r goleuadau glas yn mynd yr oll rydych yn ei gael ydy rhif digwyddiad ar gyfer eich plentyn sydd wedi marw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Nina bod y "sioc yn anghredadwy" a'r boen yn "rhyfedd iawn"

Esboniodd Nina y byddai wedi gwerthfawrogi cefnogaeth gan swyddog cyswllt teulu, fel petai rywun sydd wedi marw mewn damwain car neu lofruddiaeth yn ei gael.

Roedd hi'n ddigon lwcus i gael cefnogaeth gan deulu a ffrindiau ond esboniodd "nad oes gan bawb hynny".

"Mae rhai pobl ar eu pen eu hunain ac ni allaf ddychmygu sut mae hynny'n teimlo iddyn nhw."

'Lle mae'r terfyn'

Mae Nina, sy'n rheolwr iechyd meddwl gydag elusen Anheddau, yn cydweithio gyda Betsi Cadwaladr i sicrhau bod llwybr ataliad yn cael ei gyflwyno.

"Mae'n rhywbeth sylfaenol sydd ei angen. Os oes cefnogaeth ataliol well yn ei le yna gall hynny weithio i atal digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol.

"Collodd fy merch ei bywyd oherwydd hunanladdiad, a chollodd ei thad ei fywyd oherwydd hunanladdiad. Lle mae'r terfyn?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Lesley Singleton bod hyd at 10 person yn cael eu heffeithio gan hunanladdiad rhywun maen nhw'n ei adnabod

Mae'r achos wedi gwneud i'r bwrdd iechyd sylweddoli bod angen newid, yn 么l Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau Iechyd Meddwl gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Soniodd eu bod eisiau "gweithio gyda phobl fel Nina i greu ffynhonnell gymorth sydd wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer pobl sy'n galaru ar 么l hunanladdiad".

"Da ni hefyd yn clywed achosion lle mae teuluoedd yn gorfod cysylltu 'efo sawl sefydliad yn dilyn marwolaeth.

"Rydym eisiau gwneud pethau'n haws i deuluoedd trwy benodi unigolyn sy'n ganolbwynt cyswllt ar gyfer hyn i gyd," meddai.

Am wybodaeth am sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth, ewch i wefan 91热爆 Action Line.