Angen 'gweithredu ar frys i atal epidemig' hunanladdiadau
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y dynion sy'n lladd eu hunain pob blwyddyn yn "epidemig", yn 么l tad a gollodd ei fab i hunanladdiad bedair wythnos yn 么l.
Cafodd Gavin Pugh, oedd yn 27 oed ac yn wreiddiol o Borthmadog yng Ngwynedd, ei ganfod yn ei gartref yng Nghaerdydd bedair wythnos yn union i ddydd Mawrth.
Yn 么l ei dad Arwel Pugh, mae angen gwneud mwy i waredu'r stigma sy'n parhau i fod ynghylch iechyd meddwl.
Mae ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod cynnydd graddol wedi bod yn nifer y dynion sy'n lladd eu hunain rhwng 2017 a 2016.
'Andros o sioc'
"Roedd o'n gythraul o ergyd. Ro'n i'n gwybod ei fod o dipyn bach dan y don," meddai Mr Pugh.
"Doedd o ddim fo ei hun. Ond fuodd o adra'r penwythnos cyn iddo ddigwydd ac roedd o llawn ei hwyliau.
"Peth diwethaf ddywedodd o wrth adael oedd 'welai chi mewn pythefnos'.
"Doedd o byth yn s么n am y byd a'r betws ond roeddwn i'n ymwybodol ei fod o yn diodde' dipyn bach ond roeddwn i'n cymryd fod popeth dan reolaeth.
"Roedd o'n andros o sioc i ni."
'Dim cywilydd'
Yn 么l Arwel Pugh mae angen i fwy o bobl siarad am iechyd meddwl.
"Does 'na ddim digon [o siarad]," meddai.
"Dwi'n meddwl fod 'na stigma a chywilydd a tydi pobl ddim eisiau siarad allan.
"Ond bellach does 'na ddim cywilydd yn fy ngolwg i, mae o fel pob un salwch arall. Yr unig air allai feddwl i ddisgrifio fo ydi epidemig.
"Mae angen i rywbeth gael ei wneud ar frys.
"Mae angen codi ymwybyddiaeth, mae o angen bod yn y wasg, yn y papurau ac ar gyfryngau cymdeithasol."
Ymgyrchu dros ddealltwriaeth
Mae ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod cynnydd graddol wedi bod yn nifer y dynion sy'n lladd eu hunain rhwng 2007 a 2016 ac er nad yw'r ffigurau yn rhai enfawr, maen nhw'n parhau yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.
Pob blwyddyn mae oddeutu 300-350 o bobl yn lladd eu hunain yng Nghymru.
Yn 么l Arwel Pugh mae'n bwriadu parhau i ymgyrchu dros ddealltwriaeth well o gyflyrau iechyd meddwl er mwyn sicrhau nad oes "neb yn gorfod mynd trwy" yr hyn mae o a'i deulu yn ar hyn o bryd.
I gofio Gavin mae ei deulu a'i ffrindiau wedi trefnu taith redeg ym Mhorthmadog a Chaerdydd nos Fawrth gyda'r gobaith o gyfleu'r neges fod hi byth rhy hwyr i siarad.
Os ydych wedi cael eich effeithio gan y stori hon gallwch alw'r Samariaid am fwy o gymorth ar 0808 164 0123.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019